Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynnal cynhadledd i archwilio’r berthynas rhwng ei Hacademi CISCO a’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Pump o drefnwyr y gynhadledd yn gwenu tuag at y camera.

Roedd y gynhadledd wedi ei threfnu gan Ysgol Cyfrifiadureg Gymhwysol y Brifysgol a Chanolfan Gymorth Academi Rhwydweithio Cisco ac a gynhaliwyd ar gampws IQ Abertawe. Archwiliodd y Gynhadledd y Cwricwlwm newydd i Gymru gan ganolbwyntio ar Gamau Cynnydd Cyfrifiaduraeth 3, 4 a 5 a’r cyfleoedd ar y cyd ag Academi Rhwydweithio Cisco i ddarparu model dysgu integredig sy’n cyd-fynd â diwydiant.

Wrth agor y gynhadledd, meddai Dirprwy Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant, yr Athro Dylan Jones:

 “Mae heddiw’n enghraifft o ddangos ein hymrwymiad fel prifysgol sy’n datblygu i gydweithredu’n agos ag ysgolion a phartneriaid yn ein rhanbarth i wneud effaith ac ymateb i’r Cwricwlwm newydd i Gymru.”

Y Dirprwy Is-Ganghellor Dylan Jones yn annerch y gynhadledd.

Yn ôl Dr Nitheesh Murugan Kaliyamurthy, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen (TystAU – Sgiliau Digidol, Peirianneg, Electroneg, Adeiladu) yn Y Drindod Dewi Sant a threfnydd y gynhadledd, y nod oedd rhoi rhagor o wybodaeth i’r ysgolion am sut mae Academi Rhwydweithio Cisco yn darparu amrywiol gyfleoedd i alinio’r cwricwlwm, yn enwedig ar gyfrifiannu camau cynnydd gyda gofynion cyfredol diwydiant.

 “Mae rhwydwaith Cisco yn darparu nifer o gyrsiau sy’n cyfateb i’r Cwricwlwm newydd i Gymru, a hoffem gefnogi athrawon TGCh a chydlynwyr digidol sy’n fframio’r cwricwlwm trwy ddangos y cynnwys sydd ar gael. Bydd yn helpu Athrawon TGCh i rannu eu harferion gorau i arbed amser ac adnoddau, wrth wella ansawdd ac effeithlonrwydd. Mae gan Cisco system rheoli dysgu gref a grymus y gall ysgolion ei defnyddio i gefnogi myfyrwyr.

 “Mae’r Drindod Dewi Sant yn un Ganolfan Gymorth Academi CISCO. Ni yw’r unig ganolfan yng Nghymru sy’n cefnogi ysgolion gan ddarparu hyfforddiant a sesiynau blasu i athrawon a myfyrwyr ar wahanol faterion pwnc.”

Dr Nitheesh Murugan Kaliyamurthy yn annerch y gynhadledd.

Roedd y siaradwyr yn cynnwys Semyon Ovsyannikov, Uwch Reolwr Technegol Rhanbarthol Cisco – EMEAR ac Elizabeth Barr, Rheolwr Datblygu Busnes Academi Rhwydweithio CISCO Y DU ac Iwerddon. Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae’r rhwydwaith wedi helpu 3.20M o fyfyrwyr mewn 190 o wledydd.

Rhoddodd Semyon ac Elizabeth arddangosiad i’r gynhadledd o sut oedd rhwydwaith Cisco yn gweithio gan ddangos pwysigrwydd rôl y rhwydwaith yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Dywedodd Semyon fod y rhwydwaith yn darparu’r cyfleoedd gorau i ardystio myfyrwyr, a 95% o’r myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau wedi eu halinio ag ardystiadau yn dweud bod cymryd rhan yn yr Academi Rhwydweithio wedi sicrhau swydd a/neu gyfle addysg iddyn nhw.

Elizabeth Barr yn annerch y gynhadledd; mae sleid ar ei hochr dde yn dangos y cwestiwn – Sut mae e’n gweithio?

 Meddai Elizabeth:

“Mae Academi Rhwydweithio Cisco yn gyffrous o gael cynyddu ein presenoldeb yng Nghymru ar adeg bwysig o ddiwygio addysgol. Gyda’n partner allweddol Y Drindod Dewi Sant, rydyn ni’n ymdrechu i gefnogi athrawon ledled Cymru wrth ddarparu cymwysterau technegol, gan roi i fyfyrwyr yn eu tro’r sgiliau sy’n barod ar gyfer swyddi er mwyn llwyddo yn eu hymgais academaidd neu broffesiynol nesaf.”

Rhoddodd Andrew Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Rhwydweithio yn y Brifysgol Agored sgwrs gan annog athrawon i ymuno â’r rhwydwaith a defnyddio ei gynnwys er mwyn datblygu a darparu sgiliau a gwybodaeth eu myfyrwyr.

Siaradwr yn annerch y gynhadledd.

Dangosodd Victoria Price, Pennaeth Cyfrifiadura yn Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro, sut y bu ymuno ag academi Cisco o fudd iddynt fel ysgol.

Meddai: “Mae rhwydwaith Cisco wedi ein helpu ni fel ysgol yn ein datblygiad proffesiynol, ac hefyd gyda’n gwybodaeth fel athrawon. Mae’n ein helpu ni i ddarparu cyrsiau newydd megis TGAU a’r Lefel A Technoleg Ddigidol, ac wedyn yng Nghyfnod Allweddol 3 mae’n ein cefnogi ni gyda’r mapio newydd, ac mae’r Drindod Dewi Sant yn ein caniatáu i ystyried y camau cynnydd, ac wedyn nodi lle bydd y cynnwys o Academi Cisco’r Drindod Dewi Sant yn rhoi ychydig o gynnwys cyfoethog i’w ddarparu i’n myfyrwyr.

 “Llwyfan rhad ac am ddim yw Academi Rhwydweithio Cisco, sy’n llawn cynnwys cyfoethog, a thrwy ymuno â hi, byddwch chi’n helpu i gefnogi’r dysgwyr hynny i ddod yn ddysgwyr galluog, uchelgeisiol ac annibynnol – yr holl bethau hynny sydd yn ein Cwricwlwm Cenedlaethol newydd yr ydym yn ceisio’u datblygu yn y plant hyn.”

 “Mae’r Brifysgol yn ein cefnogi ni gyda beth bynnag sydd angen arnom. Rydyn ni’n cael llawer o gymorth gan Kapilan a Nitheesh, o ran beth rydyn ni’n ei ddarparu. Os oes unrhyw beth yn rhwystr i ni, byddan nhw’n ymweld â’r ysgol ac yn trefnu gweithdy.”

Meddai Dr Kapilan Radhakrishna, Cyfarwyddwr Academaidd Cyfrifiadura Cymhwysol Y Drindod Dewi Sant:

 “Nod y gynhadledd heddiw oedd dangos yr adnoddau sydd ar gael i athrawon i ddechrau ar eu taith newydd gyda’r cwricwlwm newydd, a sut y gallwn ni eu cefnogi nhw. Rydyn ni’n cynnig nifer o fodylau hyfforddi rhad ac am ddim yn rhan o gydweithredu’r Drindod Dewi Sant i baratoi athrawon i fynd i diwtora myfyrwyr am dechnolegau newydd.

 “Mae’r cydweithredu hwn ar gael i bob ysgol gynradd ac uwchradd a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru er mwyn mynd â’r to nesaf o ddysgwyr ar daith i lwyddiant.”

Victoria Price yn edrych tuag at y gynulleidfa wrth ystumio tuag at sgrin LCD y tu ôl iddi.

Meddai Dr Kapilan Radhakrishna, Cyfarwyddwr Academaidd Cyfrifiadura Cymhwysol Y Drindod Dewi Sant:

 “Nod y gynhadledd heddiw oedd dangos yr adnoddau sydd ar gael i athrawon i ddechrau ar eu taith newydd gyda’r cwricwlwm newydd, a sut y gallwn ni eu cefnogi nhw. Rydyn ni’n cynnig nifer o fodylau hyfforddi rhad ac am ddim yn rhan o gydweithredu’r Drindod Dewi Sant i baratoi athrawon i fynd i diwtora myfyrwyr am dechnolegau newydd.

 “Mae’r cydweithredu hwn ar gael i bob ysgol gynradd ac uwchradd a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru er mwyn mynd â’r to nesaf o ddysgwyr ar daith i lwyddiant.”

Dr Kapilan Radhakrishna yn siarad o flaen sgrin.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau