Skip page header and navigation

Astudio yn y Drindod Dewi Sant

Gwybodaeth ar gyfer ymgeiswyr ar raglenni cyfnewid, rhaglenni astudio tramor a rhaglenni haf.

Gall myfyrwyr o’r tu allan i’r DU wneud cais i astudio yng Nghymru i gael profiad oes. Mae gennym raglen astudio dramor hir sefydlog a nifer o raglenni cyfnewid dwyffordd gyda sefydliadau partner.

Mae penderfynu ble i astudio ar gyfer eich Rhaglen Astudio Tramor yn benderfyniad enfawr, ac yn un a allai newid eich bywyd! Nid yn unig y mae’n gyfle i chi astudio o bersbectif rhyngwladol, ond byddwch hefyd yn dysgu am ddiwylliant, hanes a ffordd o fyw wahanol. 

Canllaw ar gyfer myfyrwyr astudio dramor/cyfnewid sy’n dod i Gymru

Ein nod yw gwneud y broses ymgeisio i fyfyrwyr sy’n dod i Gymru mor ddiffwdan â phosibl wrth iddynt ddechrau eu profiad Astudio Dramor yn PCYDDS.

Ar gyfer myfyrwyr Cyfnewid, rydym yn gofyn am enwebiad gan ein partneriaid tramor ar gyfer pob myfyriwr sy’n dewis PCYDDS.

Rhaid i bartneriaid anfon manylion myfyrwyr a enwebwyd i’r Uned Recriwtio Rhyngwladol, gan gynnwys enw llawn y myfyriwr, y pwnc maent yn ei astudio ar hyn o bryd a’r maes pwnc arfaethedig yn PCYDDS. Ar ôl cael eu henwebu, cyfeirir myfyrwyr i wneud cais trwy’r broses gyfnewid rhyngwladol.

Os yw myfyriwr yn gwneud cais fel myfyriwr astudio dramor sy’n talu ffioedd ac felly tu allan i’r cytundeb cyfnewid, dylent wneud cais cyn y dyddiad cau.

Sut i wneud cais

Mae Cymru’n lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol.

Students on the steps outside Alex

Mae Cymru’n lle gwych i dreulio’r amser gwerthfawr hwn yn eich gyrfa addysgol.Wrth reswm, fe fydd y rhaglen Astudio Dramor yn rhoi gwybodaeth academaidd gadarn i chi, ond mae ei strwythur hefyd yn caniatáu i chi fwynhau’r amrywiaeth gyfoethog o brofiadau diwylliannol a chymdeithasol sydd ar gael i chi yng Nghymru ac ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Rhaglen Academaidd

Cewch ddewis o blith amrywiaeth o gyrsiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Ceir rhestr lawn y cyrsiau sydd ar gael ar dudalennau cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig ein gwefan. 

Ar ddechrau’r rhaglen, bydd ein hathrawon yn cyflwyno pob un o’r cyrsiau i chi, fel y gallwch benderfynu pa rai sydd fwyaf at eich dant. Wedi i chi ddewis, fe fydd rhwng 12-17 awr o ddosbarthiadau (60 o Gredydau’r DU, 30 credyd ECTS y semester).

Ar ôl cwblhau’r Rhaglen Astudio Dramor, byddwn yn anfon trawsgrifiad atoch chi a’ch sefydliad.