Skip page header and navigation

Digwyddiadau ac Aduniadau

Cyn belled â’ch bod wedi cofrestru ar gyfer e-gylchlythyrau ac wedi diweddaru eich manylion, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddigwyddiadau rydym wedi’u cynllunio, gan gynnwys aduniadau, digwyddiadau rhwydweithio neu hyfforddi proffesiynol, ffeiriau gyrfaoedd a mwy. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi bob amser yn ôl ar eich campws astudio.

Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr

Digwyddiadau ac Aduniadau i Gyn-fyfyrwyr

Dewch i gwrdd â’ch cyd cyn-fyfyrwyr yn ein haduniadau a chael budd o ymuno â’n digwyddiadau amrywiol.

Methu gweld digwyddiad i chi? Mae cyfleoedd newydd ar y gorwel felly falle bydd rhywbeth i ddod y byddech yn dwlu ei fynychu neu gymryd rhan ynddo.

Peidiwch â cholli cyfle. Cysylltwch er mwyn i ni allu rhoi’r diweddaraf i chi.

Torf y seremoni raddio y tu allan i adeilad PCYDDS

Am gynllunio aduniad?

Aduniad yw’r ffordd berffaith o ailgysylltu a hel atgofion â chyn-fyfyrwyr eich dosbarth gynt, a hyd yn oed wneud cysylltiadau newydd.   

Yn ogystal â chynnal aduniadau ar gampws, rydym hefyd yn hapus i’ch cefnogi os ydych chi byth eisiau trefnu eich aduniad eich hun. Gall y Brifysgol ddarparu cymorth gweinyddol, estyn allan at gyn-fyfyrwyr eich cyfnod drwy e-byst a hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, a gallwn gynnig ffotograffiaeth broffesiynol ar gyfer y digwyddiad.  

Mae gennym becynnau aduniad gwych ar gael ar gampysau Caerfyrddin a Llambed sy’n cynnwys lleoliad, bwyd a llety.  

Os hoffech chi gael cefnogaeth i drefnu eich digwyddiad ac eisiau derbyn pecyn aduniad, cysylltwch ag alumni@uwtsd.ac.uk.