Skip page header and navigation

Un o raddedigion y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Theatr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw Aeron Jones. Ers graddio’r haf diwethaf, mae wedi’i benodi’n Gynorthwyydd Prosiect Celfyddydau a Chreadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. I Aeron, ni fyddai’r swydd hon wedi bod yn bosibl heb y sgiliau a’r profiad a gafodd o’i amser yn fyfyriwr yn Y Drindod Dewi Sant.

Aeron Jones yn gwisgo’i ŵn a’i het raddio.

Yn rhan o’i rôl, mae Aeron wedi cael y cyfle i fod ynghlwm wrth bob math o gynyrchiadau’n amrywio o Cabaret i theatr gosod, yn logistaidd ac yn ymarferol. Meddai:

“Rwy’n ymdrin â meysydd o iechyd a diogelwch a chyllid yr holl ffordd i fod yn bresennol mewn sesiynau ymchwil a datblygu ac ymarferion; rydym yn delio â chylch llawn cynhyrchiad yr holl ffordd o’r cysyniadu i’r dadansoddi, ac mae’n rôl werth chweil sy’n galw’n gyson ar y sbectrwm eang o sgiliau a gwybodaeth a ddysgais yn ystod fy nhair blynedd yn Y Drindod Dewi Sant.”

Penderfynodd Aeron ddod i astudio yn Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin gan fod elfen ymarferol y cwrs yn apelio ato, ac roedd yn golygu y gallai aros yng Nghymru i ddilyn ei astudiaethau. Gan fod Aeron yn dioddef o golli clyw, roedd maint bach y cwrs yn golygu ei fod yn fwy hygyrch iddo, ac roedd cael campws lleol a mannau gweithdy penodedig ar gyfer y cwrs yn bethau cadarnhaol iawn hefyd. Ychwanega:

“Pan gofrestrais ar y cwrs, nid oedd fy hyder yn arbennig o uchel ac roeddwn i’n teimlo wedi fy nghyfyngu rhywfaint gan fy ngholli clyw – mae’n anodd mynegi’r unigedd a ddaw gyda’r anabledd sydd gen i, ond fe wnaeth y cwrs hwn chwalu’r holl rwystrau hynny i mi. Roedd y cymorth yno o’r diwrnod cyntaf, ac roedd yn sgwrs agored a chyson rhyngof fi a’r tiwtoriaid drwy’r tair blynedd gyfan ynglŷn â sut y gallem addasu ein ffyrdd o weithio i wneud yn siŵr fy mod i’n cael fy nghynnwys drwyddi draw.”

Fe wnaeth Aeron fwynhau’r profiad a roddodd y cwrs megis gweithio ar gynyrchiadau o fewn fframwaith y diwydiant. Ychwanega:

“Mae wir yn rhoi syniad i chi o’r hyn a ddisgwylir gennych os byddwch yn dilyn gyrfa ar ôl gadael y brifysgol, ond mae hefyd yn dangos eich cryfderau i chi yn yr amgylchedd hwnnw wrth ganiatáu i chi gydnabod elfennau’r diwydiant nad ydynt yn addas i chi. Heb os nac oni bai, mae’n brofiad sy’n eich herio, ond hwn oedd un o’r pethau mwyaf difyr a wnes i erioed – os oes diwydiant yn bod lle nad oes unrhyw beth yn digwydd yn ôl y cynllun, cynhyrchu theatr yw hwnnw!

“Roedd cynnwys gweithwyr proffesiynol y diwydiant hefyd yn ddeniadol iawn i mi oherwydd mae’r diwydiannau creadigol yn seiliedig ar rwydweithio cymaint ag y maent ar sgiliau a gwaith caled, felly cefais lawer o hyder y byddai fy ngradd yn cael effaith ystyrlon o wybod bod y cwrs yn mynd i daclo’r tri ffactor hynny.”  

Rhoddodd y cwrs wydnwch i Aeron hefyd, ac mae o’r farn y’i helpodd i ddarganfod mai un o’i rinweddau gorau oedd y gallu addasu i sefyllfaoedd yn hawdd, sy’n rhan allweddol o’i rôl newydd yng Nghanolfan y Mileniwm.

Gan fod y cwrs Dylunio a Chynhyrchu Theatr yn Y Drindod Dewi Sant yn un galwedigaethol, sylwodd Aeron mai’r profiad ymarferol o weithio ar sioeau mewn amgylchedd sy’n adlewyrchu gwerthoedd a disgwyliadau’r diwydiant oedd un o’r prif bwyntiau ar ei CV, erbyn diwedd ei dair blynedd yn fyfyriwr, a ddaliodd sylw Canolfan y Mileniwm. Ychwanega:

“Mae’r gallu i roi cynnig ar wahanol rolau a meysydd cynhyrchiad yn rhoi gwybodaeth ymarferol dda iawn i chi o’r hyn sydd ei angen, ac mae hyn yn rhywbeth sy’n werthfawr iawn i gwmnïau theatr bach a sefydliadau cenedlaethol fel Canolfan y Mileniwm – mae eich gallu i ddeall nid yn unig eich rôl chi eich hunan ond rolau’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn golygu bod gennych ddawn gweithio mewn tîm o’r cychwyn cyntaf, ac mae hynny’n atyniadol iawn.”

Yn ystod ei dair blynedd yn fyfyriwr, teimla Aeron fod ei ddatblygiad yn unigolyn creadigol wedi cyrraedd y nod yn ei flwyddyn olaf pan gafodd gyfle i greu prosiect annibynnol cyffrous yn seiliedig ar y Mabinogi. Trwy gydol y profiad hwn, meddai ei fod wedi

“Darganfod angerdd go iawn at rannu straeon sy’n adlewyrchu fy hunaniaeth – yn Gymro, yn weithiwr creadigol byddar, yn unigolyn cwiar – sydd bellach wedi rhoi’r penderfyniad i mi gymryd rhan yn y diwydiant a rhoi fy llais i straeon sy’n llunio fy Nghymru i. Dyma oedd un o’r pwyntiau cadarnhaol mwyaf i Ganolfan Mileniwm Cymru oherwydd cefais balu’n ddwfn i ddiwylliant a mynegiant artistig Cymreig, a oedd yn gweddu’n berffaith i werthoedd y ganolfan, ac roedd yn help mawr i mi gael fy nhroed yn y drws. Peidiwch â bod ofn cael maes arbennig!”

Byddai Aeron yn annog unrhyw un i ddilyn ei ôl troed trwy astudio Dylunio a Chynhyrchu Theatr.

“At ei gilydd, fyddwn i ddim wedi dod mor bell â hyn mor gyflym heb y cymorth a gefais yn Y Drindod Dewi Sant, ac mae’r tair blynedd o feithrin sgiliau a dysgu i fwynhau bywyd cyflym y diwydiant yn talu ar eu canfed. Byddwch hefyd yn creu cysylltiadau oes sy’n beth gwych arall ei gael mewn diwydiant sy’n dibynnu ar rwydweithio i oroesi. Rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i’r Drindod Dewi Sant am yr hyn maen nhw wedi fy ngalluogi i’w gyflawni!”

Mae’r Darlithydd Dave Atkinson yn hynod o falch o gyrhaeddiad Aeron. Meddai:

“Mae Aeron yn enghraifft berffaith o ddefnyddio’r sgiliau trosglwyddadwy o fewn y radd, does dim angen i chi fod yn teithio, paentio neu ddylunio i weithio yn y diwydiant. Mae cynhyrchu, cynllunio a galluogi prosiectau creadigol, boed yn ffilm, teledu neu theatr, i gyd yn swyddi posibl y mae’r cwrs dylunio a chynhyrchu set yn eich paratoi ar eu cyfer.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau