Skip page header and navigation

Mae’r Athro Cysylltiol Carlene Campbell o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, arbenigwraig mewn Seiberddiogelwch a Systemau Clyfar, wedi dod i ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd yn Gadeirydd y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) yn ne-orllewin Cymru. Yr Athro Campbell yw’r ail fenyw i ddal y swydd yn ei hanes.

Yr Athro Cysylltiol Carlene Campbell yn sefyll mewn ystafell wrth ochr offer uwch-dechnoleg.

Cynhelir darlith olaf yr IET dan ei Chadeiryddiaeth ar 26 Ionawr am 7pm ar gampws y Drindod Dewi Sant yn SA1, ar y teitl Electricity II : Industrial Revolution or Industrial Restoration (Hybrid Event). Fe’i traddodir gan Dr Pete Arnold

Fel arfer mae cadeirydd yn gwasanaethu yn y swydd hon am 12 mis, ond pleidleisiodd y pwyllgor yn unfrydol o blaid cael Dr Campbell i gwblhau ail flwyddyn.

Dywedodd yr Athro Campbell: “Roeddwn yn falch iawn i wasanaethu fel cadeirydd ers 2021. Fy nod oedd defnyddio’r cyfle hwn i ddod o hyd i ffyrdd newydd i’r brifysgol archwilio, dysgu a thyfu trwy gydweithio â’r diwydiant i wella dyfodol technoleg ddigidol yng Nghymru.”

Nod yr IET yw ysbrydoli, llywio a dylanwadu ar y gymuned beirianneg fyd-eang i greu byd gwell, gan annog cydweithio a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd sy’n helpu i wneud gwell synnwyr o’r byd er mwyn datrys yr heriau sy’n bwysig.

Wrth iddi gamu i lawr fel Cadeirydd, ei nod yw defnyddio’r profiad a gafodd i gydweithio a chysylltu ymchwil STEM â meysydd perthnasol. Hi yw Rheolwr Graddau Ymchwil Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Brifysgol ac mae’n gwasanaethu ar Bwyllgor Ymchwil a Phwyllgor Graddau Ymchwil y Brifysgol.

Mae taith yr Athro Campbell i wella ymchwil a datblygu yn un barhaus. Ar hyn o bryd, mae’n trefnu chweched Cynhadledd Ryngwladol yr IEEE ar Gyfrifiadura, Electroneg a Chyfathrebu i’w chynnal yn Abertawe rhwng Awst 14-16. Hi yw cynghorydd ymchwil prosiect Cyflymydd Digidol SMART (prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnwys tîm o gynghorwyr arbenigol o’r diwydiant sy’n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i’w helpu i nodi’r dechnoleg gywir i hybu eu helw net) ac mae’n oruchwyliwr ymchwil ar ymchwilwyr o fewn MADE Cymru.

Lluniwyd y fenter hon gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gefnogi ac uwchsgilio’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru.  A hithau’n sylfaenydd Canolfan Arloesi Ymchwil Cyfrifiadura Cymhwysol (ACRIC) newydd yn y Drindod Dewi Sant i sbarduno a rhyngwladoli cydweithio ym maes ymchwil yn y ganolfan a thu hwnt, mae wedi bod yn gweithio gyda nifer o fusnesau bach yn Ne Cymru sy’n gwneud cais am bartneriaethau SMART ar hyn o bryd.  Yn ddiweddar teithiodd i ranbarth y Balcanau lle ffurfiwyd cytundebau cydweithio ym Macedonia ac Albania.  Ym mis Ebrill 2023, bydd yn mynd ar ymweliad academaidd i’r Ariannin i alinio ymchwil ym meysydd Blockchain; Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol; a systemau Gweithgynhyrchu Clyfar.

Mae yr Athro Campbell yn gyfrifol ar hyn o bryd am gyflwyno modylau israddedig ac ôl-raddedig mewn Seiberddiogelwch, Gwaith Fforensig Cyfrifiadurol, Diogelu Data, Diogelu Rhwydweithiau a Dadansoddi Diogelwch, Technegau a Gweithdrefnau. Mae hefyd yn goruchwylio prosiectau myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ar eu blwyddyn olaf ac yn rhan o dîm sy’n paratoi dogfen ddilysu ar gyfer cyrsiau  newydd a chyffrous mewn Cyfrifiadura.

Mae ei hymchwil wedi cynhyrchu dros 20 o gyhoeddiadau mewn cylchgronau rhyngwladol a phapurau cynhadledd a adolygir gan gymheiriaid, ynghyd â phennod mewn llyfr, yn dwyn y teitl Wireless Sensor Networks: Current Status and Future Trends, a gyhoeddwyd gan CRC Press, a llyfr, Carlene Campbell a Kok-Keong Jonathan Loo, A Multichannel Wireless Sensor Networks MAC Protocol, Lambert Academic Publishing, 2016. Mae’r llyfr ar gael ar Amazon.

Mae’r bennod yn edrych ar yr haen Rheoli Cyrchu Cyfryngau (MAC), gan ganolbwyntio ar ddylunio cyfathrebu aml-sianel yn seiliedig ar y Swyddogaeth Gydlynol Wasgaredig (DCF) 802.11 i wella’r cyfathrebu mewn WSN.

Roedd y papur, yn dwyn y teitl “Multichannel Framework for Body Area Network in Health Monitoring”, yn cynnig fframwaith aml-sianel aml-radio newydd ar gyfer cyfathrebu effeithiol ymhlith dyfeisiau mewn rhwydweithiau ardal corff diwifr (WBAN).  Mae’r ffocws ar sicrhau cyfathrebu dibynadwy ac effeithlon o ran ynni yn WBAN.

Nodyn i’r Golygydd

Ymunodd yr Athro Campbell â’r Brifysgol yn Ionawr 2013 fel Darlithydd mewn Rhwydweithiau Cyfrifiadurol. Cyn hynny bu’n gweithio fel Darlithydd Cysylltiol ym Mhrifysgol Coventry rhwng 2010-2012, ac fel Cynorthwyydd Addysgu ym Mhrifysgol Brunel rhwng 2008-2010.

Mae hi hefyd wedi gweithio’n rhyngwladol (yn y Caribî) yn y sectorau diwydiant, addysg a llywodraeth ganolog mewn amrywiol swyddi megis Darlithydd Rhan amser ac Uwch Weinyddwr Rhwydwaith, gan reoli a sicrhau gweithrediad llawn y seilwaith rhwydweithio cyfrifiadurol cyfan.

Cwblhaodd yr Athro Campbell ei gradd israddedig mewn Astudiaethau Cyfrifiadurol a Rheolaeth yn 2000 ym Mhrifysgol Technoleg, Jamaica, ei gradd ôl-raddedig mewn Telegyfathrebu a Rhwydweithiau Cyfrifiadurol ym Mhrifysgol South Bank, Llundain yn 2004, ac yn 2011 dyfarnwyd iddi radd PhD o Brifysgol Middlesex yn Llundain. Ffocws ei hymchwil oedd maes Rhwydweithiau Synwyryddion Diwifr ac ymchwilio i aseiniad aml-sianel ar gyfer protocol Rheoli Cyrchu Cyfryngau (MAC) yn seiliedig ar y Swyddogaeth Gydlynol Wasgaredig IEEE 802.11.

Mae’r Athro Campbell yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA) ac yn aelod o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (MIET).


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau