Diwrnod Agored TAR SA1 Abertawe
Diwrnod Agored TAR SA1 Abertawe
Os dewch i un o Ddiwrnodau Agored PCYDDS, cewch gyfle i ddod i’n hadnabod ni, i weld a yw’r brifysgol yn gweddu i chi, ac i grwydro’r ddinas a allai ddod yn gartref i chi. Ar ddiwrnod agored, cewch gwrdd â’r darlithwyr a fydd yn eich addysgu yn ogystal â chael cyfle i weld y cyfleusterau a’r mannau dysgu sy’n allweddol i’ch cwrs chi.
Dysgwch fwy am ble byddwch chi’n aros trwy siarad â’n timau llety, a thrafodwch pa ddewisiadau llety sydd ar gael i chi. Cewch sgwrsio gyda’r rhai sy’n astudio â ni ar hyn o bryd a chlywed ble sydd orau i gymdeithasu ac i fwynhau yn Abertawe.
Ac yn bwysicaf oll, cewch atebion i’r cwestiynau sydd o bwys i chi.
Gweld beth sydd gan Abertawe i'w gynnig.
Pynciau sydd ar gael
TAR (Cynradd) SAC
TAR (Uwchradd): Mae hyn yn cynnwys SAC gyda’r canlynol: Astudiaethau Crefyddol; Busnes; Celf Cemeg; Cymraeg; Daearyddiaeth; Drama; Dylunio a Thechnoleg; Ffiseg; Hanes; Ieithoedd Tramor; Mathemateg; Saesneg; TG.
Lleoliad
UWTSD Swansea
Island Road
Swansea
SA1 8EW
Y Deyrnas Unedig