Mae Doethuriaeth yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i bwnc sy’n berthnasol i’r meysydd y mae’r Gyfadran yn arbenigo ynddyn nhw, a hynny o dan oruchwyliaeth tîm o staff academaidd cymwys.
Yr hyn sy’n gwneud doethuriaeth yn wahanol i raddau ymchwil eraill, fel MPhil, yw bod yn rhaid i ddoethuriaeth wneud cyfraniad gwreiddiol i’r maes, tra bo cymhwyster fel MPhil yn gallu ystyried a gwneud sylwadau ar yr hyn rydym yn ei wybod yn barod.
Yng Ngholeg Celf Abertawe, rydym yn cynnig amrywiaeth o astudiaethau M.Phil./PhD ar draws meysydd eang Celf a Dylunio. Ewch i’n tudalen ffioedd i weld cost y cyrsiau.
Mae gennym restr hir o academyddion sydd â doethuriaethau ac arbenigeddau cysylltiedig a all oruchwylio myfyrwyr sy’n gweithio ar lefel gradd ymchwil ar draws y prif ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig ag ysgol gelf o’r radd flaenaf.
Mae addysgeg y pedair ysgol sy’n rhan o Goleg Celf Abertawe yn arloesol ac maen nhw’n cynnal prosiectau ymchwil blaengar yn holl feysydd celf a dylunio:
- Dylunio a’r Celfyddydau Cymhwysol
- Ffilm a’r Cyfryngau Digidol
- Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth
- Cyfathrebu Gweledol
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd darpar ymgeiswyr yn cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect ymchwil.
Ar ôl cymeradwyo’r cais, bydd tîm goruchwylio yn cael ei benodi i chi a fydd yn cynnwys dau neu dri aelod priodol o staff dan arweiniad Cyfarwyddwr Astudiaethau. Byddwch chi, ynghyd â’r tîm, yn cynnal ymchwiliad estynedig i’r pwnc dan sylw, ac yn ysgrifennu traethawd ymchwil.
Gallwch ddewis gwneud ymchwil seiliedig ar arfer hefyd, sy’n golygu traethawd ymchwil byrrach ynghyd â chorff sylweddol o waith ymarferol. Mae pob myfyriwr ymchwil yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddiant ymchwil yn ogystal ag Ysgol Haf y Brifysgol.
Mae’r Gyfadran yn arbenigo ym mhob agwedd ar y celfyddydau gweledol, dylunio, ffotograffiaeth, ffilm a’r cyfryngau. Yn aml, bydd gwaith Doethuriaeth yn arwain at gyhoeddi, a gallai arwain at yrfa yn y byd academaidd.
.
tysteb
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Y meincnod ar gyfer mynediad yw gradd israddedig 2:1 neu uwch. Gall myfyrwyr aeddfed wneud cais sy’n ystyried eu portffolio a/neu eu gyrfa academaidd/diwydiannol flaenorol.
Mae gweithdrefn hefyd ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol. Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol brofi eu bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at y lefel IELTS 6.5 ofynnol.
-
Caiff Doethuriaeth ei hasesu drwy gyflwyno traethawd ymchwil ysgrifenedig ynghyd â chorff o waith ymarferol, os yw’n briodol, ac yna bydd dau arholwr, un o’r tu allan i’r Brifysgol, yn cynnal arholiad llafar, neu viva, er mwyn craffu ar y gwaith.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
Bydd disgwyl i chi brynu tiwnig i’w gwisgo yn y lleoliad clinigol - rhoddir fanylion pellach pan fyddwch chi’n dechrau’r rhaglen.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.