Skip page header and navigation

Cafodd galwad i ymgeisio am y Gymrodoriaeth ym maes sosioieithyddiaeth a pholisi a chynllunio iaith ei rhyddhau ddoe. Lleolir y Gymrodoriaeth yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Logo'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ochr yn ochr â logo Sefydliad Basgaidd Etxepare.

Yn 2022 llofnododd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg gytundeb partneriaeth newydd i gefnogi cyfnewid academaidd rhwng Cymru a Gwlad y Basg ym maes sosioieithyddiaeth a pholisi a chynllunio iaith.

Bydd y Gymrodoriaeth, a enwir ar ôl yr ieithydd nodedig, y diweddar Dr Alan R. King, yn gyfle i ysgolhaig o Wlad y Basg ddod i Gymru i ymchwilio a chyfrannu at addysgu a chyfnewid gwybodaeth yn y meysydd hyn sydd mor allweddol i’r ddwy wlad a’i hieithoedd.

Yn ieithydd dawnus, cyfrannodd y diweddar Dr Alan R. King i’r maes hwn am gyfnod o bedwar degawd, ar sawl cyfandir ac fe ddysgodd dros ugain o ieithoedd gan gynnwys gynnwys Nawatl, Hawaieg, Hebraeg, Cymraeg a Basgeg. Drwy gydol ei oes, defnyddiodd ei ddawn ieithyddol ryfeddol i wneud dysgu ieithoedd yn haws i eraill drwy greu adnoddau ymarferol ar gyfer ieithoedd lleiafrifedig a ieithoedd o dan fygythiad. Ymhlith ei gyhoeddiadau yn Saesneg ar yr iaith Fasgeg mae ‘A Basque Course: A Complete Initiation to the Study of the Basque Language’ (1982), ‘The Basque Language: A practical Introduction’ (1994), ‘Colloquial Basque’ (1996), a’r olaf gyda Begotxu Olaizola, un a fu;n cyd-ddysgu Basgeg yn Aberystwyth gydag ef yn ystod y 1990au cynnar. Yn ystod y cyfnod hwn, dysgodd Gymraeg i lefel ryfeddol o ruglder a gwnaeth gyfraniad sylweddol dros flynyddoedd lawer i hwyluso’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg.

Detholir y Cymrawd trwy alwad agored – manylion ar wefannau y Ganolfan ac Etxepare – gyda’r ymgeisydd llwyddiannus yn dod i Gymru yn hydref 2024.

Y Cymrawd Alan R. King cyntaf i ddod i Gymru oedd Dr Imanol Larrea Mendizabal o Soziolinguistika Klusterra. Dr Harkaitz Zubiri Esnaola o Gyfadran Addysg, Athroniaeth ac Anthropoleg Prifysgol Gwlad y Basg oedd Athro Preswyl Etxepare Alan R. King 2023.

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan:

“Rydym yn hynod falch o agor ceisiadau ar gyfer Cadair Alan R King mewn Sosioieithyddiaeth ar gyfer 2024 fel rhan o’n partneriaeth gyda Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg. Mae’r Gadair hon wedi profi’n ddatblygiad pwysig yn y maes allweddol hwn sydd o flaenoriaeth i Gymru ac i Wlad y Basg. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar breswyliadau llwyddiannus ac Dr Imanol Larrea yn 2022 a Dr Harkaitz Zubiri yn 2023 wrth i ni groesawu’r Athro newydd yn hwyrach eleni.”

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: elin.jones@pcydds.ac.uk

  1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Ymysg y meysydd ymchwil mae Ieithoedd Celtaidd Cynnar, Hagiograffeg, Llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd, Rhamantiaeth a’r Ymoleuo yng Nghymru ac Ewrop, Enwau Lleoedd yng Nghymru a Phrydain, Geiriadureg. Cyfieithu llenyddol, Sosioieithyddiaeth Gyfoes a Pholisi a Cynllunio Iaith mewn Ieithoedd Lleiafrifedig. Dyma gartref Geiriadur Prifysgol Cymru a ddathlodd ei ganmlwyddiant yn 2021.
     
  2. Mae Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg yn hyrwyddo cydweithio ym meysydd diwylliant a’r byd academaidd gyda phartneriaid rhyngwladol (prifysgolion, endidau diwylliannol, gwyliau, canolfannau celfyddydol, ac ati), i gynyddu presenoldeb a gwelededd rhyngwladol yr iaith Basgeg a chreadigrwydd cyfoes Gwlad y Basg ac i hyrwyddo cydweithredu a chyfnewid rhyngwladol.
     
  3. Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg i greu Cadair mewn Sosioieithyddiaeth a’i henwi ar ôl yr ieithydd nodedig Dr Alan R. King yn 2022. Mae’n rhaglen flynyddol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg yn y maes blaenoriaeth hwn gan y ddwy wlad. Mae Cadair Alan R. King yn un o ddeg o gadeiriau a gefnogir gan Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg mewn prifysgolion ar draws y byd, a hon yw’r unig un ym maes polisi a chynllunio iaith.
     
  4. Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil.  Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.

Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau