Peirianneg Fodurol (Llawn amser) (HND - Diploma Cenedlaethol Uwch)
Mae’r degawd nesaf yn addo newidiadau trawsnewidiol yn y diwydiant modurol, gan drawsnewid o’r injan hylosgi mewnol i drenau pŵer hybrid a thrydanol. Mae’r newid hwn yn creu galw cynyddol am sgiliau peirianneg newydd y mae ein HND Peirianneg Fodurol yn ceisio ymateb iddo.
Mae ein rhaglen yn cynnwys buddsoddiadau sylweddol yn ein cyfleusterau peirianneg, gan gynnig mynediad i’n myfyrwyr i weithdai modurol arbenigol, labordai diagnosteg peiriannau, dynamometrau siasi, cyfleusterau trenau pŵer hybrid/trydan, a chyfleusterau gweithgynhyrchu a pheiriannu helaeth. Mae’r cyfleusterau hyn o’r radd flaenaf ac yn cynnal profiad dysgu ymarferol, sy’n hanfodol ar gyfer deall a chymhwyso egwyddorion peirianneg fodurol.
Rydym yn cydweithredu’n agos â phartneriaid yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn aros yn berthnasol a bod myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a’r angerdd angenrheidiol ar gyfer y sectorau modurol perfformiad a phrif ffrwd fel ei gilydd. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar feysydd craidd fel dynameg cerbydau, crogiant, reidio, trin a Sŵn, Dirgryniad, ac Aflafarwch (NVH). Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu trenau pŵer, yn enwedig wrth i’r diwydiant symud tuag at danwydd cynaliadwy ac uwch dechnolegau batri.
Yn ogystal, mae’r rhaglen yn pwysleisio agweddau amgylcheddol dylunio a thechnoleg modurol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer ystod amrywiol o gyfleoedd gyrfa. Drwy gymwysiadau ymarferol a gweithgareddau allgyrsiol, gall myfyrwyr gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol i heriau modurol o’r byd go iawn.
Er nad yw’r ffocws ar gerbydau awtonomaidd yn unig, mae’r cwrs yn cynnig golwg ar y tueddiadau modurol diweddaraf, gan gynnwys datblygu cerbydau glanach a mwy effeithlon. Bydd graddedigion y rhaglen hon yn barod iawn i gwrdd â gofynion diwydiant sy’n esblygu’n gyflym, ac yn berchen ar y sgiliau a’r wybodaeth i ddod yn beirianwyr modurol modern.
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiad dysgu deinamig a deniadol. Mae ein cwrs HND Peirianneg Fodurol yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â defnydd ymarferol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer y diwydiant modurol sy’n esblygu.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gref mewn egwyddorion peirianneg hanfodol. Byddwch yn astudio dulliau dadansoddol, gwyddor peirianneg, a chyflwyniad i dechnoleg cerbydau. Bydd profiad ymarferol yn ein gweithdai modurol a labordai diagnosteg peiriannau’n ategu eich dysgu damcaniaethol.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Mae’r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar bynciau uwch fel systemau gyriant amgen, systemau siasis modurol, a dadansoddi straen a pheirianneg drwy gymorth cyfrifiadur (CAE). Byddwch hefyd yn ymchwilio i thermodynameg a hylosgi, gan wella eich dealltwriaeth o dechnolegau cynaliadwy. Bydd sesiynau ymarferol gyda dynamomedrau siasi a chyfleusterau gweithgynhyrchu yn datblygu eich sgiliau peirianneg ymhellach.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Visit Us At An Open Day
Get to know us, the place you will call home while studying with us and the experts who lead our courses. Meet current students and hear what they love about studying with us.
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
96-112 o Bwyntiau Tariff UCAS
Mae’r sgôr tariff UCAS yn berthnasol i chi os ydych chi wedi astudio cymhwyster yn ddiweddar sy’n gyfwerth â thariff UCAS . Mae UCAS yn darparu cyfrifiannell tariff er mwyn i chi weithio allan beth yw gwerth eich cymhwyster o fewn tariff UCAS.
TGAU
TGAU Mathemateg neu Ffiseg gradd B (neu 6) neu gyfwerth.
Llwybrau mynediad amgen
Os ydy’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi, ond nid yw’r gofynion mynediad gennych i ymuno â’n gradd baglor, gallech ystyried:
-
‘gyda Blwyddyn Sylfaen’. Mae’r llwybr hwn wedi’i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i chi am ei fod yn rhoi blwyddyn ychwanegol (llawn amser) i chi o astudio wedi’i gefnogi.
Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau eich astudiaethau Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i’r brif radd.
Cyngor a Chymorth Derbyn
Efallai y gwnawn ni roi cynnig is i chi yn seiliedig ar ystod o ffactorau, fel eich cefndir, profiadau ac amgylchiadau unigol. Gelwir hyn yn‘’Derbyniadau Cyd-destunol’. I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.
Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannu
Os nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
-
Caiff y cwrs ei asesu drwy gymysgedd o waith cwrs, profion cyfnod, cyflwyniadau, arholiadau llafar ac arholiadau papur.
-
Nid oes costau ychwanegol gyda’r cwrs hwn.
-
Mae’r Drindod Dewi Sant yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog ac er nad oes unrhyw fodiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs hwn ar hyn o bryd, ym mhob achos gall myfyrwyr gyflwyno asesiadau ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyfleoedd Cymraeg a Chymreig
A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau i siaradwyr Cymraeg a dod yn aelod o’n cangen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r galw uchel cyfredol am raddedigion peirianneg modurol wedi’i adlewyrchu yn y canran uchel o’n myfyrwyr sy’n cael eu drafftio i swyddi llawn amser neu astudiaethau pellach o fewn 6 mis o orffen eu hastudiaethau.
Mae gweithgynhyrchwyr mawr y DU a chyflenwyr Haen 1 yn amsugno’r rhan fwyaf o’n graddedigion, sydd hefyd yn wir am gwmnïau ymchwil ac ymgynghori.
Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus iawn gyda chwmnïau fel Jaguar Land Rover, Ford, McLaren Automotive, Lotus, Cosworth, Ricardo, JCB yn ogystal â chwmnïau chwaraeon moduro Formula One, ceir Teithio/GT a thimau Ralio.
-
Eich dilyniant academaidd naturiol o’n rhaglen HND Peirianneg Fodurol fyddai i’r BEng Peirianneg Fodurol.
Rhagor o wybodaeth am symud ymlaen o HNC, HND, CertHE a DipHEGall myfyrwyr sy’n graddio gyda Thystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), Diploma Cenedlaethol Uwch (HND), Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE), neu Ddiploma Addysg Uwch (DipHE) ddilyn llwybrau strwythuredig, mynediad uwch i raglenni gradd Anrhydedd cysylltiedig ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
- Mae deiliaid CertHE fel arfer yn mynd i Flwyddyn 2 gradd BA neu BSc gysylltiedig.
- Gall deiliaid DipHE a HND wneud cais yn uniongyrchol i Flwyddyn 3 (blwyddyn olaf) graddau anrhydedd.
- Mae deiliaid HNC yn gymwys i gael mynediad i Flwyddyn 2, yn dibynnu ar y pwnc a chredydau.
Mae’r rhaglenni atodol hyn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau – gan gynnwys Busnes, Cyfrifiadura, Peirianneg, Adeiladu, yr Amgylchedd, Diwydiannau Creadigol, a Chwaraeon – ac yn eich galluogi i adeiladu ar eich dysgu blaenorol i ennill gradd BA neu BSc (Anrh) lawn.