Skip page header and navigation

Pam y dylech gynnig Gradd-brentisiaethau

  • Mae prentisiaid yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r ymddygiadau a ddysgir ganddynt yn ystod y rhaglen radd ac yn eu cymhwyso’n uniongyrchol yn y gweithle. Mae hyn yn helpu gweithwyr i feistroli’u rolau cyfredol ac i lenwi bylchau sgiliau o fewn y busnes.
  • Mae prentisiaid yn hysbysu’r busnes am y datblygiadau a’r technolegau diweddaraf a ddysgwyd ganddynt yn ystod eu rhaglen radd.
  • Mae cyflogwyr yn elwa o fuddsoddiad gyda chynnydd mewn cynhyrchiant a gwell perfformiad busnes.
  • Bydd cyflogwyr yn gallu denu a chadw gweithwyr talentog, trwy ddarparu llwybr at gyfleoedd a hwb i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
  • O ganlyniad bydd y busnes yn gallu cynllunio olyniaeth mewn swyddi allweddol, nodi’r perfformwyr gorau a pharatoi rheolwyr ar gyfer y dyfodol.
  • Mae prentisiaid yn gweithio ar brosiectau sy’n seiliedig ar waith diwydiannol a ddewisir trwy drafodaethau gyda’u cyflogwyr, eu tiwtoriaid a’u swyddogion cyswllt. Cytunir ar gynlluniau sydd o fudd i’r busnes a’r meini prawf academaidd.
  • Cefnogir y Rhaglenni Gradd-brentisiaeth gan Gyllid Llywodraeth Cymru neu’r Cynllun Ardoll Prentisiaethau.

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Drindod Dewi Sant, gallwch ddefnyddio Gradd-brentisiaethau ar gyfer gweithwyr i dyfu eich busnes, hybu cynhyrchiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Prentisiaeth

Aelod o staff yn rhoi cyflwyniad i grŵp

Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r Drindod Dewi Sant, gallwch ddefnyddio Gradd-brentisiaethau ar gyfer gweithwyr i dyfu eich busnes, hybu cynhyrchiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Pam y Drindod Dewi Sant?

Uwch aelodau'r Brifysgol mewn ystafell drochi.

Pam dewis PCYDDS i wneud eich Gradd-brentisiaeth?

Mae’r Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr Gradd-brentisiaethau prifysgol.

Ar hyn o bryd rydym yn darparu gradd-brentisiaethau i dros 100 o gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf gyda sefydliadau sector preifat a chyhoeddus gan gynnwys Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau), Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG.

Mae ein Gradd-brentisiaethau’n cynnig cyfle i gyflogwyr feithrin eu talent eu hunain. Gall cyflogwyr ddewis uwchsgilio neu ailsgilio gweithwyr cyfredol, neu recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd trwy ein Prentisiaethau at lefel gradd.

01
Rheolwr cyfrif penodol – Swyddogion Cyswllt Prentisiaethau.
02
Cyngor a chymorth gyda’r cais cyllido.
03
Swyddog Cyswllt Prentisiaethau i ddarparu cymorth bugeiliol ac academaidd ar gyfer y prentis.
04
Gofod arddangos ar unrhyw rai o ddiwrnodau agored/ digwyddiadau brecwast yr Uned Brentisiaeth.
05
Cymryd rhan yng Ngrŵp Cyswllt y Diwydiant – Caiff pob cymhwyster ei ffurfio gan fwrdd cynghori o gyflogwyr, sy’n ein helpu i lunio ein cyrsiau i fodloni’n uniongyrchol ofynion busnes a newidiadau mewn Diwydiant.
06
Cymorth i recriwtio darpar ymgeiswyr.

Rhanddeiliaid a phartneriaid sydd wedi datblygu cymwysterau prentisiaeth mewn cydweithrediad â’r Drindod

    • Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru,
    • Sectorau Gofal Acíwt a Chynradd GIG Cymru
    • Tata Steel
    • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
    • Ford Motor Company
    • BAE Systems
    • AWE
    • DSTL
    • Roxel
    • QinetiQ
    • DE&S
    • Sefydliad Siartredig yr Archeolegwyr