Skip page header and navigation

Mae Lleucu Williams, un o raddedigion y cwrs BA Dylunio a Chynhyrchu Set o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrthi’n brysur yn gweithio fel Goruchwylwraig Gwisgoedd a Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol ar daith gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar ei sioe diweddara’, ‘Swyn’ sydd ar daith ar hyn o bryd.

Gan wenu, mae Lleucu Williams yn eistedd gyda’i choesau wedi’u croesi ar dalp o laswellt ffug ar set llwyfan.

Sioe theatr ddawns yw ‘Swyn’ sy’n plethu’r iaith Gymraeg gyda BSL. Mae’r sioe yn adrodd hanes merch fach sydd yn caru bob dim am fyd natur, ond yn gweld hi’n anodd cysylltu gyda phobl eraill. Trwy antur, mae Swyn yn creu ffrindiau a chysylltiadau gyda anifeiliaid, ac yn dysgu sut i fod yn ffrind da. Mae ‘Swyn’ yn sioe hyfryd ar gyfer plant o dan 7 mlwydd oed, ac mae’n gyfle arbennig i nifer o blant gael y profiad o wylio sioe mewn theatr am y tro cyntaf erioed.  

Meddai Lleucu:

“Mae’n deimlad gwych i weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y cynhyrchiad hwn. Dwi’n ffodus i fedru dweud mai Swyn ydy fy ail sioe gyda’r cwmni. Cyn gweithio ar y sioe yma, roeddwn yn Oruchwylwraig Gwisgoedd ar y sioe Rhinoseros, yn sicr roedd Rhinoseros yn sioe heriol fel fy swydd gyntaf tu allan o’r Brifysgol. Ond mi wnes fwynhau bob eiliad o’r broses a’r daith.”

Ers yn blentyn, mae Lleucu wedi bod wrth ei bodd gyda bob agwedd o’r theatr, ond doedd hi byth yn meddwl y byddai rhyw ddydd yn gweithio o fewn y diwydiant, ac wrth i un penderfyniad arwain at y llall dros y blynyddoedd, fe benderfynodd ddod i astudio yng Nghaerfyrddin. Roedd hi’n dymuno aros yng Nghymru i astudio, fel ei bod hi’n medru rhwydweithio a meithrin perthynas gyda theatrau lleol. Roedd y ffaith bod Canolfan S4C Yr Egin  a’r Llwyfan ar dir y Brifysgol yn apelio’n fawr iawn ati.

Ychwanegodd:

“Pan gychwynais yn y Brifysgol doeddwn ddim yn gwybod dim byd am derminoleg theatr, y math o rolau gwahanol, na’r broses o roi sioe at ei gilydd. Roedd popeth a ddysgais yn y Brifysgol a’r holl gyfleoedd a gefais i gyd wedi fy helpu i gyflawni fy rôl a gweithio gyda chwmni proffesiynol.”

Yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol, cafodd Lleucu nifer o brofiadau i’w helpu i ddod i adnabod y diwydiant yn well. Pan roedd Lleucu yn ei hail flwyddyn yn y Brifysgol, cafodd y cyfle i gydweithio gyda chriw WAVDA ar gampws Caerdydd i ddylunio tair sioe gyda dwy arall o’r cwrs, ac yna yn ystod ei thrydedd flwyddyn cafodd ei galw’n ôl i’w helpu, ond y tro hyn fel unigolyn. Dywedodd:

“Roedd dylunio sioeau WAVDA yn gyfle i weithio gyda unigolion proffesiynol o’r diwydiant a medru gweld sioe yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf.”

Yn ystod ei thrydedd flwyddyn hefyd cafodd Lleucu’r cyfle i gysgodi rheolwyr llwyfan o’r cynhyrchiad ‘Pijin’ pan ddaeth Theatr Genedlaethol Cymru i ymarfer yn Y Llwyfan ar y campws. Meddai

“Trwy’r profiad yma cefais y cyfle i weithio gyda’r Theatr Gen ar Rhinoseros  yn y lle cyntaf.  Mi fyddwn yn cynghori unrhyw fyfyriwr i gymeryd bob profiad a chyfle sydd ar gael tra’n y Brifysgol, ac i rhydweithio gyda chwmnïoedd gwahanol.”

Pan roedd Lleucu’n fyfyrwraig, sylweddolodd ei bod wedi magu hunan hyder a datblygu’n sylweddol fel unigolyn. Roedd yn ddiolchgar i’w darlithwyr am eu cefnogaeth cyson hefyd, gan:

“Roeddent o hyd yn trio cael y gora ohonom ac o hyd yn cynnig profiadau newydd.”

Mewn dillad ar gyfer seremoni raddio, mae Lleucu Williams yn gwenu ar y camera.

Dywedodd Stacey – Jo Atkinson, darlithydd BA Dylunio a Chynhyrchu Set o’r Drindod Dewi Sant:

“Dyma’r rhan orau o’r swydd, gweld ein myfyrwyr a’n graddedigion yn llwyddo yn y diwydiannau creadigol. Un o agweddau allweddol y radd yw sicrhau ein bod yn darparu amrywiaeth o sgiliau a chyfleoedd diwydiant i’n myfyrwyr er mwyn iddynt ddod o hyd i’w llwybr a’u hangerdd dewisol.

“Mae’n bleser gweld cymaint o’n myfyrwyr, graddedigion a dysgwyr Cymraeg yn aros yng Nghymru ac yn mynd ymlaen i weithio mewn theatr iaith Gymraeg. Yn fwy diweddar, mae gennym dri o raddedigion yn gweithio i Theatr Genedlaethol Cymru, a dim ond un ohonynt sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, sef Lleucu, gyda’r lleill wedi dod o Rydychen a Chanada.  Rydym yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd yr iaith Gymraeg a theatr Gymraeg o fewn y cwrs.”

Wrth i yrfa Lleucu barhau i ddatblygu, mae’n gobeithio cydweithio gyda mwy o gwmnïoedd theatr yng Ngogledd Cymru. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau