Y Drindod Dewi Sant yn croesawu’r garfan gyntaf ar gyfer y Ddoethuriaeth Broffesiynol a’r MA mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned
Roedd yn bleser mawr gan dimau Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant groesawu carfan gyntaf y Ddoethuriaeth Broffesiynol a’r radd MA mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc, a Chymuned i gampws y Brifysgol yn Abertawe i gyflwyno’u seminar gyntaf.
Y sesiwn hon oedd cychwyn eu taith ôl-raddedig, a chafodd y myfyrwyr gyfle i archwilio’u dyheadau eu hun o ran gyrfa ac ymchwil a sut gallai’r dylanwadau hyn effeithio ar eu datblygiad. Hefyd cafodd darlithwyr gyfle i gael dealltwriaeth fwy manwl o’r ystod o yrfaoedd a chyd-destunau personol ymhlith y gwahanol fyfyrwyr a oedd yn bresennol.
Nododd Cyfarwyddwyr Rhaglen y timau Plentyndod, Ieuenctid ac Astudiaethau Addysg pa mor bwysig yr oedd y cyfleoedd hyn i fyfyrwyr a staff adfyfyrio ac ystyried eu safbwyntiau eu hun fel camau cyntaf o ran deall y materion y bydd eu hymchwil ôl-raddedig eu hun yn eu harchwilio. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil yn cefnogi’r cymunedau a’r sectorau y maent yn gweithio er mwyn eu galluogi a’u grymuso.
Meddai’r Cyfarwyddwr Academaidd Dros Dro, Dr Nichola Welton:
“Roedd hi’n fraint gwrando ar gyflwyniad cyntaf y myfyrwyr yn eu seminar gyntaf ar ein rhaglen newydd. Ein dyhead oedd y gall myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau adfyfyrio beirniadol, er mwyn adnabod y rôl hanfodol y mae llawer ohonyn nhw’n ei chwarae o ran hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i blant, pobl ifanc a chymunedau. Edrychwn ymlaen at weld gwaith ac ymchwil yn y dyfodol a fydd yn cael effaith ar eu harfer wrth i’w teithiau dysgu personol symud yn eu blaenau.”
Meddai’r Darlithydd Blynyddoedd Cynnar, Natalie Macdonald:
“Gwnaeth ein myfyrwyr argraff dda arnom ni a’n hysbrydoli. Roedd eu cyflwyniadau’n arddangos eu diddordebau, eu brwdfrydedd, a’u cymhelliad ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. Mae gweld y cyfeiriad y bydd ein myfyrwyr yn ei gymryd ar eu taith ôl-raddedig yn rhoi cyffro mawr i ni.”
Mae astudiaethau ôl-raddedig mewn Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned yn arloesol ac yn dangos sut mae’r Drindod Dewi Sant yn parhau i roi blaenoriaeth i ymgorffori’i gwerthoedd yn gysylltiedig â chynhwysiant, partneriaeth gymunedol ac ehangu mynediad wrth ddatblygu’i chwricwlwm.
Cyflwynir y rhaglenni’n hyblyg drwy gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol, a gall myfyrwyr astudio wrth iddyn nhw weithio neu gydbwyso ymrwymiadau eraill ac felly mae’r myfyrwyr yn cynrychioli ystod amrywiol o gyd-destunau, sydd oll yn cychwyn eu taith ôl-raddedig gyda’i gilydd. Mae’r ffocws ar sesiynau dysgu cydweithredol a thrafodaeth yn golygu bod myfyrwyr yn gallu rhannu eu profiadau a’u cefndiroedd gwahanol a bod myfyrwyr a staff yn dysgu oddi wrth ei gilydd.
Os hoffech chi fod yn rhan o’n carfan nesaf cysylltwch â natalie.macdonald@uwtsd.ac.uk neu ewch i Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymuned (MA) i wneud cais nawr.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476