Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gweithle (Yn y Gymuned) (CertHE)
Os ydych chi’n awyddus i gymryd y cam cyntaf ar yr ysgol yrfa, ein rhaglen Arwain a Rheoli Cymhwysol yn y Gweithle yn y Gymuned yw’r dewis delfrydol.
Bydd y CERTHE hwn yn dysgu sgiliau a strategaethau hanfodol i chi ar gyfer y gweithle. Byddwch yn archwilio arferion arwain allweddol a strategaethau rheoli sy’n hanfodol ar gyfer eich cyflogadwyedd yn y dyfodol. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i’ch paratoi ar gyfer heriau’r byd go iawn mewn arweinyddiaeth a rheolaeth.
Trwy drafod a dadlau, byddwch yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac yn dysgu datrys problemau yn y gweithle yn effeithiol. Bydd y cwrs hefyd yn helpu i wella eich deallusrwydd emosiynol, a fydd yn eich galluogi i weithio’n dda gydag eraill mewn tîm.
Rhan allweddol arall o’r cwrs yw ymarfer myfyriol, sy’n eich annog i werthuso eich perfformiad eich hun a nodi meysydd i’w datblygu.
Un o nodweddion unigryw y rhaglen hon yw ei hyblygrwydd. Cyflwynir y cwrs gyda’r nos ac ar benwythnosau, gyda rhai sesiynau ar ddydd Sadwrn ac eraill gyda’r nos yn ystod yr wythnos.
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ddysgu mewn canolfannau dysgu yn y gymuned, sy’n ei gwneud yn gyfleus ac yn hygyrch ble bynnag yr ydych.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol arnoch i wneud cais am y rhaglen hon – mae mynediad yn syml, trwy gais ar-lein. Ar ôl cofrestru, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr mewn datblygu arweinyddiaeth, megis rheoli pobl, rheoli tîm, a gwella eich sgiliau cyfathrebu mewn arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gymhwyso arweinyddiaeth yn y gweithle yn effeithiol, gan eich gwneud yn ymgeisydd cryf ar gyfer dilyniant gyrfa a’ch helpu i lwyddo mewn unrhyw rôl.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig llwybr ymarferol a hyblyg i fyd arweinyddiaeth a rheolaeth, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen yn eich gyrfa a dylanwadu ar eich sefydliad.
Course details
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Wrth galon ein rhaglen Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gymhwysol yn y Gymuned yn y Gweithle mae ymrwymiad i ddysgu ymarferol a pherthnasol.
Mae’r rhaglen hon yn annog ymarfer myfyriol, gan eich galluogi i gymhwyso sgiliau arwain a strategaethau rheoli mewn lleoliadau gweithle.
Trwy feithrin meddwl beirniadol, gwaith tîm a gweithio’n annibynnol, rydym yn eich helpu i ddod yn arweinydd hyderus sy’n barod i symud ymlaen yn eich gyrfa a bod yn gyflogadwy yn y dyfodol.
Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn canolbwyntio ar adeiladu sylfaen gref mewn arferion arweinyddiaeth a datrys problemau. Byddwch yn dysgu hanfodion cyfathrebu rheoli, sut i fynd i’r afael â phenderfyniadau cymhleth, a datblygu eich arfer proffesiynol eich hun. Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch wedi ennill sgiliau arweinyddiaeth allweddol a chael profiad o weithio’n effeithiol mewn timau ac yn annibynnol, gan eich paratoi i lwyddo ym modylau’r dyfodol.
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credyd)
(20 credyd)
Disclaimer
-
The modules outlined above provide examples of what you can expect to learn on this course based on recent academic teaching. We continuously review our courses to ensure quality enhancement and to manage our resources. The precise modules available to you in future years may vary depending on staff availability and research interests, new topics of study, timetabling and student demand. Where your course includes optional modules, these are to provide an element of choice within the course. The availability of optional modules may vary from year to year and will be subject to minimum student numbers being achieved. This means the availability of specific optional modules cannot be guaranteed.
You’ll typically complete 120 credits per year of study on a full-time course. For more information visit our Student Agreement.
tysteb
Staff
Our People
You will be taught and supported by a wide range of professional staff and teams here to help you get the university experience you are looking for. Our teaching staff were ranked 2nd in Wales for Teaching, Assessment and Feedback and Academic Support (NSS 2024) meaning that the support and feedback you get will help you learn and develop strong academic skills. Our students have placed us 1st in Wales for Learning Opportunities and Student Voice (NSS 2024) meaning that there are a wide range of opportunities available to enhance your studies and that students play an active role in shaping their learning experiences. Our commitment to your learning has seen our students place us as 1st in Wales and joint 3rd in the UK for student satisfaction (Times Higher Education, 2024, ‘Overall Positivity’ measure). Find out more about our academic staff who teach across our courses.
Gwybodaeth allweddol
-
Cyfweliad
Cyngor a Chymorth Derbyn
I gael cyngor a chymorth penodol, gallwch gysylltu â’n tîm ymholiadau i gael rhagor o wybodaeth am ofynion mynediad.Gofynion Iaith Saesneg
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, neu os nad ydych wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg o’r blaen, mae ein gofyniad arferol yn gyfwerth â sgôr o 6.0 y System Brofi Iaith Saesneg Rhyngwladol (Prawf Academaidd IELTS), heb gael llai na 5.5 ym mhob un o’r is-brofion. Rydym hefyd yn derbyn profion iaith Saesneg eraill.
Ewch i ymweld ag adran Ceisiadau Rhyngwladol ein gwefan i ddysgu rhagor am ein Gofynion Iaith Saesneg a Chyrsiau Iaith Saesneg ymlaen llaw.
Gofynion fisa ac ariannuOs nad ydych o’r DU ac nid oes gennych breswyliad yma yn barod, efallai bydd angen i chi wneud cais am fisa.
Ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na chwe mis, bydd angen fisa myfyrwyr arnoch chi.
Dylai myfyrwyr rhyngwladol sydd angen fisa Myfyriwr wneud cais am ein cyrsiau llawn amser gan eu bod yn gymwys ar gyfer nawdd fisa Myfyriwr.
I gael yr holl wybodaeth, darllenwch y dudalen gwneud cais am fisa a chanllawiau.
Sylwch mai dim ond ar gyfer rhaglenni wyneb yn wyneb, ar gampws, heb elfennau astudio ar-lein y gall myfyrwyr sy’n derbyn Cymorth Ffederal yr Unol Daleithiau wneud cais.
-
Mae rhai modylau ar y cwrs hwn ar gael i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn llawn neu’n rhannol. Ym mhob achos bydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno asesiadau ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Os byddwch chi’n dewis astudio eich cwrs yn llawn neu’n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’ch cefnogi gyda’ch astudiaethau.
Rydym yn adolygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn gyson a bydd union argaeledd modylau yn amodol ar argaeledd a diddordebau ymchwil staff, pynciau astudio newydd, amserlennu a’r galw gan fyfyrwyr. Os yw eich cwrs yn cynnig modylau trwy gyfrwng y Gymraeg gall y math o fodwl amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd yn amodol ar gyrraedd isafswm nifer myfyrwyr. Golyga hyn na ellir gwarantu argaeledd modylau cyfrwng Cymraeg penodol.
Cyfleoedd Cymraeg Allgyrsiol
Yn ogystal, mae nifer o ffyrdd i ymgysylltu â’r diwylliant a bywyd Cymreig yn PCYDDS, gan gynnwys ymuno â chlybiau a chymdeithasau ar gyfer siaradwyr Cymraeg ac ymuno â Changen fywiog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd i Ddysgu Cymraeg
Rydym hefyd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu ac i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg
-
Mae asesiadau wedi’u llunio i wneud yn fawr o’r cyswllt rhwng theori ac arfer a chaniatáu i fyfyrwyr ddangos trylwyredd deallusol ac adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain yn y gweithle.
Defnyddir dulliau asesu gwahanol i alluogi myfyrwyr i ddangos yr hyn maent wedi’i ddysgu mewn amrywiol ffyrdd, megis adroddiadau, gwaith adfyfyriol, cyflwyniadau, gwaith unigol a pheth gwaith grŵp, er bod asesiad unigol bob tro. Defnyddir asesiadau ffurfiannol i gyfoethogi dealltwriaeth dysgwyr ac i fagu hyder dysgwyr, yn ogystal â nodi ymhle y gallai fod angen cymorth tiwtorial ychwanegol. Ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gall cwisiau fod yn ddifyr a gweithio’n dda. Anogir myfyrwyr i ddod â’u hymchwil eu hunain i’r dosbarth i’w rannu ag eraill sy’n cyfrannu.
Yn gyffredinol, darperir adborth trwy’r platfform ar-lein, Moodle. Mae tîm y rhaglen hefyd yn darparu adborth wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi ac yn dysgu o’r adborth a ddarperir ac yn gallu trafod pob agwedd ar eu perfformiad a’r gwersi y gellid eu cymhwyso yn y dyfodol.
I grynhoi, er mwyn creu ymarferwyr adfyfyriol cymwys, bydd y rhaglen yn:
- Annog myfyrwyr i ymgymryd â darllen ac ymchwil annibynnol i ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth unigol o’r pwnc
- Defnyddio dulliau asesu sy’n rhoi pwyslais ar ddadansoddi beirniadol, gwerthuso ac arfer adfyfyriol
- Profi gwybodaeth a sylfaen sgiliau drwy waith cwrs ac ymarferion ymarferol a asesir.
-
Fel sefydliad, ymdrechwn yn barhaus i gyfoethogi profiadau myfyrwyr ac o ganlyniad, mae’n bosibl y daw costau ychwanegol i ran y myfyrwyr sy’n gysylltiedig â gweithgareddau a fydd yn ychwanegu gwerth at eu haddysg.
Mae’n bosibl cwblhau’r rhaglen astudio heb gostau ychwanegol. Efallai bydd myfyrwyr yn dymuno cofrestru am dystysgrif L5 mewn Hyfforddi a Mentora gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth am gost ychwanegol o £160.
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau arwain a rheoli sydd gan y myfyrwyr aeddfed a’u defnyddio yn gweithle.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 4 sy’n sefyll ar ei phen ei hun, gall myfyrwyr adael y Brifysgol â ThystAU lefel 4 a Thystysgrif lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth gan yr ILM. Mae’r rhan fwyaf o’r myfyrwyr llwyddiannus yn dewis symud ymlaen a pharhau â’u hastudiaethau amser llawn drwy ymgymryd â rhaglen BA atodol am 2 flynedd. Mae’r BA 2 flynedd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth hefyd yn cynnig cydnabyddiaeth broffesiynol gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth i’r myfyrwyr sy’n parhau â’u hastudiaethau. Cenhadaeth y Sefydliad yw “Ysbrydoli Arweinyddiaeth Ardderchog”.
Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn rhoi cyfleoedd i rwydweithio a chael gwell dealltwriaeth o’r maes astudio, ac yn helpu’r brifysgol i ragweld anghenion posibl cyflogwyr yn y dyfodol. Ymgynghorir â chyflogwyr a chyrff dyfarnu wrth ddylunio’r deunydd a chynnwys y modylau ac maent yn rhoi mewnbwn ar y rhaglen ar ffurf siaradwyr o fyd diwydiant.