Skip page header and navigation

Yn rhan o’u Hwythnos Cyflogadwyedd flynyddol ym mis Ionawr, cynhaliodd y Ganolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant noson i raddedigion i arddangos yr hyn y mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i’w wneud.

Graduating students throw their mortarboard hats in the air in front of the Old College, Carmarthen.

Mewn digwyddiad ar-lein, gwahoddwyd cyn-fyfyrwyr rhaglenni Blynyddoedd Cynnar, Ieuenctid a Chymuned ac Astudiaethau Addysg Y Drindod Dewi Sant yn ôl i rannu eu straeon graddedig.

Buont yn sôn am eu teithiau ers graddio, pa yrfaoedd neu gyfleoedd astudio pellach y maent wedi’u dilyn, a rhannon nhw sut y credant fod eu graddau wedi’u harwain at y man lle maen nhw nawr.

Gan gyflwyno i ystafell rithwir o fyfyrwyr presennol cyrsiau Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg, roedd hwn yn gyfle i fyfyrwyr y gorffennol ysbrydoli a rhoi syniadau a chipolygon i’r cyfleoedd posibl sydd o flaen ein graddedigion y dyfodol.

Arddangosodd y cyn-fyfyrwyr amrywiaeth o yrfaoedd a llwybrau dilyniant gan gynnwys; dilyn cyrsiau TAR a graddau meistr, gweithio mewn ysgolion fel Swyddog Lles Addysg, mewn rolau darlithio mewn addysg bellach ac uwch, gweithio i heddluoedd, elusennau ac asiantaethau recriwtio addysg.

Ymhlith y graddedigion a siaradodd yr oedd Ellie Jones, cyn-fyfyriwr BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned o 2019 sydd bellach yn gweithio fel Ditectif Gwnstabl i’r heddlu.

Wrth feddwl am ei chyfnod yn Y Drindod Dewi Sant, dywedodd Ellie:  

“Cefais amrywiaeth o brofiadau anhygoel wrth astudio Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn y Drindod Dewi Sant sydd wedi fy arwain at y man lle rydw i heddiw. O gyfleoedd am leoliadau gyda nifer o sefydliadau, i dreulio semester dramor yn astudio yng Nghanada.  

“Mae’r sgiliau a’r wybodaeth a gefais o’r profiadau hyn ar fy ngradd wedi bod yn amhrisiadwy ac rydw i wedi gallu eu defnyddio’n ddyddiol yn fy ngwaith gydag elusennau ac yn awr fel Ditectif Gwnstabl.”

Cyngor Ellie i fyfyrwyr presennol oedd iddynt “bachu ar y cyfleoedd sy’n codi gan eu bod nhw wir yn gallu agor eich llygaid ac agor drysau.” 

Hefyd yn cyflwyno oedd Samuel Jones, un o raddedigion 2014 BA Astudiaethau Addysg a rannodd:

“Bellach yn gweithio i asiantaeth recriwtio addysg, gallaf ddweud heb amheuaeth fod y wybodaeth a gefais o’r cwrs wedi fy helpu i wneud cynnydd ac ennill dyrchafiadau.  

“Gan fy mod yn meddu ar ddealltwriaeth o’r cwricwlwm a damcaniaethau addysgu o ddiolch i’r cwrs, ynghyd â phrofiad fel athro yn sgil ennill TAR ar ôl fy ngradd gyntaf, rwy’n gallu meithrin perthnasoedd da gyda rhanddeiliaid mewn ysgolion a chael effaith. Maen nhw’n gwybod nad dim ond rhywun sy’n gweithio yn y maes recriwtio ydw i, bod gen i’r radd sydd wedi rhoi’r arbenigedd i mi.”

Graddiodd Karen Llewellyn yn 2018 o BA Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar ac mae bellach yn darlithio Gofal Plant yng Ngholeg Gwyr Abertawe yn ogystal ag yn astudio MA Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Chymunedau yma yn y Drindod Dewi Sant. Dywedodd Karen:  

“Ar ôl rhedeg fy musnes gwarchod plant am dros 12 mlynedd, datblygais fwy o ddiddordeb mewn datblygiad plant, felly penderfynais y byddwn yn cwblhau gradd Blynyddoedd Cynnar. Cefais fy ysbrydoli gan y darlithwyr.

Fe wnaeth fy ngradd fy helpu i symud ymlaen at rôl darlithio llawn amser yn y coleg a nawr, nid yn unig dwi’n gallu trosglwyddo fy ngwybodaeth i’r rheiny dwi’n dysgu, mae gen i well dealltwriaeth o arddulliau addysgu sy’n siwtio dysgwyr gwahanol. Gallaf roi hwn i waith yn fy rôl a gwneud gwahaniaeth i fy myfyrwyr i, gan gynnwys eu helpu i symud ymlaen yn eu hastudiaethau. Ag wrth gwrs, dwi wedi anfon llawer yng nghyfeiriad y Drindod Dewi Sant!”

O ran yr effaith y gall y mathau hyn o ddigwyddiadau ei chael ar brofiadau myfyrwyr, lle mae myfyrwyr presennol yn dod i gysylltiad â chyn-fyfyrwyr, dywedodd Ross Phillips, Darlithydd yn y Ganolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg:

“Roedd y digwyddiad yn dangos i fyfyrwyr pa mor hyblyg y gall eu graddau fod. Nid ydynt yn cael eu cyfyngu i orfod dilyn llwybr penodol.  

“Ceir cyfleoedd i gymryd y sgiliau a’r wybodaeth y maent yn eu datblygu a’u defnyddio mewn ystod eang o feysydd ac mae hynny’n hynod bwysig, fel myfyriwr israddedig, i ddeall i ble y gall eu gradd fynd â nhw a deall y gall safbwyntiau a diddordebau newid yn ystod eu hastudiaethau a thu hwnt.”

Dylai cyn-fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn dychwelyd i’w meysydd astudio gysylltu â’r Swyddog Cysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr ar alumni@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau