Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Tref Llanbedr Pont Steffan gyhoeddi bod gwobr goffa arbennig wedi’i chreu er cof am y diweddar Hag Harris a oedd yn gwasanaethu’n Gynghorydd Tref Llambed ac yn Gynghorydd Sir Ceredigion.

Hag Harris.

Roedd Hag yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Llambed a sefydlodd fusnes Hags Record Store yn y dref. Roedd yn ddyn amryddawn o’r safon orau, ac yn unigolyn hynod boblogaidd ac adnabyddus a fu’n cynrychioli Llambed mewn sawl cymhwyster swyddogol. Bu marwolaeth sydyn Hag yn sioc enfawr ym mis Mai 2022, ac felly mae’r wobr hon wedi’i chreu yn waddol iddo.

Mae’r Drindod Dewi Sant a Chyngor Tref Llambed yn annog ceisiadau i’r Wobr Goffa gan y rhai sy’n bodloni’r meini prawf.

Meddai Gwilym Dyfri Jones, Profost Campws Llambed:

“Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o allu cefnogi’r wobr arbennig hon. Roedd y Cynghorydd Hag Harris yn gyn-fyfyriwr i’r Brifysgol ac yn ffrind i’r sefydliad am sawl blwyddyn. Edrychwn ymlaen at anrhydeddu unigolyn lleol gan sefydlu’r anrhydedd hon yn ei enw.”

Ychwanegodd Helen Thomas, Maer Cyngor Tref Llambed:

“Mae Cyngor Tref Llambed yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant i lansio gwobr er coffa am y diweddar Gynghorydd Hag Harris. Bu Hag yn gyn-Faer ac roedd yn gwasanaethu’n Gynghorydd Tref a Chynghorydd Sir. Felly rydym yn annog ceisiadau gan bobl yn ward etholiadol Llambed fel ffordd o gadw enw Hag yn fyw.”

Rhaid i ymgeiswyr fod yn un ar bymtheg oed neu’n hŷn ac yn breswylwyr yn Ward Etholiadol Llambed ar gyfer Cyngor y Dref. Rhoddir ystyriaeth i’r rhai sy’n dymuno dilyn meysydd cerddoriaeth, busnes, addysg a hyfforddiant neu chwaraeon oherwydd roedd y rhain o ddiddordeb arbennig i Hag.

Dylai’r cais fod gan unigolion yn unig ac ni ellir derbyn mwy nag un cais gan yr un unigolyn. Yn anffodus, ni ellir derbyn ceisiadau gan sefydliadau a grwpiau. Gellid gwario’r wobr ar eitemau refeniw neu gyfalaf, er enghraifft: prynu offer, ffioedd dysgu neu’r costau i fynychu cynhadledd. Yr ymgeisydd llwyddiannus a’r panel dyfarnu fyddai’n penderfynu ar hyn. Lle bo hynny’n bosibl, dylai’r cais hefyd nodi sut y byddai’r wobr o fudd nid yn unig i’r unigolyn ond i eraill hefyd e.e., darparu hyfforddiant neu gymorth i eraill.

Dylid anfon ceisiadau wedi’u cwblhau i’r Clerc, Cyngor Tref Llambed, Swyddfa Clercod y Dref, 7 Stryd Treherbert, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan SA48 8EP neu drwy e-bost at clerk@lampeter-tc.gov.uk.  I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Cynghorydd Faer Helen Thomas helen.thomas@lampeter-tc.gov.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau