Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dathlu ei chydweithrediad hanesyddol â Chlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin.

Staff yr Academi Chwaraeon a Chlwb Pêl-droed Tref Caerfyrddin yn dal crys-t

Mae’r bartneriaeth wedi galluogi’r Academi Chwaraeon sydd newydd ei lansio â’r Undeb Myfyrwyr i ddod â phêl-droed yn ôl yn swyddogol i’r Brifysgol ar ffurf Clwb Pêl-droed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  

Mae Clwb Pêl-droed PCYDDS bellach wedi’i leoli ym Mharc Richmond, cartref CPD Tref Caerfyrddin, ar gyfer ei anghenion hyfforddi a chwarae.

Yn rhan o’r berthynas hon, PCYDDS yw prif noddwr crys oddi cartref CPD Tref Caerfyrddin, ac fe wnaeth eu cadeirydd Jeff Thomas gyflwyno crys i PCYDDS yn ddiweddar trwy Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS, a Jonathan Garcia, Pennaeth Pêl-droed yn Academi Chwaraeon PCYDDS, i ddweud diolch.

Meddai Jeff Thomas, Cadeirydd CPD Tref Caerfyrddin:

“Mae CPD Tref Caerfyrddin wrth ein bodd ac yn llawn cyffro bod ein partneriaeth â PCYDDS yn parhau. Rwy’n hyderus y bydd y myfyrwyr yn elwa’n fawr o dîm hyfforddi’r Brifysgol ac o gael hyfforddi a chwarae yn ein cyfleuster ardderchog. Gobeithio y bydd rhai o’r myfyrwyr yn datblygu i chwarae gyda’n Clwb.”

Meddai Lee Tregoning, Pennaeth Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Rydyn ni’n falch iawn o barhau i weithio mewn partneriaeth â CPD Tref Caerfyrddin, a hoffwn ddiolch i gadeirydd Tref Caerfyrddin, Jeff Thomas, am ei holl gymorth eleni. Mae’r cyfle i’n myfyrwyr hyfforddi a chwarae mewn Stadiwm Categori 1 UEFA o’r radd flaenaf yn brofiad gwych iddyn nhw ac yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd proffesiynol i’n myfyrwyr-athletwyr yn PCYDDS.”

Ychwanegodd Jonathan Garcia, Pennaeth Pêl-droed yn Academi Chwaraeon PCYDDS:

“Ni ddylid tanbrisio gwerth y ffaith fod gan ein Pêl-droedwyr Gwrywaidd a Benywaidd fynediad i gyfleuster cystal â hwn. Rydyn ni’n ymdrechu i roi profiad o’r radd flaenaf i’n myfyrwyr, nid yn unig yn academaidd ond o ran chwaraeon hefyd, ac mae’r bartneriaeth hon yn darparu hynny.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau