Skip page header and navigation

Mae rhaglenni gradd Celfyddydau Perfformio Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar Gampws Caerfyrddin wedi croesawu Mess up the Mess Theatre (MUTM) ac UCAN Productions i rannu ymchwil o’u Prosiect Erasmus + yn archwilio Theatr yn Arfer Cynhwysol (ThAC).

Grŵp o bobl yn gwylio perfformiad gan aelodau Theatr fel Arfer Cynhwysol

Mae prosiect ymchwil a hyfforddi Erasmus+ wedi’i gynllunio i rymuso pobl ifanc sydd wedi profi allgáu, neu sy’n ei brofi ar hyn o bryd, trwy theatr. Dros ddwy flynedd, caiff cyfranogwyr ifanc o 3 gwlad bartner eu datblygu yn arweinwyr gweithdai trwy hyfforddiant mewn arferion theatr cynhwysol yn arbennig. Y maen nhw, yn eu tro, yn cymhwyso eu hyfforddiant a’u sgiliau, gan arwain gweithdai gyda chyfranogwyr yn eu lleoliad eu hunain. (www.tiperasmusplus.org)

Ar ddiwedd y prosiect hwn, daeth y ddau gwmni cynhyrchu i weithio gyda myfyrwyr BA Actio a Drama Gymhwysol Y Drindod Dewi Sant i rannu a thrafod dulliau gwahanol o weithio’n gynhwysol mewn gofodau theatr. Gan ganolbwyntio’n benodol ar theatr gyda LHDT+ a gwneud ymarfer theatr yn gynhwysol i bobl â nam ar y golwg.

Un o’r hwyluswyr ar y prosiect gyda Mess up the Mess oedd Faye Brightman, myfyriwr yn ei thrydedd flwyddyn.

Meddai: “Mae bod yn rhan o’r Prosiect Theatr yn Arfer Cynhwysol wedi bod yn brofiad anhygoel! Yn fenyw traws cwiar, mae hi wedi bod yn anhygoel gweithio gyda phobl greadigol cwiar eraill yng Nghymru, wrth wneud theatr yn ofod mwy cynhwysol i aelodau’r gymuned LHDT+.

“Mae hefyd wedi bod yn help mawr o ran fy natblygiad fy hun yn hwyluswr drama, gan fy nghynorthwyo i bennu fy arddull hwyluso, a rhoi profiad imi o arwain gweithgareddau mewn amryw leoliadau ar hyd a lled Abertawe. Byddaf yn ddiolchgar am y profiad rydw i wedi’i gael am byth, ac am y cysylltiadau rydw i wedi’u gwneud ar hyd y ffordd.”

Grŵp o bobl yn cymryd rhan mewn gweithdy Theatr fel Arfer Cynhwysol

Meddai Hayley Davies, myfyriwr BA Actio:

“Roedd dysgu am nam ar y golwg o fewn gofodau theatr yn addysgiadol iawn. Fe gafodd y gweithdy effaith arna i yn emosiynol, roedd yn deimladwy a dylanwadol.”

Ychwanegodd Jack Eriksen – myfyriwr BA Actio:

“Stori hynod ysbrydoledig am artistiaid ifanc yn dwyn pobl â nam ar y golwg at ei gilydd, nid yn unig yn bobl greadigol, ond yn fodau dynol, gan ddangos cariad a thosturi o fewn gofod theatr lle na all unrhyw beth fynd o’i le.”

Dywedodd Sarah Jones, Cyfarwyddwr Artistig MUTM:

“Roedd hi’n wych cwblhau ein prosiect Theatr yn Arfer Cynhwysol trwy rannu profiadau a dysg ein sefydliad a’r hyfforddeion â myfyrwyr ar raglenni BA Drama Gymhwysol a BA Actio Y Drindod Dewi Sant. Roedd gweld yr effaith ddwys y mae bod yn rhan o ThAC wedi’i chael ar y rhai a gafodd eu hyfforddi yn ysbrydoledig.

“Mae’r prosiect hwn wedi ein cyflwyno ni i lu o wahanol ddulliau o weithio’n gynhwysol gan gynnwys yr arferion theatr gair-am-air a synhwyraidd. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r brifysgol a’r myfyrwyr am roi cymaint o groeso i ni ac am lwyr ymgolli yn y bore.”

Meddai Ali Franks, Darlithydd Drama Gymhwysol PCYDDS:

“Mae gweithio’n gynhwysol yn ganolog i holl arfer theatr gymhwysol, ond mae hefyd yn newid paradeim angenrheidiol ar gyfer y diwydiant celfyddydau perfformio yn gyffredinol. Mae prosiectau fel hyn yn caniatáu i’n myfyrwyr fod yn rhan o’r sgwrs honno a hefyd i fod yn rhan bwysig o’r broses o wneud cynnydd ar gyfer cynhwysiant a chydraddoldeb yn y diwydiant.”

Grŵp o bobl yn cymryd rhan mewn gweithdy Theatr fel Arfer Cynhwysol ac yn gwrando ar yr hyfforddwr

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau