Skip page header and navigation

Bydd Anna Stevenson, darlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ymuno ag arbenigwyr iechyd, addysg, hamdden a chwaraeon i hybu gwybodaeth a dulliau cymhwyso a gweithredu rhaglennu llythrennedd corfforol ar draws y byd, yng Nghynhadledd Ryngwladol Llythrennedd Corfforol (IPLC) yn Efrog Newydd rhwng 2 a 5 Mai.

Llun pen ac ysgwyddau o Anna Stevenson yn gwenu at y camera.

Mae’r gynhadledd yn denu arweinwyr, ymarferwyr a rhanddeiliaid ym maes llythrennedd corfforol o bob rhan o’r byd mewn amgylchedd gwirionedd gydweithredol. Llythrennedd corfforol yw’r cymhelliad, yr hyder, y cymhwysedd corfforol, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i weld gwerth cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chymryd cyfrifoldeb am hynny gydol oes.

Bydd Anna’n cyflwyno ei hymchwil ar ddatblygu a gwerthuso Footie Families, rhaglen sgiliau echddygol sy’n annog cyfranogiad gan y teulu cyfan. Darperir y rhaglen hon gan hyfforddwyr mewn cymunedau yng Nghymru, gan ddefnyddio pêl-droed fel cyfrwng i gael teuluoedd i gymryd rhan a chefnogi cymhwysedd echddygol ar gyfer plant 2 i 5 oed.

Yng Nghymru, mae lefelau ymddygiad eisteddog ymhlith pobl ifanc gyda’r gwaethaf ledled y byd – (Adroddiad Plant Egnïol Iach Cymru, 2018). Dim ond 9 y cant o fechgyn a 10 y cant o ferched 2 i 4 oed sy’n cyflawni’r lefelau gweithgarwch corfforol dyddiol a argymhellir. Mae cysylltiad rhwng y methiant hwn i gyrraedd canllawiau gweithgarwch corfforol a’r dirywiad pryderus yn sgiliau echddygol bras plant, a ystyrir yn flociau adeiladu ar gyfer symudiadau mwy datblygedig sydd eu hangen ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol gydol oes.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi ffurfio partneriaeth ag Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Brifysgol, dan gyfarwyddyd Dr Nalda Wainwright, i ddatblygu Footie Families – prosiect ymchwil a ariennir drwy raglen Ewropeaidd KESS.

Mae Footie Families yn rhaglen sgiliau echddygol sy’n annog cyfranogiad gan y teulu cyfan mewn lleoliadau cymunedol yng Nghymru, a’i nod yw gwella cymhwysedd echddygol plant cyn oed ysgol a dylanwadu ar arferion gweithgarwch corfforol teuluoedd.

Gwnaeth ymchwil Anna i’r rhaglen ddatgelu’r canlynol:

  • Esgorodd Footie Families ar welliannau mewn cymhwysedd echddygol plant.
  • Cafodd rhieni a phlant eu cymell i fod yn egnïol wrth gymryd rhan gyda’i gilydd.
  • Helpodd y rhaglen i gryfhau perthnasoedd o fewn y teulu.
  • Enillodd rhieni wybodaeth a syniadau i herio plant yn briodol.​
  • Gwnaeth bagiau offer annog teuluoedd i chwarae gyda’i gilydd ac i ailadrodd gweithgareddau o’r sesiynau yn y cartref.
  • Dywedodd rhieni fod Footie Families wedi cefnogi meysydd eraill o ddatblygiad plant (cymryd rhan a hyder).

Meddai Anna: “Mae symudiadau o safon mewn plentyndod cynnar yn gosod y sylfeini ar gyfer pob datblygiad diweddarach. Mae Plentyndod Cynnar yn gyfnod hudol ac yn gyfle i ddatblygu cymhwysedd corfforol sy’n cefnogi hyder a chymhelliant. Rwy mor falch i gael y cyfle hwn i rannu sut mae’r rhaglen Footie Families wir wedi denu teuluoedd i gymryd rhan a chefnogi datblygiad eu plant”.

Meddai Dr Nalda Wainwright, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol yn y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn falch iawn fod ymchwil doethurol Anna’n cael ei gydnabod yn yr IPLC yn Efrog Newydd. Mae gwaith Anna yn rhan o gyfres gyfan o raglenni yr ydym wedi’u cyflwyno yn y Drindod Dewi Sant i fynd i’r afael â’r broblem o sgiliau corfforol gwael mewn plant ifanc. Os na wnawn ni weithredu i roi’r rhaglenni hyn ar waith i gefnogi hyfforddwyr, rhieni, a gweithwyr proffesiynol ym maes y blynyddoedd cynnar, ni fydd plant yn gallu dewis bywydau egnïol, iach.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau