Skip page header and navigation

Mynychodd Siân Melangell Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis – awduron arobryn o Gymru – Ŵyl Blue Metropolis ym Montreal rhwng 27 a 30 Ebrill, ynghyd â Chyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler.

Pedwar ffotograff portread o bedwar person, Siân Melangell Dafydd, Llŷr Gwyn Lewis, Juliana Léveillé-Trudel a Louis Hamelin.

Siân Melangell Dafydd, Llŷr Gwyn Lewis, Juliana Léveillé-Trudel a Louis Hamelin

Roedd eu hymweliad yn rhan o raglen barhaus o gyfnewid diwylliannol rhwng Québec a Chymru sydd wedi ei threfnu gan Lenyddiaeth ar Draws Ffiniau mewn partneriaeth â gŵyl Blue Metropolis. Bwriad y rhaglen gyfnewid ‘Ysgrifennu’r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu’ ydy dod ag awduron ynghyd i drafod perthynas pobl ag ecosystemau naturiol a diwylliannol, ac i ystyried sut caiff y berthynas hon ei hadlewyrchu mewn llenyddiaeth.

Ymunodd Cyfarwyddwr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, Cristina Fuentes la Roche, â’r ŵyl hefyd, gan gyfrannu at raglen oedd wedi’i hanelu at weithwyr proffesiynol yn y diwydiant llyfrau.

Nod gŵyl Blue Metropolis ydy uno pobl, gwledydd, ieithoedd a diwylliannau drwy ‘rannu’r pleser o ddarllen ac ysgrifennu’. Er pan sefydlwyd hi yn 1997, bu’r ŵyl yn ymdrechu i greu pont gysylltu rhwng ieithoedd, diwylliannau a gwledydd gwahanol, ac i atynnu cynulleidfaoedd eang, chwilfrydig ac amrywiol.

Yn 2023, roedd yr ŵyl yn dathlu chwarter canrif ers ei sefydlu, ac fe guradwyd rhaglen gyffrous ar gyfer yr achlysur, gan gynnwys y sgwrs gyntaf erioed rhwng yr awduron o Gymru a Québec a gymerai ran yn ‘Ysgrifennu’r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu’ eleni – Siân Melangell Dafydd, Llŷr Gwyn Lewis, Juliana Léveillé-Trudel a Louis Hamelin. Darllenwyd testunau cyfochrog ynglŷn â’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a natur, a bu Siân a Llŷr hefyd yn siarad mewn tair trafodaeth banel: ‘Ieithoedd y Byd a Diwylliant Pop’, ‘Dyfodol Amrywiaeth mewn Ieithyddiaeth’ ac ‘Anghofio’r Hen Fyd?’

Fe wnaeth Alexandra Büchler, cyfarwyddwr LAF, gyfarfod â grŵp o awduron o Québec i drafod eu gwaith, a mynychodd gyflwyniad ar statws llenyddiaeth ffrancoffon Québec yng nghyd-destun sîn lenyddol Gogledd America a Ffrainc. Ynghyd â Cristina Fuentes la Roche o Ŵyl y Gelli, cyfrannodd Alexandra at ddau ddigwyddiad arall. Buont yn trafod yr heriau sy’n wynebu trefnwyr digwyddiadau llyfrau heddiw yn y sgwrs banel ‘Digwyddiadau Llyfrau Dan Bwysau’, ac yn cyflwyno Darlith Arbenigol ar y cyd am Lywodraethiant ac Entrepreneuriaeth yn y Celfyddydau Llenyddol i fyfyrwyr sy’n astudio rheolaeth ddiwylliannol ym Mhrifysgol Concordia.

Mae ‘Ysgrifennu’r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu’ yn rhaglen gyffrous sy’n ymestyn y tu hwnt i Ŵyl Blue Metropolis gan fod yr awduron o Québec Juliana Leveillé-Trudel a Louis Hamelin yn bwriadu ymweld â Chymru ym mis Mehefin. Yn ystod eu hymweliad, byddant yn cyfrannu at ddigwyddiadau yng Nghanolfan & Senedd-dŷ Owain Glyndŵ, Machynlleth, ddydd Gwener, 2 Mehefin ac yng Ngŵyl y Gelli ddydd Sul, 4 Mehefin, ochr yn ochr â Siân Melangell Dafydd a Llŷr Gwyn Lewis unwaith eto.

Dywedodd Alexandra Büchler, Cyfarwyddwr LAF: “Rydym yn falch o’r cyfle i gyfnewid safbwyntiau a phrofiadau gydag awduron ffrancoffon o Québec sy’n uniaethu gyda’n pryderon am ysgrifennu llenyddiaeth yng nghysgod iaith a diwylliant arall cryfach, a’r angen sydd arnom i fynnu ein hawl i hunaniaeth ddiwylliannol unigryw. Mae ein partneriaeth barhaus â’r ŵyl eiconig Blue Metropolis, a gefnogir gan lywodraethau Québec a Chymru, yn darparu cyfrwng delfrydol ar gyfer y sgyrsiau hyn.”

Dywedodd Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chyfarwyddwr Strategol Cyfnewidfa Lên Cymru: “Mae’r Ganolfan yn falch iawn o genadwri Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws Ffiniau, sydd yn cysylltu Cymru a’r byd drwy gyfnewid llenyddol a diwylliannol amlieithog, ac yn falch o weld y berthynas hon gyda Quebec a gŵyl Metropolis Bleu yn mynd o nerth i nerth.”

Meddai Siân Melangell Dafydd: “Fe wnaeth ymweld â gŵyl Blue Metropolis ailgynnau rhan hollbwysig o fy mywyd fel awdur: cael ymddangos gerbron cynulleidfa ryngwladol a chyfnewid syniadau gyda chyd-awduron a darllenwyr. Roedd yn fraint mynychu’r ŵyl fywiog hon. Mae cyfeillgarwch sy’n cael ei ffurfio drwy brosiectau llenyddiaeth cydweithredol yn rhai sy’n para, ac rydw i’n teimlo y bydd fy ngwaith yn cael ei siapio gan hyn am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Llŷr Gwyn Lewis: “Dyma un o’r gwyliau llenyddol mwyaf croesawgar a chyfeillgar imi fod ynddynt erioed, a drwy gael cyfle i rannu fy ngwaith, a dod i ddeall rhagor hefyd am hanes a heriau ieithyddol Québec, mae’r profiad yn sicr o gyfoethogi fy ysgrifennu at y dyfodol. Diolch i drefnwyr yr ŵyl ac i LAF am y cyfle.”

Nodyn i’r Golygydd

Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw’r llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a dadlau pholisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. Cewch fwy o wybodaeth am LAF yma.

Lleolir LAF yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ynghyd â Chyfnewidfa Lên Cymru, rhaglen sy’n hyrwyddo llyfrau Cymraeg ac yn darparu cefnogaeth ar gyfer eu cyfieithu. Cefnogir eu gweithgareddau gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllidwyr eraill.

Mae ‘Ysgrifennu’r Hinsawdd, Hinsawdd Ysgrifennu’ yn brosiect cyfnewid llenyddol rhwng Québec a Chymru sy’n archwilio’r ecosystemau naturiol a diwylliannol o safbwynt awduron llenyddol, a chaiff ei gefnogi gan lywodraethau Québec a Chymru.

Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog.

Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posib, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@wales.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau