Skip page header and navigation

Cynhaliwyd Cystadleuaeth Sgiliau Ffotograffiaeth Cymru eleni gan yr Adran Ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Abertawe.

Cystadleuwyr rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Ffotograffiaeth Cymru yn sefyll yn Stiwdio Griffith; mae lluniau yn cael eu harddangos ar y waliau.

Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid yng Nghymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Yn dilyn galwad agored i fyfyrwyr sy’n astudio ar hyn o bryd am gymhwyster lefel 2 neu 3, dewiswyd 10 ymgeisydd o Goleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Llandrillo Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Castell-nedd Port Talbot, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent i arddangos eu gwaith ffotograffig, gan ymateb i’r thema ‘Portread o Gymru’.

Gwahoddwyd y rhai a ddewiswyd ar gyfer y rownd derfynol i arddangos eu gwaith ffotograffig yng ngofod arddangos Coleg Celf Abertawe, Stiwdio Griffith, a’r beirniaid oedd Siân Addicott, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a Jon Plimmer o GSD Media UK.

Yn dilyn y broses o feirniadu, bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy gyda’r artist ac arddangosydd technegol, Dafydd Williams, yn archwilio portreadau 5 x 4.

Meddai Ryan Moule, Pennaeth Astudiaethau Ffotograffig Israddedig yn y Drindod Dewi Sant: “Llongyfarchiadau i Elis Jones o Goleg Meirion-Dwyfor ar ennill y wobr fawreddog hon ac i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant.”

Caiff y rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gyfle i gystadlu yng nghystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International, yn amodol ar rownd arall o geisiadau.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Mae’r cystadlaethau’n rhad ac am ddim ac maent yn rhedeg fel arfer rhwng mis Ionawr a mis Mawrth bob blwyddyn.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau