Skip page header and navigation

Ac yntau’n astudio ar gyfer ei Radd-brentisiaeth Ddigidol mewn Seiberddiogelwch a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol yn y Drindod Dewi Sant tra’n gweithio fel Technegydd Cymorth Gweithrediadau Seilwaith i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, dylai fod gan Joshua Harries ddigon i’w gadw’n brysur.

Ond yn amlwg nid felly mohoni. Mae’r gŵr 22 oed hefyd yn ymatebwr cyntaf gwirfoddol hyfforddedig gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a bu’n gwirfoddoli i weithio gyda gwasanaeth 111 y GIG dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd fel atebwr galwadau, a gyda gwasanaeth 999 fel cymorth gweithredol.

Ers dechrau ei radd-brentisiaeth ar gampws y Brifysgol yn SA1, mae Joshua, o Lyn Ebwy, wedi cael dyrchafiad ddwywaith a bellach mae disgwyl iddo sicrhau llwyddiant pellach. Mae’n canmol y sgiliau a ddysgodd a’r gefnogaeth a dderbyniodd yn y Drindod Dewi Sant gan ddweud bod hynny hefyd wedi ei helpu i wneud mwy yn ei amser hamdden.

“Mae astudio yn y Brifysgol wedi helpu fy hyder ac wedi rhoi’r hwb oedd ei angen arnaf i ddechrau fy ngyrfa,” meddai.

“Heb y radd-brentisiaeth ni fyddwn i ble rydw i nawr. Rwy’n defnyddio’r hyn rwy wedi’i ddysgu yn y brifysgol yn fy ngwaith a gallaf hefyd ddefnyddio’r sgiliau rwy wedi’u datblygu yn fy swydd yn fy ngwaith cwrs. Mae mor fuddiol a heb os, mae wedi fy helpu i gael dyrchafiad.

“Ydy, mae’n anodd jyglo popeth weithiau, ond mae’r gefnogaeth a gewch gan ddarlithwyr, gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru a gan ein Swyddogion Cyswllt Prentisiaid yn y Drindod Dewi Sant yn wych. Maen nhw yno i chi bob amser. Byddwn yn annog unrhyw un yn fy sefyllfa i i feddwl am brifysgol tra maent yn gweithio. Mae’n bosibl ei gyflawni ac yn rhoi cymaint o foddhad.”

Dywedodd Josh fod dychwelyd i ddysgu hefyd wedi ei helpu i gyflawni mwy yn ei amser hamdden. Wedi i’w dad ddioddef trawiad ar y galon, a ddigwyddodd pan oedd ymatebwr cyntaf hyfforddedig gerllaw a gyrhaeddodd y safle’n gyflym, dywedodd Josh ei fod ef hefyd eisiau bod mewn sefyllfa i helpu eraill.

“Mae fy nhad wedi gwella’n dda ers hynny ac mae hyn wedi codi awydd ynof i hyfforddi i helpu eraill fel fe,” meddai.

“Mae’r Brifysgol wedi fy helpu gyda fy hyder wrth i staff fy annog a’m cefnogi i ymgymryd â hyfforddiant gwirfoddol ychwanegol gyda’r gwasanaethau brys. Pan gymerwyd fy nhad yn sâl yn sydyn, roedd y ffaith fod yr ymatebwr cyntaf ar y safle i sicrhau ei fod yn cyrraedd yr ysbyty’n gyflym wedi achub ei fywyd.

“Os gallaf i wneud yr un peth a gwneud gwahaniaeth i un claf, dyna rwy am ei wneud.”

Mae Joshua, a dderbyniodd ddiagnosis o Ddyslecsia ac ADHD tra’r oedd yn y brifysgol, bellach yn edrych ymlaen at gwblhau ei gwrs a graddio Haf nesaf.

“Rwy’n benderfynol o gael gradd dda ac rwy’n gwneud popeth yn fy ngallu i gyflawni hynny,” meddai. “Mae cael diagnosis o Ddyslecsia ac ADHD wedi ateb rhai cwestiynau i mi o’r diwedd. Mae’r bobl sydd agosaf ataf wedi synnu ond gallaf i weld bod y diagnosis yn un cymwys. Eto, mae’r gefnogaeth gan y brifysgol yno ar fy nghyfer drwy’r amser ac mae hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth i barhau i gyflawni. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gymryd fy lle yn y seremoni raddio a cherdded ar draws y llwyfan – gyda fy nheulu yn fy ngwylio.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost:  rebecca.davies@pcydds.ac.uk 
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau