Skip page header and navigation

Mae Elicia Axon, sydd wedi graddio o’r cwrs BA Actio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cydweithio gyda Fio ar brosiect cyffrous i greu newid cadarnhaol yn sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru. 

Elicia Axon sitting in a chair on set

Cwmni theatr a chelfyddydol wedi’i leoli yng Nghaerdydd yw Fio, a’i weledigaeth yw bod pobl o’r Mwyafrif Byd-eang yn cael eu hymgorffori ac yn ffynnu  ym mhob agwedd ar theatr a’r celfyddydau yng Nghymru. Maen nhw’n helpu i siapio newid trwy ddarparu llwybrau a chyfleoedd i ddatblygu, creu a phrofi theatr a chelfyddydau cyffrous. Gan gynrychioli diwylliant a hunaniaeth Gymreig amrywiol gyfoes, bwriad y cwmni yw dileu rhwystrau a chynnig gweledigaethau cynhwysol a chroestoriadol ar gyfer y dyfodol.

Cysylltodd y cwmni ag Elicia Axon i ymuno ag Arise – Wales Creatives – rhaglen datblygu artistiaid blwyddyn o hyd am dâl sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr creadigol ar ddechrau eu gyrfa, o bob oed ac o bob rhan o Gymru. Mae’r cwmni’n canolbwyntio ar weithio gyda phobl o fewn y mwyafrif byd-eang, pobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau.

Yn ystod y rhaglen, llwyddodd Elicia i gydweithio ag aelodau eraill, cynhyrchu prosiectau cyffrous a rhannu straeon.

Meddai: “Ers rhaglen Arise, mae Fio wedi bod yn hynod gefnogol gan gynnig cyfleoedd, ac roedd y cyfle penodol hwn yn arbennig. Gyda chymorth ariannol a chreadigol gan Fio, cynhyrchais osodwaith amlgyfrwng a oedd yn cynnwys ffilm, bath a llinyn. Roedd y gosodwaith yn canolbwyntio ar hunanhyder, rhywbeth y gallwn ni fel gwneuthurwyr theatr ei chael yn anodd weithiau.”

Roedd creu gosodweithiau yn rhywbeth yr oedd Elicia’n anghyfarwydd iawn ag ef, ond mae’n rhywbeth a oedd yn wastad wedi apelio ati.

Dywedodd: “Roeddwn i’n ddiolchgar fy mod i wedi gallu archwilio hyn o’r maes creu theatr mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwy’n dwli ar actio ond rwy’n wneuthurwr theatr brwd iawn hefyd, rwy’n hoffi creu gwaith sy’n adlewyrchu fi, pwy ydw i fel person. Rydw i’n wastad wedi meddwl bod theatr yn adnodd addysgol gwych, felly mae gallu creu gwaith sydd nid yn unig yn ysgogol yn weledol ond sydd hefyd â gwers y tu ôl iddo yn gyffrous iawn.”

Roedd yn ddarn a oedd yn dangos bregusrwydd a llwyddodd Elicia drwyddo i fynegi ei hun drwy ysgrifennu a delweddau. Roedd ganddi reolaeth greadigol lawn a threuliodd 5 diwrnod yn ymchwilio ac yn datblygu’r prosiect yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.

Ar ddiwedd y prosiect, cafodd y rhaglen arddangosfa breifat o’u gwaith lle gwahoddwyd gweithwyr creadigol Cymreig o’r diwydiant i ymuno. Fe wnaethant gynnig eu hadborth a’u mewnwelediadau ar y darn, ac o ganlyniad, mae hi bellach yn gweithio tuag at ddatblygu’r cynhyrchiad ymhellach yn 2024.

Dywedodd Elicia na fyddai wedi gwneud yn fawr o’r cyfle hwn heb y sgiliau a addysgwyd ac a ddatblygwyd trwy ei gradd BA Actio yn PCYDDS. 

“Rwy’n weithiwr creadigol amryddawn ac rwy’n gwybod bod hynny o ganlyniad i’m hyfforddiant yn PCYDDS. Mae’r hyfforddiant rydych chi’n ei gael yn anhygoel. Maen nhw nid yn unig yn eich addysgu i fod yn actor gwych, ond maen nhw hefyd yn eich annog i wneud a chreu eich gwaith eich hun. Oherwydd fy amser yn PCYDDS, rwy’n gwybod sut i gyfathrebu’n effeithiol ag actorion, cyfarwyddwyr, dylunwyr goleuadau ac ati.

“Mae cyfathrebu’n hynod bwysig ym maes y theatr. Rwy’n gwybod am amserlennu, sut i redeg ystafell ymarfer, sut i baratoi fy hun yn iawn ar gyfer prosiect newydd, sut i ofalu am fy nghorff a’m meddwl tra byddaf yn gweithio ar brosiect. Yr holl bethau hyn nad ydych chi wir yn eu hystyried wrth ddewis gyrfa ym maes actio.”

Meddai Lynne Seymour, Cyfarwyddwr Rhaglen BA Actio: 

“Mae hi wedi bod yn wych gweld Elicia’n datblygu ac yn tyfu fel crëwr a pherfformiwr. Roedden nhw’n wastad yn fyfyriwr ardderchog ac ymroddgar a oedd nid yn unig yn rhagori yn eu hastudiaethau ond a wnaeth gysylltiadau gwerthfawr â’r diwydiant hefyd gyda’r tiwtoriaid llawrydd allanol rydyn ni bob tro’n dod â nhw i mewn i addysgu ar y cwrs. Gwnaeth Elicia gysylltiadau defnyddiol yn ystod y cwrs ac mae wedi parhau i adeiladu eu rhwydwaith ac ymgorffori eu hun o fewn y gymuned greadigol yng Nghaerdydd a thu hwnt. Wynebodd Elicia sawl her yn ystod eu cwrs gradd wrth i ni fynd drwy gyfnod clo Covid a chyfyngiadau ar fannau ymarfer ymarferol, ac rwy’n credu bod eu penderfyniad i ffynnu drwy’r heriau hyn wedi helpu i’w gwneud yn weithiwr creadigol angerddol a gwydn. Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae wedi’i gyflawni ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu eu gwaith ymhellach.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau