Skip page header and navigation

Yn y flwyddyn academaidd hon mae’r Rhaglen Radd BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 25 mlynedd.  Roedd hi’n arloesol ar y pryd, a’r gyntaf o’i bath yn y byd. 

Cyn-fyfyrwyr Peirianneg Fodurol yn sefyll mewn rhes ochr yn ochr â Roger Dowden ac Abi Penny.

Drwy weledigaeth Roger Dowden, ac arweiniad gan Gymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro, mae’r cwrs wedi gwneud graddedigion yn asedau gwerthfawr ym myd cystadleuol peirianneg chwaraeon moduro a pheirianneg fodurol, gyda llawer yn gweithio’n beirianwyr rasys, aerodynamegyddion, dadansoddwyr data neu mewn swyddi rheoli ar gyfer timau rasio.

Mae eraill wedi dod o hyd i gyfleoedd mewn cwmnïau modurol, gan arbenigo mewn datblygu cerbydau perfformiad uchel.

Gwnaeth cyn-fyfyrwyr, sydd bellach yn gweithio gyda chwmnïau modurol byd-enwog megis McLaren, Gordon Murray, Arc, Bentley, Ford a Toyota Gazoo Racing, ddychwelyd i’r Drindod Dewi Sant y llynedd i rannu eu llwybrau gyrfa a’u llwyddiannau gyda’r garfan bresennol o fyfyrwyr.

Meddai Abi Penny, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’r arweiniad a gawn gan gynghorwyr o fyd diwydiant ynglŷn â chynnwys ein cyrsiau yn gwneud ein graddedigion yn rhai nodedig a chyflogadwy iawn. Cadarnhaodd i ni fod y cyfuniad o brofiad ymarferol a chynnwys academaidd traddodiadol yn rhinwedd werthu unigryw.”

Gan adfyfyrio ar eu hamser yn y Drindod Dewi Sant, soniodd rhai o’r cyn-fyfyrwyr am y modd yr oedd eu gradd wedi helpu i siapio eu gyrfaoedd. Gan ddisgrifio ei amser yn y Drindod Dewi Sant fel cyfnod “buddiol a manteisiol tu hwnt”, dywedodd Mark Truman, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Arc Vehicles: “Mae’r pethau a ddysgais ynglŷn ag ymroddiad i waith wedi bod yn amhrisiadwy, ac wedi parhau gyda mi drwy gydol fy ngyrfa.

“Y peth sylfaenol wych am y brifysgol hon yw’r profiad ymarferol go iawn y mae’n ei roi i bobl. Roeddwn wedi edrych ar gyrsiau mwy damcaniaethol ar y pryd, ond dydw i ddim yn meddwl y byddai unrhyw un ohonyn nhw wedi tanio’r angerdd ynof i’r un graddau â gallu cael fy nwylo ar gerbydau, arbrofi, gwneud addasiadau a mynd â nhw ar y trac i weld sut maen nhw’n perfformio. Mae hynny’n rhywbeth mae’r brifysgol hon yn ei wneud yn arbennig o dda.”

Gan gynnig cyngor i’r myfyrwyr cyfredol, meddai: “Peidiwch â bod ofn mentro, peidiwch â rhoi’r gorau iddi a thrysorwch yr hyn sydd gennych. Os daliwch ati, fe gyrhaeddwch y nod yn y pen draw.”

Yr wythnos nesaf (11 i 14 Ionawr) bydd darlithwyr a myfyrwyr y rhaglen yn arddangos yn yr arddangosfa Autosport International yn NEC Birmingham, sef digwyddiad chwaraeon moduro mwyaf Ewrop.

Autosport International yw’r arddangosfa ar gyfer byd swynol chwaraeon moduro cystadleuol – i’r ceir, y gyrwyr, y cyfresi – o lefel sylfaenol gwibgartio i gystadleuaeth arobryn Fformiwla 1.

Byddant yn ymuno â selogion rasio, deiliaid trwydded rasys, gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gyrwyr, grwpiau teuluol – a rhai o’r enwau mwyaf enwog ym myd rasio.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau