Skip page header and navigation

Mae myfyriwr BA Actio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cael cyfle i deithio i’r Unol Daleithiau i dreulio semester yn astudio ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton.

Celeste Turnbull yn gwenu mewn hunlun a’r tu ôl iddi mae dau fyfyriwr yn siarad wrth ymyl darn mawr o offer goleuo llwyfan.

Penderfynodd Celeste Turnbull ei bod am astudio am semester yn yr Adran Theatr a Dawns ar ôl clywed am y profiad gan fyfyrwyr eraill yn y Drindod Dewi Sant. Gwnaeth Celeste gais am y cyfle hwn ar ôl mynd i gyfarfod anffurfiol, ac ar ôl hynny, cafodd ei hun ar y ffôn gyda’i mamau yn dweud wrthynt ei bod am fynd i America.  

I Celeste, mae symud i Galiffornia wedi helpu ei datblygiad personol gan ei bod wedi dod yn fwy annibynnol.

“Mae camu i ddiwylliant gwahanol wedi bod yn agoriad llygad go iawn. Agorodd fy meddwl i draddodiadau a gweithgareddau newydd na fyddwn wedi cael cyfle i’w harchwilio o’r blaen. O fwyd i chwaraeon, i ddathliadau diwylliannol, mae ‘na amrywiaeth o bethau a fyddai o ddiddordeb i unrhyw un. Rydw i wedi datblygu parch enfawr at y bobl a’u diddordebau yn fwy nag o’r blaen, ac wedi mwynhau dod i wybod am yr hanes y tu ôl i’r cyfan.”

Ers cyrraedd yn Fullerton, mae Celeste wedi teimlo “wedi fy nghroesawu yn rhan o gymuned eang sy’n ymestyn ymhellach na fy mhrif bwnc yn y theatr. Rydw i wedi cwrdd â nifer fawr o bobl sydd i gyd wedi bod yn gymwynasgar ac amyneddgar gyda mi, sydd wedi fy annog i adael fy man cysurus i gael cipolwg ar fyd mwy o faint.”

Mae’r profiad hwn wedi helpu Celeste i ddeall y gwahaniaethau diwylliannol yn y diwydiant rhwng y ddwy wlad:

“Y gymhariaeth fwyaf â’r Drindod Dewi Sant yw’r diwylliant. Daeth hyn hyd yn oed yn fwy amlwg yn fy nosbarth ysgrifennu ar gyfer y llwyfan wrth i mi roi cynnig ar ysgrifennu comedïaidd. Ar ôl cyflwyno drafft cyntaf fy nrama, dysgais fod yr hyn yr ydw i’n ei ystyried yn gomedïaidd yn wahanol oherwydd fy magwraeth a’r bobl o’m cwmpas. Tyfais i fyny’n gwylio Gavin & Stacey, a oedd yr ysbrydoliaeth fwyaf ar gyfer fy nrama. Yn ystod y darlleniad cyntaf o’m drama, cafodd y dosbarth drafferth i ddeall llawer o’r comedi. Dysgodd hyn i mi nid yn unig fod y diwylliant yn wahanol, ond hefyd fel actor, bod yn rhaid i mi dalu mwy o sylw at safle a lleoliad drama, fel y gallaf grynhoi a phortreadu’r diwylliant mor gywir a phriodol â phosibl.”

Mae’r daith hon wedi cyfoethogi astudiaethau Celeste gan fod ganddi bellach brofiad ehangach y tu hwnt i actio yn unig. Mae hi wedi dysgu am yr hyn sydd ei angen i ysgrifennu drama, cyfarwyddo drama, a pherfformio mewn drama, yn ogystal â sut mae’r rhain yn trosglwyddo i’r camera ac i theatr gerddorol.

“Rydw i wedi datblygu sgiliau o ran gweithio gyda chwmni, a chasglu dealltwriaeth fanylach o’r hyn sydd ei angen i gynhyrchu darn o theatr llwyddiannus. Rydw i wedi cael cyfle i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant fel y Cyfarwyddwr Broadway a’r Dramodydd Americanaidd, Luke Yankee, yn ogystal  â’r Actor a’r Cyfarwyddwr, Mark Ramont. Mae’r profiad hwn wedi fy agor i fwy o gyfleoedd o fewn y diwydiant actio gan fod gen i gysylltiadau personol â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.”

Meddai Rheolwr Rhaglen y BA Actio yn y Drindod Dewi Sant, Lynne Seymour:

“Mae’r bartneriaeth gyda Fullerton yn LA wedi bod yn amhrisiadwy i’n staff a’n myfyrwyr ac mae’n gyfle gwych i feithrin sgiliau a hyder yn ein myfyrwyr yn ogystal â’r myfyrwyr hynny o Fullerton sy’n gallu astudio gyda ni yng Nghaerfyrddin am semester.

“Mae Celeste wir wedi cofleidio’r profiad ac wedi tyfu fel perfformiwr yn ogystal ag o ran datblygiad personol. Yn ein sgyrsiau wythnosol, mae wedi bod yn wych clywed am ei hanturiaethau, amdani’n gwneud ffrindiau newydd ac yn teithio o gwmpas LA a’r cyffiniau yn ogystal â gweld ei sgiliau academaidd ac ymarferol yn tyfu ac yn aeddfedu. Alla i ddim ag aros i’w chroesawu’n ôl i’r campws ar ôl y Nadolig a’i gweld yn ffynnu yn ei hyder a’i hagwedd newydd. Rydw i mor falch ohoni a’r holl fyfyrwyr sy’n penderfynu mynd amdani ac ymgeisio ar gyfer y rhaglen Astudio Dramor. Mae’n bendant yn brofiad sy’n newid bywyd ac mae ein myfyrwyr yn wastad yn dychwelyd wedi’u cyfoethogi’n ddiwylliannol a gydag awch newydd at wybodaeth ac antur!”

Ugain o bobl ifanc yn closio’n agos at ei gilydd ac yn gwenu; mae Celeste yn gorwedd ar y llawr ar flaen y grŵp ac yn edrych i fyny at y camera.

Mae’r Drindod Dewi Sant wedi sefydlu cysylltiad â Phrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton, ers 2001, ond gyda chymorth cyllid Taith, mae’r brifysgol yn gobeithio darparu’r cyfle symudedd byd-eang hwn i fyfyrwyr eraill yn y dyfodol.

Ychwanega Celeste:

“Yr hyn a oedd yn help mawr i wneud y daith hon yn bosibl oedd Taith. Fe wnaeth y cymorth a gynigwyd gyda chyllid ychwanegol leihau’r straen o ran costau yn gynnar. Cefais fy atgoffa dro ar ôl tro o’r cymorth a oedd ar gael i mi, ac roedd y broses ar gyfer gwneud cais am gyllid wedi’i fapio’n glir, a wnaeth y broses yn haws a mwy cyraeddadwy hefyd. Gyda’r cymorth hwn ar waith, rydw i wedi gallu archwilio Califfornia yn ystod fy amser hamdden, sy’n rhywbeth na fyddwn i wedi gallu ei wneud cymaint cynt.”

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd Allanol) y Drindod Dewi Sant:

“Mae’n bwysig nodi y gall manteision astudio dramor amrywio yn dibynnu ar y cyrchfan, y rhaglen, a nodau unigol. Cyn penderfynu astudio dramor, mae’n hanfodol ymchwilio a chynllunio’n ofalus, gan ystyried amcanion academaidd a gyrfaol, ystyriaethau ariannol, a diddordebau personol.

“Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau i gyfnewid â’r Adran Theatr a Dawns ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton (CSUF). Mae’n sefydliad enwog ac uchel ei barch sy’n cynnig rhaglenni israddedig a graddedig yn y theatr a dawns. Mae CSUF wedi’i leoli yn Fullerton, Califfornia, ac mae’r Adran Theatr a Dawns yn rhan o Goleg y Celfyddydau yn y brifysgol.”

Meddai Hannah Clayton, Swyddog Symudedd Rhyngwladol y Drindod Dewi Sant:

“Mae’r cyfle i astudio am semester ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton, yn andros o werthfawr i’r myfyrwyr BA Actio yn y Drindod Dewi Sant. Mae’n cynnig cyfle i’r myfyrwyr gael gwir brofiad ‘Prifysgol Americanaidd’ wrth ddatblygu eu sgiliau actio ochr yn ochr â charfan newydd o fyfyrwyr, gan ddyfnhau eu dealltwriaeth o ddiwylliannau eraill, ac ennill profiad bywyd hanfodol.

“Mae’r Drindod Dewi Sant yn cefnogi ei myfyrwyr drwy gydol proses gyfan eu semester dramor yn Fullerton Talaith Califfornia, sy’n cynnwys darparu cyllid iddynt drwy gynllun ariannu dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru – Taith. Ni fydd y cyllid yn talu am yr holl gostau, ond mae wir yn helpu i ychwanegu at gynilon personol myfyrwyr, benthyciadau, a ffynonellau ariannol eraill i fynd dramor.”

Wrth i Celeste fwynhau ei chyfnod yn Fullerton, mae hi’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r Drindod Dewi Sant ac i adfyfyrio ar yr hyn a ddysgwyd ganddi.

“Yr hyn y byddaf yn dod â nhw’n ôl gyda mi i’r Drindod Dewi Sant fydd fy sgiliau cydweithio a chynhyrchiant uwch. Rwy’n gwybod am bwysigrwydd ac felly manteision canfod cymhelliant a chwblhau gwaith ar amser. Byddaf hefyd yn gwerthfawrogi fy amser hamdden yn fwy, ac yn ei ddefnyddio i ailymweld â rhai o’m hoff lefydd yn y DU.”

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cyfleoedd Go Global, ewch i: ‘Cyfleoedd Byd-Eang’ yn uwtsd.ac.uk neu anfonwch e-bost at goglobal@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau