Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Bishop’s yn Ontario, Canada wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i rannu arbenigedd, hwyluso cyfnewid staff a myfyrwyr ar gyfer astudio, ac archwilio cyfleoedd ymchwil cydweithredol. 

Golygfa o gampws Prifysgol Bishop's o'r awyr

Bydd y cydweithrediad â Phrifysgol Bishop’s, sy’n enwog am ei ffocws ar ddarparu addysg safonol mewn disgyblaethau amrywiol, gan gynnwys y celfyddydau cain, y Dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau naturiol, busnes, ac addysg, yn rhoi cyfle i gyfoethogi profiad academaidd myfyrwyr y Drindod Dewi Sant. Cefnogir hyn drwy gynllun Taith, sef rhaglen cyfnewid dysgu ryngwladol a sefydlwyd i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru ddysgu, astudio a gwirfoddoli dros y byd i gyd. Mae Taith yn rhaglen gynhwysol sy’n cynnig cymorth ychwanegol i gyfranogwyr o gefndiroedd difreintiedig ac sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan alluogi’r rheiny â llai o gyfleoedd i gymryd rhan mewn profiadau trawsnewidiol.

Y bartneriaeth hon yw’r ddiweddaraf mewn portffolio o raglenni sydd ar gael i fyfyrwyr y Drindod Dewi Sant o ystod eang o ardaloedd daearyddol ac mae’n cynnig profiad addysg gwirioneddol fyd-eang iddynt. Mae myfyrwyr a staff rhyngwladol yn cyfoethogi profiadau myfyrwyr, yn gwella dysgu ac addysgu, ac yn helpu i wneud graddedigion o Gymru’n fwy parod ar gyfer y byd gwaith.

Nod y bartneriaeth hon fydd darparu cyfleoedd gwerthfawr i fyfyrwyr a staff drwy Taith, gan gynnwys symudedd staff, symudedd grwpiau myfyrwyr yn ogystal â galluogi myfyrwyr i dreulio semester yn astudio dramor.

Prifysgol Saesneg ei hiaith yw Prifysgol Bishop’s sydd wedi’i lleoli yn rhanbarth Treflannau Dwyreiniol talaith Quebec, sy’n cynnig dewis o fwy na 100 o raglenni astudio.

Mae’r pwyslais ar fywyd preswyl ym Mhrifysgol Bishop’s, gyda’i ffocws ar israddedigion yn bennaf a’i maint bach, yn creu amgylchedd trochi i fyfyrwyr. Mae’r agwedd hon ar y profiad prifysgol yn cyd-fynd yn dda â nodau’r Brifysgol o ddarparu addysg gyfannol.

Meddai Kath Griffiths, rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd Allanol), Academi Fyd-eang Cymru:

“Fe fydd cyfleoedd ar gyfer symudedd staff a grwpiau myfyrwyr, ynghyd â chyfleoedd am semester dramor gyda chyllid ar gael drwy Taith, fe fydd ystod eang o bosibiliadau ar gyfer cyfnewid diwylliannol ac archwilio academaidd. Mae hyn nid yn unig yn cyfoethogi’r profiad addysgol ond hefyd yn cryfhau ein cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli yng Nghanada. 

“Mae meithrin cysylltiadau rhyngwladol mor bwysig ar gyfer rhyngwladoli’r ddau sefydliad, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y cydweithrediad hwn ar dwf academaidd a phersonol myfyrwyr a staff y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Bishop’s.”

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch partneriaethau a chyfleoedd rhyngwladol, ewch i Go Global with UWTSD | University of Wales Trinity Saint David


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau