Skip page header and navigation

Mae Khush Shariq yn un o raddedigion y cwrs BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyn dilyn y cwrs hwn, roedd Khush yn gynorthwyydd meithrin, am ei bod yn angerddol am weithio gyda phlant.

Khush Shariq yn gwisgo gwisg academaidd, cwfl, a het.

Penderfynodd astudio’r cwrs hwn am ei bod eisiau tyfu’n bersonol ac yn broffesiynol, a datblygu ei set sgiliau fel ymarferydd.

“Roeddwn i eisiau cael gradd yn y blynyddoedd cynnar ac roeddwn i’n chwilio am gwrs a fyddai’n caniatáu i mi weithio amser llawn tra byddwn mewn addysg amser llawn. Roedd angen cwrs gyda myfyrwyr aeddfed arnaf gan y byddai’n fwy perthnasol i’m sefyllfa, ac nid oeddwn yn teimlo’n ddigon hyderus oherwydd y bwlch o 10 mlynedd yn fy addysg.”  

Tra roedd Khush yn gweithio mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, roedd rhai o aelodau’r staff yn astudio’r cwrs blynyddoedd cynnar yn y Drindod Dewi Sant, ac ar ôl gwneud ychydig o waith ymchwil penderfynodd y byddai’n fuddiol iddi hi hefyd astudio’r cwrs hwn am ei fod yn gweddu’n berffaith i’w hanghenion.

Yn ôl Khush, y cwrs hwn yw’r peth gorau sydd wedi digwydd iddi oherwydd nid yn unig mae wedi helpu ei datblygiad proffesiynol ond mae hefyd wedi cyfrannu at ei thwf personol a’i hunanhyder. Ychwanega:

“Mae’r cwrs hwn yn hynod o agos at fy nghalon oherwydd mae wedi fy ngalluogi i fod yn fersiwn well ohonof i fy hun. Rwy’n rhiant sengl heb unrhyw deulu o gwmpas ac roeddwn i’n gweithio amser llawn tra roeddwn i’n astudio.

“Y peth gorau am y cwrs hwn yw astudio gyda gweithwyr proffesiynol eraill o gefndiroedd amrywiol ac fe wnaeth ein trafodaethau grŵp fy helpu i ddeall y byd o safbwyntiau gwahanol. Fe wnaeth ganiatáu i mi werthuso’n feirniadol fy mhroses o feddwl a datblygu gwell dealltwriaeth o’r byd. Fe wnaeth fy annog i feddwl yn feirniadol ynglŷn â pham rydyn ni’n meddwl mewn ffyrdd penodol, a sut mae ein personoliaethau’n cael eu ffurfio gan ein profiadau yn ystod ein plentyndod cynnar.”

Dywedodd Khush fod yr adran yn amyneddgar, yn gefnogol ac yn galonogol. Fel myfyrwraig aeddfed, gwnaeth cefnogaeth ac anogaeth ei darlithwyr ei chadw i fynd drwy gyfnod anodd.

“Yn ystod y cwrs hwn roeddwn i’n teimlo ein bod ni i gyd yn rhan o deulu yn dysgu oddi wrth ein gilydd. Ni allaf ddiolch digon i’r darlithwyr am fy ngwthio i ymlaen a chredu ynof pan nad oeddwn i’n gallu credu ynof i fy hun.”

“Fel myfyrwraig o dras Asiaidd a dderbyniodd addysg dramor, wnes i fyth deimlo fy mod i’n ddibwys i unrhyw un drwy gydol y cwrs – roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghynnwys, fy nghlywed a’m gwerthfawrogi’n fwy am rannu fy mhrofiadau.”

Mae Khush wir eisiau diolch i’w darlithydd Jessica Pitman oherwydd mae ei chefnogaeth a’i hanogaeth hi drwy gydol ei thaith ddysgu wedi’i harwain i ble y mae nawr.

O ran cyflogadwyedd, dywedodd Khush fod y radd BA mewn Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn agor drysau i lu o gyfleoedd gwaith yn y sector cyhoeddus a phreifat ac ar ôl cofrestru ar y cwrs, mae wedi gweithio mewn meithrinfeydd, gofal plant preswyl ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Ymarferydd Rhianta mewn Cyngor lleol.

Tra roedd yn astudio’r cwrs hwn datblygodd Khush ddiddordeb penodol yn y ffordd mae personoliaethau’n datblygu ac effeithiau hynny yn sgil Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a arweiniodd at broblemau iechyd meddwl a seicoleg. Ar hyn o bryd mae’n astudio gradd Meistr mewn Seicoleg Iechyd Meddwl i hyfforddi i fod yn Therapydd Ymddygiad Gwybyddol.

Meddai Jessica Pitman, Darlithydd Blynyddoedd Cynnar yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae wedi bod yn bleser bod yn diwtor blwyddyn ar Khush drwy gydol ei thaith yn y Drindod Dewi Sant. Daeth Khush atom yn benderfynol o fod y person gorau y gall fod, a chyda diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gweithio’n agos gyda theuluoedd.

“Gwylio myfyrwyr yn datblygu fel pobl ac fel academyddion yw rhan orau fy swydd. Mae bob amser yn rhan o’n harfer i barchu’r myfyrwyr a’u profiadau bywyd a’u cyfrifoldebau y tu allan i’w hastudiaethau.  Rwy’n gwybod bod ein darlithwyr yn gwneud ymdrech ar y cyd i ddeall cymhellion pob myfyriwr a’u hanawsterau ar eu taith. Rwy mor ddiolchgar i fod yn rhan o’r daith gyda ti, Khush.”

Byddai Khush yn argymell wrth unrhyw un sy’n dymuno cofrestru ar y cwrs hwn i wneud hynny. Does dim gwahaniaeth os oes bwlch wedi bod yn eich addysg, os ydych chi’n brin o brofiad neu os ydych yn rhiant sengl yn trafod eich amgylchiadau a’ch pryder gyda darlithwyr – byddan nhw’n sicr o roi hyder a chefnogaeth i chi oherwydd

“Rydyn ni i gyd yn wahanol iawn o ran ein hamgylchiadau, ein golwg a’n credoau ond mae’r cwrs hwn yn rhoi ymdeimlad o berthyn.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau