Skip page header and navigation

Yn ddiweddar bu’r cwmni Camerâu  RED Digital Cinema ar ymweliad â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddarparu gweithdy gwneud ffilmiau i fyfyrwyr.

Students filming Pembrokshire Fire Spinners

Rhoddodd y digwyddiad difyr a diddorol hwn, a gefnogwyd gan Rwydwaith ‘Gorllewin Cymru Greadigol’, brofiad ymarferol i fyfyrwyr o ddefnyddio camerâu sinema 8K o’r radd flaenaf i ffilmio dilyniannau cyffrous yn arddangos perfformiadau cyfareddol Troellwyr Tân Sir Benfro.

Dan arweiniad arbenigwyr yn y diwydiant, cafodd myfyrwyr ar y cyrsiau BA Gwneud Ffilmiau Antur a BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol yn y Drindod Dewi Sant gyfle unigryw i roi rhwydd hynt i’w creadigrwydd ac archwilio’r potensial llawn o adrodd straeon yn sinematig. Gwnaethant hyn drwy ffilmio dilyniannau o fomiau mwg a thaflwyr fflamau gyda’r perfformwyr mewn gwisgoedd syrcas llawn. Yn ystod y dydd, bu’r myfyrwyr yn defnyddio’r un camerâu a lensys â’r rhai a ddefnyddiwyd ar gynyrchiadau mawr Hollywood, fel y gyfres ffilmiau Marvel diweddaraf a chyfresi Disney+.

Gwnaeth Brady Stone, Rheolwr Gwerthiant Ardal y DU a Gogledd Ewrop ar ran RED Europe, fynegi ei frwdfrydedd am y cyfle i weithio gyda’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau:

“Roedd yn bleser cynnal diwrnod RED yn y Drindod Dewi Sant. Aethom â’n casgliad llawn o gamerâu RED a threfnodd y tîm yn y brifysgol bynciau gwych i ni eu ffilmio. Roedd y myfyrwyr wedi llwyr ymgolli yn y gweithdy drwy gydol y dydd ac fe wnaethant wir fwynhau cael eu dwylo ar y cit. Gallent weld manteision saethu ffeiliau RAW, cydraniad uchel a chyfraddau ffrâm uchel, a defnyddio ystod ddynamig eang y camerâu a’r modd uchafbwyntiau estynedig i gipio lluniau gwych yn y stiwdio golau isel a’r set allanol llachar. Roedd yn  ymddangos bod pawb wedi mwynhau’r diwrnod yn fawr iawn, fe wnaethom ni yn sicr, ac edrychwn ymlaen at y tro nesaf!”

Camera Set up for exhibition

Gwnaeth y gweithdy hefyd arddangos lensys Tokina, sy’n enwog am eu hansawdd ragorol. Cafodd y myfyrwyr y fraint o ddefnyddio’r un lensys a oedd newydd gael eu defnyddio i ffilmio perfformiad Tom Hiddleston yn nhymor 2 o Loki ar gyfer Disney Plus. 

Meddai Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen y BA Gwneud Ffilmiau Antur a BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol yn y Drindod Dewi Sant:

“Mae darparu cyfleoedd sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, fel gwaith gyda chamerâu sinema o’r radd flaenaf, yn rhan bwysig iawn o gyflwyno cwrs gradd proffesiynol cyfoes. Bydd y myfyrwyr hyn yn graddio â’r sgiliau a’r hyder i gael eu cyflogi mewn diwydiant, neu i fod yn entrepreneur a sefydlu eu busnes eu hunain.Mae cwmnïau fel RED a Tokina yn gweld gwerth cefnogi talent newydd ac yn gyffrous ynglŷn â mewnbwn creadigol y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilmiau a chrewyr cynnwys.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau