Skip page header and navigation

Mae darlithydd o Brifysgol y Drindod Dewi Sant wedi ail danio’i diddordeb mewn ymchwil drwy ddychwelyd i astudio ar gyfer cymhwyster MA mewn Arfer Proffesiynol.

Llun pen ac ysgwyddau o Kara Lewis yn gwenu at y camera.

Penderfynodd Kara Lewis, Darlithydd a Rheolwr Prosiectau, Rhagoriaith, astudio’r cwrs MA mewn Arfer Proffesiynol o dan adain Academi Cymru ar gyfer Arfer Proffesiynol ac Ymchwil Cymhwysol y Brifysgol. Dywedodd:

“Roedd cyflawni’r cwrs wedi ailgynnau fy niddordeb mewn ymchwil, ynghyd â chael cyfle i dreiddio’n ddyfnach i bynciau perthnasol i’m proffesiwn a meysydd newydd. Er ei bod yn waith caled, ac yn fuddsoddiad amser, mwynheais i’n fawr iawn. Roedd yn gyfle i fi wneud rhywbeth drosta i fy hun a datblygu fy hun hefyd. Roedd cwrdd â darlithwyr y rhaglen a myfyrwyr eraill hefyd yn ehangu fy rhwydwaith.”

Teimla Kara fod astudio’r cymhwyster hwn “wedi rhoi llawer mwy o hyder i fi gyfrannu’n ehangach yn fy ngweithle. Mae’r astudiaethau wedi datblygu fy set sgiliau, ac wedi ehangu fy ngorwelion. Mae disgwyl i’r gweithlu heddiw fod yn hyblyg iawn. Rwy’n teimlo fy mod i’n gallu cyfrannu’n hyderus at fwy o agweddau’r sefydliad nawr, gyda theori, ond yn bwysicach, gyda phrofiad oherwydd y rhaglen.”

Disgrifia’r cwrs fel “rhaglen eithriadol o ymarferol, ac roeddwn i’n gallu rhoi popeth ar waith yn syth. Mae’n gymysgedd da o theori ac arfer. Mae cyrsiau marchnata, rheoli prosiectau, mentora a llawer mwy.”

“Alla i ddim clodfori’r staff ddigon – roedden nhw’n gefnogol tu hwnt, ac roedd natur hyblyg ac ymarferol y cwrs yn golygu y gallwn i weithio ac astudio. Mwynheais i’r prosiect ymchwil yn fawr iawn. Gwnaeth y modylau dulliau ymchwil fy mharatoi at y traethodau hir, ond hefyd at barhau i wneud ymchwil gweithredol yn fy ngweithle.”

Llwyddodd Kara i symud ei hymchwil ymlaen yn syth wedi iddi orffen y cwrs. Ychwanegodd:

“Edrychais ar ddysgu digidol yn ystod y cyfnod clo, ac roedd canfyddiadau’r ymchwil yn lliwio’r ddarpariaeth ar sail yr ymchwil gyda hyder er mwyn gwella’n dysgu ac addysgu a phrofiad ein myfyrwyr.

“Mae cynnal ymchwil gweithredol yn rhan annatod o’m gwaith nawr, ac rwy’n ymchwilio’n gyson i ddatblygiadau mwya’ diweddar ein maes, ac yn arbrofi, monitro a gwella.”

Dywedodd Lowri Harris, Cydlynydd y cwrs:

“Gwelsom ddatblygiad mawr yn Kara o ran ei hyder yn cynnal ymchwil a oedd yn berthnasol iawn i’w gwaith ac roedd yn fraint cael ei chefnogi drwy ei hastudiaethau. Mae’r ymchwil y gwnaeth wedi dylanwadu ar ei gwaith ac ar ei myfyrwyr, sef beth yw prif bwriad astudio o dan ein rhaglen ni. Dw i’n siwr mai dyma ddechrau profiad positif mewn ymchwil i Kara, ac mi fyddwn yn clywed am lawer mwy ganddi o fewn y maes.”

Wrth annog eraill i astudio’r rhaglen mi fyddai Kara’n argymell i’r myfyrwyr:

“Beidio ag ofni arbrofi gyda dulliau ymchwil sy’n newydd i chi - bydd hyn yn cryfhau unrhyw ymchwil dych chi’n gwneud yn y gweithle yn y dyfodol yn haws o lawer. Dewiswch bwnc sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch chi’n byw gyda’r ymchwil am gyfnod gweddol hir! Os ydych chi’n mwynhau, wedyn bydd yr holl ddarllen, yr ymchwil a’r dehongli a’r cyflwyno’n haws, ac yn brofiad cadarnhaol a boddhaol iawn.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau