Bydd graddedigion y cwrs TAR Cynradd yn meddu ar yr wybodaeth, sgiliau, gwerthoedd ac anianawd i gyflawni statws athro cymwysedig (SAC) a bod yn athro cymwys, yn barod i weithio yng Nghymru a thu hwnt.
* Bydd y radd hon yn cael ei hailddilysu a’i hadolygu yn y flwyddyn academaidd 2023/24 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn parhau’n gyfredol. Pe bai unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud i gynnwys y cwrs o ganlyniad i’r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael eu hysbysu unwaith y bydd y newidiadau wedi’u cadarnhau.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
- Cymraeg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cynnwys craidd yn cynnwys:
- Lleoliad amgen – cyfle i brofi addysg yn ei hystyr ehangach;
- Pontio – y broses lle bo gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol yn cwrdd; a chaiff y dull trawsffurfiol ei gyflawni;
- Modylau gorfodol – cynnwys sy’n cael ei gyd-adeiladu a’i gyd-ddarparu (pedagogaidd a chysylltiedig â phwnc) y rhaglen;
- Dewisol – profiad yn yr ysgol ac a gefnogir gan y Brifysgol lle gall graddedigion ddewis dilyn trywydd ymholi mwy arbenigol er mwyn dyfnhau eu gwybodaeth o’r cwricwlwm;
- Cynhadledd partneriaeth – y cyfle i rannu arfer gorau mewn digwyddiad cynhadledd er mwyn gallu trawsnewid y bartneriaeth;
- Statws Athro Cymwysedig – llwybr proffesiynol gorfodol sy’n arwain at ddyfarniad statws athro cymwysedig;
- Datblygu Sgiliau’r Gymraeg – llwybr proffesiynol gorfodol i ddatblygu hyder a gallu graddedigion wrth siarad Cymraeg.
Mae’r rhaglen yn llawn amser dros 36 wythnos.
Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn cynnwys darpariaeth 12-weeks wythnos yn y brifysgol a 24 wythnos mewn ysgol.
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Abertawe
Mae gan Abertawe boblogaeth enfawr o fyfyrwyr, a bydd yr amrywiaeth o lety sydd ar gael yn eich gadael yn teimlo’n ddifeth o ddewis. Darperir llety yn Abertawe gan wahanol ddarparwyr llety myfyrwyr pwrpasol a gall y tîm llety eich arwain trwy eich opsiynau a bydd yn cynnig cefnogaeth barhaus trwy gydol eich amser fel myfyriwr PCYDDS.
Gwybodaeth allweddol
-
Gradd Israddedig
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd dda (o leiaf 2:2) mewn maes sy’n gysylltiedig â’r dewis bwnc uwchradd.
Cymwysterau TGAU
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Saesneg – Iaith neu Cymraeg – Iaith neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Mathemateg neu TGAU Rhifedd neu safon gyfwerth.
- Gradd C (gradd 4 yn Lloegr) neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth neu safon gyfwerth.
Cymwysterau Lefel A/Galwedigaethol Lefel 3
Os nad oes gan ymgeiswyr radd israddedig mewn pwnc cwricwlwm, rhaid iddynt brofi eu bod wedi astudio’n llwyddiannus ar lefelau uwch.
Profiad Gwaith
Dylech fod yn ymwybodol o realiti bod yn athro ac o fywyd yn yr ystafell ddosbarth ac felly rydym yn gofyn am brofiad diweddar a pherthnasol o leoliad addysg uwchradd. Gall hyn fod trwy swydd neu drwy wirfoddoli mewn ysgol a ddylai fod am gyfnod o ddwy wythnos ar y lleiaf.
Bydd magu hyder mewn ystafell ddosbarth ysgol yn helpu i gryfhau eich cais ac yn sail feirniadol well ar gyfer eich datganiad personol. Hefyd, fe fydd yn eich paratoi at ein proses dethol ac yn rhoi peth profiad i chi y gallwch ei ddefnyddio yn eich cyfweliad.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Os cewch eich derbyn ar ein rhaglen, bydd rhaid ichi gael gwiriad clirio uwch DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - CRB, Swyddfa Cofnodion Troseddol gynt) cyn gynted â phosibl. Mae ffi ynghlwm wrth y gwasanaeth a dylech sicrhau eu bod yn dewis y gwasanaeth ‘diweddaru’.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa weinyddol y TAR Uwchradd: yn dbs@pcydds.ac.uk
Am beth ydym ni’n chwilio?
- Safbwynt positif o addysg fel ffordd i drawsnewid bywydau
- Cymhelliant i fod yn athro rhagorol
- Awydd empathig i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc
- Agweddau positif at gyfiawnder, cynhwysiant ac ecwiti cymdeithasol
- Gallu i weithio’n unigol ac fel rhan o dîm
- Egni, brwdfrydedd a hyblygrwydd
- Gwydnwch a dibynadwyedd
- Agweddau ac ymddygiad proffesiynol
- Parodrwydd i ddysgu gydol eich oes
Sut ydym ni’n dewis ein darpar athrawon?
- Ansawdd y datganiad personol
- Tystiolaeth o arbenigedd pwnc
- Profiad diweddar a pherthnasol mewn lleoliad addysgol
- Ansawdd y cyfweliad unigol
- Perfformiad mewn profion dethol – e.e. llythrennedd, rhifedd a chymeriad
Fel rhan o’i hymrwymiad i ehangu mynediad, mae YDDS yn talu sylw arbennig i recriwtio darpar-athrawon o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac mae gan y brifysgol strategaeth farchnata ragweithiol ar gyfer ymgysylltu ag ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, grwpiau ag anableddau, cymunedau lleiafrifoedd ethnig a dysgwyr cyfrwng Cymru.
Mae gan lawer o ysgolion ac adrannau colegau, yn lleol ac yn genedlaethol, gyn-athrawon dan hyfforddiant fel rhan o’u staff gyda llawer yn mynd ymlaen i greu gyrfaoedd addysgu.
-
Mae cynllun y rhaglen yn darparu’r cyfle i asesiadau gael eu cysylltu’n agos ag arfer ystafell ddosbarth a thynnu ar brofiad a geir o brofiad personol. Mae’r dull hwn yn sefydlu’r cysylltiadau rhwng dysgu deallusol a dysgu trwy brofiadau ymhellach.
Er enghraifft, bydd rhaid i fyfyrwyr gynllunio, cynnal, gwerthuso a rhannu prosiect ymchwil agos i arfer a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddysgwyr. Lle bynnag y bo’n bosibl, caiff aseiniadau eu cyflwyno a’u marcio’n electronig i hwyluso adborth amserol ac effeithiol.
Mae elfennau asesu’n cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, portffolio, fideo unigol a phrosiect ymchwil.
-
Gall ein myfyrwyr gyrchu ystod amrywiol o offer ac adnoddau, sydd yn y rhan fwyaf o achosion yn ddigonol i gwblhau eu rhaglen astudio. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd myfyrwyr yn wynebu rhai costau ychwanegol na ellir eu hosgoi yn ogystal â chost eu hyfforddiant yn y brifysgol. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Costau gorfodol:
- Teithio i ysgolion lleoliad ac i’r Brifysgol.
- Teithio i ddarpariaeth arbenigol oddi ar y safle (gan gynnwys ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill).
- Teithio i ysgolion ar gyfer ‘Diwrnodau Pontio’ a mentrau eraill ar gyfer y garfan gyfan, yn unol â’r calendr.
- Y defnydd o liniadur (mae MS Office yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr).
Costau Angenrheidiol:
- Teithio i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi pwnc a drefnir gan y Tiwtor Pwnc
- Adnoddau addysgu, er enghraifft, gwerslyfrau Safon Uwch/TGAU
- Teithio i leoliadau ‘Meysydd Dewisol’
Dewisol:
- Costau argraffu
- Teithiau astudio dewisol
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
_______________________________________________________
Bwrsariaeth Dilyniant Ôl-raddedigion Y Drindod Dewi Sant
ar gyfer myfyrwyr israddedig (a graddedigion diweddar PCYDDS) sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-raddedig a addysgir gan PCYDDS.
Bwrsariaeth a ddyfernir i fyfyrwyr sydd newydd (o fewn dwy flynedd) gwblhau gradd israddedig yn y Drindod Dewi Sant ac sy’n mynd ymlaen i raglen ôl-radd amser llawn neu ran amser e.e. MA/MRes/MTh/MSc/MBA/TAR (ond gan eithrio PGDip/PG Cert)
Swm y Dyfarniad: Hyd at £2,500
Dyddiad olaf i wneud cais: ddim yn berthnasol - bydd y fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu’n awtomatig i unrhyw fyfyriwr cymwys.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae’r fwrsariaeth yn cael ei dyfarnu fel gostyngiad ffioedd a hynny pro-rata ar sail cost a dwyster yr astudio. Mae’r £2,500 llawn ar gyfer cyrsiau sy’n costio £7,500 neu fwy. (Bydd gostyngiad o £1,000 ar gyfer cyrsiau MA llawn a addysgir sy’n costio £5050)
-
Mae graddedigion yn gyflogadwy iawn fel athrawon cymwysedig yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd graddedigion wedi’u paratoi gan set cryf o sgiliau meddwl beirniadol, dadansoddol a datrys problemau sy’n adlewyrchu sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr y neu hystyried yn ddymunol iawn.
Bydd graddedigion yn gweithio mewn rolau sy’n galw am sgiliau cydymffurfiaeth ddigidol, rhifedd a llythrennedd cadarn ynghyd â sgiliau cydweithio, rheoli amser a gweithio mewn amgylchedd cymhleth. Bydd natur y cynnwys ar draws y rhaglen arfaethedig - o ran darpariaeth ac asesiad - yn darparu graddedigion gyda phrofiad o gyflwyno gwaith trwy amrywiaeth o gyfryngau. Mae’r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy iawn a ddefnyddir mewn amrywiaeth o opsiynau cyflogaeth.