Skip page header and navigation

Mae pedwar o raddedigion Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymddangos yn New Graduate Review 2022 y Gymdeithas Gwydr Cyfoes (CGS), gydag un myfyriwr yn ennill y brif wobr.

Clawr cylchgrawn y Gymdeithas Gwydr Cyfoes.

Bob blwyddyn, mae’r gymdeithas yn adolygu myfyrwyr sy’n graddio o raglenni creadigol yn y DU ac yn dewis nifer fach ar gyfer gwobrau ac i’w cynnwys yn y cyhoeddiad print blynyddol.

Mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys pedwar o fyfyrwyr PCYDDS: dau fyfyriwr israddedig, Sophia Henry ac Emma Martin, y dyfarnwyd canmoliaeth uchel i’r ddau; a dau fyfyriwr meistr, Tulin Bedri a Polly Thomas-Colquhoun. Cafodd Tulin ganmoliaeth uchel ac enillodd Polly brif wobr y safle cyntaf, gyda’i gwaith yn cael ei gynnwys ar glawr cyhoeddiad yr adolygiad.

Mae artistiaid a thechnegau gwydr lliw traddodiadol yn dylanwadu’n fawr ar waith Polly, y’u defnyddir ganddi i “greu delweddau cyfoes sy’n taflu goleuni newydd ar y grefft”. Gan ddewis themâu a phynciau modern yn ofalus sy’n apelio at gynulleidfa o filflwyddiaid, trwy “gyfuno dulliau traddodiadol â delweddaeth gyfoes, nod Polly yw ennyn diddordeb cynulleidfa newydd mewn gwydr lliw” (Adolygiad CGS, 2022).

Wrth siarad â CGS, dywedodd Polly: “Rwy’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr Gwerthwyr Gwydr/CGS ac am yr holl gefnogaeth a ddaw yn ei sgil. Gall bywyd fel graddedig mewn celf deimlo braidd yn frawychus ar adegau, felly mae cael cydnabyddiaeth am fy ngwaith wedi fy llenwi â hyder.”

Meddai Leigh Baildham o Gronfa Elusennol y Worshipful Company of Glass Sellers sy’n cefnogi’r enillydd: “Gwnaeth ansawdd ac amrywiaeth yr arddulliau dylunio a gyflwynwyd eleni argraff fawr arnaf. Ar ôl heriau’r pandemig, mae’n amlwg fod digonedd o ysbrydoliaeth yn ein cymuned o artistiaid gwydr y dyfodol.”

Meddai Catherine Brown, darlithydd yn PCYDDS: “Rydym yn hynod falch o’n holl raddedigion Gwydr a’u cyraeddiadau. Mae ein rhaglenni yn PCYDDS yn rhoi’r cyfleoedd a’r rhyddid i fyfyrwyr archwilio creadigrwydd a sgiliau crefft. Rydym yn parhau i ddiogelu crefft gwydr lliw yn ogystal â datblygu technegau arloesol a syniadau ar gyfer y dyfodol, ac rydym yn falch iawn fod y CGS wedi cydnabod a dathlu llwyddiannau’r myfyrwyr hyn.” 

Gellir astudio crefft amrywiol, gywrain a hardd gwydr yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS trwy radd Baglor mewn Crefftau Dylunio neu radd Meistr mewn Gwydr. Bydd Prentisiaeth Crefftberson mewn Gwydr Lliw yn cychwyn yn 2023 hefyd. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan y brifysgol.

Gellir gweld darn buddugol Polly, James, fel rhan o arddangosfa’r Sysygy Collective yn Abertawe hyd at 19eg Ionawr.

Fe’i sefydlwyd ym 1853, mae Coleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn un o brif ddarparwyr cyrsiau sy’n gysylltiedig â’r Celfyddydau, yn y safle 1af yng Nghymru mewn pedwar pwnc yn y Celfyddydau, yn 4ydd yn y DU ar gyfer Ffilm a Ffotograffiaeth, yn 8fed yn y DU ar gyfer Dylunio Cynnyrch, ac yn 10fed yn y DU ar gyfer Dylunio Graffig.


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk 
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau