Y Drindod Dewi Sant yn Cyhoeddi Ailfrandio Gŵyl Ffilm i Ŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Dragon (CDIFF)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi ailfrandio ei gŵyl ffilm hirsefydlog, a elwid gynt yn Ŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Coast, i Ŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Dragon (CDIFF). Mae’r ailfrandio hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein hymrwymiad i ragoriaeth a’n hymroddiad i hyrwyddo talent a chreadigrwydd byd-eang ym myd y sinema.
Mae CDIFF yn ddathliad o’r goreuon mewn sinema ryngwladol, ac rydym wrth ein bodd yn datgelu ein hunaniaeth newydd wrth i ni baratoi i arddangos ffilmiau rhagorol o bedwar ban byd. Bydd ein dangosiadau yn ymestyn ar draws y Deyrnas Unedig, Tsieina, a Malaysia, gan adlewyrchu ein gweledigaeth o groesawu amrywiaeth ddiwylliannol a meithrin cydweithio rhyngwladol o fewn y diwydiant ffilm.
Yn CDIFF, rydym yn angerddol am ddarparu llwyfan i wneuthurwyr ffilm newydd a sefydledig rannu eu straeon unigryw a’u gweledigaethau artistig gyda chynulleidfa fyd-eang. Mae ein gŵyl yn ymroddedig i feithrin creadigrwydd, amrywiaeth, ac arloesedd mewn sinema, ac rydym yn gyffrous i ddod â gwneuthurwyr ffilm, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, a selogion ffilm o bob cornel o’r byd at ei gilydd.
“Rydym yn falch o ddadorchuddio Gŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Dragon a hyrwyddo dawn a chreadigrwydd anhygoel gwneuthurwyr ffilm ledled y byd,” meddai Timi O’Neill Cyfarwyddwr Gŵyl a Rheolwr Rhaglen MA Celf a Dylunio yn PCYDDS. “Gyda’n hymrwymiad i ehangu ein presenoldeb rhyngwladol ac ymrwymiad o’r newydd i ragoriaeth, bydd CDIFF yn parhau i ysbrydoli, diddanu ac uno cynulleidfaoedd trwy hud y sinema.”
Agorodd y ceisiadau ar Chwefror 21ain a’r dyddiad cau yw Mehefin 1af, 2024. Bydd yr holl enillwyr yn derbyn gwobr Draig Gopr.
Ymunwch â ni wrth i ni ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Copper Dragon, lle byddwn yn dathlu creadigrwydd di-ben-draw a phŵer trawsnewidiol ffilm. Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf am ein dangosiadau, digwyddiadau a gwesteion arbennig sydd ar ddod!
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071