Skip page header and navigation

Mae Dennis Warwick, dyn 70 mlwydd oed sydd wedi graddio o’r cwrs Eiriolaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn arwain prosiect gydag Age Cymru i helpu pobl eraill.

Dennis Warwick yn sefyll wrth ochr baner godi â’r geiriau: Hope, cefnogaeth eiriolaeth annibynnol dan arweiniad gwirfoddolwyr i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ar draws Cymru.

Ymunodd Dennis â’r rhaglen BA Eiriolaeth yn 2020 ac roedd wedi cael gyrfa amrywiol cyn ymddeol, gan weithio yn Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol yn y sector Plant.  

Dywedodd: “Roedd hi’n swydd yr oeddwn i’n ei mwynhau’n fawr, yn enwedig y fraint o wylio pobl ifanc mewn gofal yn cymryd yr awenau yn eu bywydau, yn dod yn hunan-eiriolwyr ac yn codi llais drostynt eu hunain.”

Yn ystod ei amser yn PCYDDS, bu Dennis yn gwneud gwaith gwirfoddol fel cyfaill ar gyfer Age Cymru, a thrwy’r cysylltiad ar ôl graddio, mae bellach yn arwain eu Prosiect HOPE yn Sir Gâr a Sir Benfro gan recriwtio eiriolwyr wirfoddolwyr a chleientiaid.

Mae prosiect HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn darparu cymorth eiriolaeth ar gyfer pobl hŷn a gofalwyr ledled Cymru trwy gasgliad o fodelau eiriolaeth trwy recriwtio, hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr prosiect. Nod y prosiect yw cefnogi pobl yn ystod cyfnod cynnar eu problemau neu eu pryderon gan eu hatal rhag llithro i argyfwng.  

Meddai Dennis: “Mae prosiect HOPE gydag Age Cymru yn rhoi cyfle i mi ddysgu am helpu’r rheiny dros 55 oed yn y gymuned. Gan ymgysylltu â’r rheiny sydd mewn angen cyn iddynt gyrraedd cyfnod o argyfwng ac sydd angen eiriolaeth broffesiynol lawn. Rwy’n arbenigwr ar eiriolaeth plant ond rwy’n dysgu am eiriolaeth dros bobl hŷn.

“Fy rôl yw recriwtio, arwain, hyfforddi, ac annog gwirfoddolwyr i ddod yn eiriolwyr wirfoddolwyr Annibynnol. Rwy’n gweithio gyda nhw, gan helpu cleientiaid neu eu gofalwyr sydd ag angen am gymorth eiriolaeth. Er mwyn iddynt gyflawni’r canlyniadau gorau posibl. Mae popeth o dan arweiniad cleientiaid o ran eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau.”

Cyn ymuno â PCYDDS, roedd gan Dennis gymhwyster NVQ, ond roedd am barhau â’i daith ddysgu felly cofrestrodd ar y cwrs gradd Eiriolaeth ar gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd: “Fe wnes i fwynhau’r cwrs cyfan yn fawr, yn enwedig y trafodaethau agored, tryloyw a’r amrywiaeth barn gan y darlithwyr eithriadol a chydweithwyr ar y cwrs. Roedd y dadleuon, y trafodaethau a’r safbwyntiau yn ardderchog.

“Roedd yr holl ddarlithwyr yn amyneddgar iawn gyda rhywun nad oedd yn academaidd ac a ysgrifennodd ei draethawd diwethaf 55 mlynedd yn ôl. Nid oedd unrhyw rwystrau i mi o gwbl. Aeth tîm y Dyniaethau yr ail filltir i wneud i ni gyd deimlo bod croeso i ni. Roedd yn waith caled ond yn sicr yn werth yr ymdrech. Heb os, fi oedd yr hynaf ar y cwrs.”

Meddai Rheolwr Rhaglen Eiriolaeth PCYDDS, Ken Dicks:

“Fel myfyriwr hŷn, daeth Dennis â phrofiad helaeth i’w astudiaethau ar y cwrs BA Eiriolaeth a pharhaodd i ddatblygu ei sgiliau a’i ddealltwriaeth trwy wirfoddoli ochr yn ochr â’i astudiaethau academaidd. Mae ei waith gydag Age Cymru’n caniatáu iddo ddefnyddio’r wybodaeth a gafodd yn ystod ei astudiaethau i gefnogi aelodau eraill o’i gymuned.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau