Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn tynnu sylw at ‘Werth Gwlân’ mewn arddangosfa ryngweithiol yn rhan o Wythnos Gynaliadwyedd.

Myfyrwyr yn gwrando ar ddarlithydd yn yr ystafell drochi

Mae’r arddangosfa hon, a gynhelir ar Gampws IQ y Brifysgol yn SA1 Glannau Abertawe, yn ymwneud â’r rhan bwysig mae gwlân wedi’i chwarae ar wahanol adegau mewn hanes a sut y gall helpu i greu dyfodol cynaliadwy.

Mae’r arddangosfa wedi’i llunio o nifer o arddangosfeydd gyda llawer o wrthrychau y gall pobl eu trin a thrafod a chwarae gyda nhw, gan gynnwys cnu amrwd a chardiau Tup Trump Cynhelir yr arddangosfa drwy’r wythnos o 16eg Hydref, a bydd sgwrs am rôl gwlân mewn cynaliadwyedd, a gweithdy ffeltio â nodwydd sy’n addas i bob oedran ddydd Iau 19eg Hydref am 4pm.

Mae’r arddangosfa wedi’i churadu gan Deborah Mercer, un o raddedigion y Celfyddydau Breiniol o’r Drindod Dewi Sant. Meddai:

“Mae’r arddangosfa wedi’i chynllunio ar sail y gwaith wnes i fel myfyriwr israddedig yn y Drindod Dewi Sant. Mae pob aseiniad wedi ychwanegu elfen wahanol i’r arddangosfa gyfan, o ymchwil penodol ar hwyliau Llychlynwyr i archwilio sut i wneud arddangosfa ddiddorol am weithgaredd trwy ddefnyddio gweithgareddau rhyngweithiol.”

Nod yr arddangosfa yw dangos sut y gall gwlân chwarae rhan fawr wrth greu dyfodol mwy cynaliadwy. Ychwanega:

“Mae gennym lawer o ffermydd yn Ynysoedd Prydain sy’n cynhyrchu llawer iawn o wlân sy’n cael ei losgi neu ei gladdu ar hyn o bryd gan nad oes iddo lawer o werth ariannol.  Ond mae dillad gwlân yn para am amser hir ac mae modd eu trwsio, mae compost gwlân yn gyfoethog o nitrogen a gellir ei ddefnyddio yn lle compost mawn, a gall cynnyrch eraill fel inswleiddiwr gwlân pur gael effaith enfawr ar werth cynaliadwyedd adeilad newydd neu fel ffordd werdd o ôl-ffitio hen adeilad.”

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn gadael yr arddangosfa gan feddwl am wlân fel adnodd naturiol yng Nghymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei danbrisio ac y dylid ei ddathlu’n fwy. Rwy’n gobeithio y byddant yn meddwl am brynu rhagor o gynnyrch gwlân yn y dyfodol, naill ai siwmper 100% Gwlân Prydain neu ddefnyddio cynnyrch gan Wool Insulation Wales i wella sgôr ynni eu cartref.”

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae Debby yn uchel ei pharch yn ei maes ac rydym yn falch i gynnal yr arddangosfa a’r sgyrsiau yn rhan o wythnos Gynaliadwyedd y Brifysgol. Fel cyn-fyfyriwr ac Intern INSPIRE diweddar, mae hyn wir yn dangos pa mor hanfodol yw ymagwedd y Brifysgol at gynaliadwyedd ym mhrofiad ein myfyrwyr.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau