Skip page header and navigation

Graduate Outcomes Survey

Mae’r arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.

Byddwn eisiau gwybod beth rydych yn ei wneud fel y gallwn ddathlu eich cyflawniadau a chael darlun clir o’r llwybrau gyrfa amrywiol y mae eich rhaglenni gradd wedi eich arwain atynt. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i wella profiad myfyrwyr.

Gobeithio y bydd eich holl gwestiynau yn cael eu hateb yn y wybodaeth isod, ond gallwch hefyd fynd at wefan Hynt Graddedigion HESA.

Peidiwch ag anghofio, i gael dweud eich dweud, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diweddaru eich manylion.

Logo Cymraeg Deilliannau Myfyrwyr

HESA video

Amdano’r Arolwg Hynt Graddedigion

  • Gofynnir i’r holl raddedigion a gwblhaodd gwrs perthnasol gymryd rhan yn yr arolwg Hynt Graddedigion sydd ond yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

    Mae’n ceisio deall a ydych mewn cyflogaeth, wedi parhau gydag astudiaeth bellach neu’n gwneud rhywbeth arall, ac mae’n ystyried i ba raddau y mae eich cymhwyster wedi chwarae rhan.

    Hyd yn oed os ydych wedi parhau â’ch astudiaethau gyda ni, a waeth a ymgymerwyd â’ch cwrs fel rhan o’ch cyflogaeth, neu fel gofyniad ar gyfer eich cyflogaeth bresennol, gofynnir i chi gwblhau’r arolwg.

  • Bydd eich ymateb yn ddienw ond bydd yn helpu’r Drindod Dewi Sant i farchnata a gwerthuso ein cyrsiau a bydd yn rhoi cipolwg hefyd i fyfyrwyr presennol ac yn y dyfodol ar gyrchfannau a datblygiad gyrfa. 

    Mae’r arolwg hefyd o arwyddocâd cenedlaethol. Mae’n caniatáu i lunwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.

  • Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) felly byddant yn cysylltu â chi ar ran y Brifysgol.

    Byddwch yn derbyn e-bost gan UniversityOfWalesTrinitySaintDavid@graduateoutcomes.ac.uk yn eich gwahodd i gwblhau’r arolwg ar-lein. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn negeseuon testun gan ‘GradOutcome’ a galwadau gan IFF Research ar ran y Brifysgol fel y gallwch gwblhau’r arolwg dros y ffôn.  Os nad oes modd cysylltu â chi, efallai y byddwn yn gofyn i drydydd parti fel aelod o’r teulu am y wybodaeth hon.

    Peidiwch ag anghofio, er mwyn cysylltu â chi, y byddwn angen eich gwybodaeth ddiweddaraf. Os nad ydych chi’n meddwl ei bod gennym ni, gallwch chi ddiweddaru’ch manylion.

    Os ydych chi’n fyfyriwr cyfredol, gallwch ddiweddaru’ch manylion gan ddefnyddio MyTSD.

  • Byddwch yn cael yr arolwg tua 15 mis ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau. 

    Bydd graddedigion yn cael eu grwpio ar draws y flwyddyn yn bedair carfan yn seiliedig ar ddyddiad gorffen eich cwrs. Yn dibynnu ar ba bryd y daeth eich cwrs i ben, byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg tua 15 mis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os daeth eich cwrs i ben ym mis Mai i fis Gorffennaf 2023, byddwch yn derbyn gwahoddiad yr arolwg ym mis Medi 2024.

    Mae’r tabl isod yn dangos pryd y byddwch yn cael yr arolwg:

    Dyddiad gorffen y cwrs Cyfnod yr arolwg
    Awst – Hydref 2022 Rhagfyr 2023 – Chwefror 2024
    Tachwedd 2022 – Ionawr 2023 Mawrth – Mai 2024
    Chwefror – Ebrill 2023 Mehefin – Awst 2024
    Mai – Gorffennaf 2023 Medi - Tachwedd 2024