Skip page header and navigation

Mae ein clwstwr amrywiol o raglenni Gwaith Ieuenctid a Blynyddoedd Cynnar yn borth i fyd lle mae eich brwdfrydedd dros gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill yn dod yn fyw. Gallwch ddewis astudio’n hyblyg yn ystod y dydd neu gyda’r nos, gan ganiatáu i chi ddewis y llwybr sy’n gweithio orau i chi.

Gwnewch wahaniaeth i fywydau plant ifanc. Mae Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar yn caniatáu i chi astudio holl agweddau ar ddatblygiad a dysgu plant ifanc. Hefyd, mae cyfleoedd i fynd ar leoliad yn caniatáu i chi raddio gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar fel y gallwch ddatblygu dyfodol addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Paratowch am yrfa werth chweil gyda phlant a phobl ifanc trwy ein cyrsiau Gwaith gyda Phobl Ifanc a Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol, y ddau wedi’u teilwra’n unigryw i fodloni’r heriau a’r cyfleoedd sydd yng Nghymru a thu hwnt. Cewch ennill y wybodaeth a’r sgiliau sy’n grymuso pobl ifanc ac yn cefnogi eu datblygiad.

Mwynhewch y posibiliadau a ddarperir gan opsiynau astudio ar y campws, ar-lein a dysgu cyfunol gydag addysgu cydamserol i ganiatáu i fyfyrwyr rannu a thrafod syniadau.  Cofleidiwch awyrgylch cymunedol bywiog ein cyrsiau bach, lle caiff eich llais ei glywed.   Cewch hefyd ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda nifer o’n cyrsiau ar gael i’w hastudio’n Gymraeg, gan ddarparu amgylchedd dysgu unigryw a throchol. 

Mae ein hymrwymiad i feithrin gweithwyr proffesiynol tosturiol yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gan sicrhau eich bod yn graddio gyda’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sydd eu hangen er mwyn llwyddo ym meysydd dynamig addysg blynyddoedd cynnar, gwaith ieuenctid ac eiriolaeth. Ymunwch â ni i lunio dyfodol mwy disglair trwy addysg, cefnogaeth ac eiriolaeth. Dyma ddechrau eich taith, bydd graddedigion yn mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd neu hyfforddiant ôl-raddedig gan gynnwys gwaith ieuenctid, addysgu, darlithio, gwaith cymdeithasol, llesiant a chymorth i deuluoedd.

Pam asudio Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar?

01
Dosbarthiadau bach sy’n caniatáu profiad dysgu wedi’i bersonoli mewn awyrgylch cymunedol bywiog.
02
Rhaglenni wedi’u cydnabod gan y diwydiant, gyda rhaglenni wedi’u hachredu a’u cymeradwyo ar gael ym meysydd y blynyddoedd cynnar a gwaith ieuenctid.
03
Cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol, darparwyr blynyddoedd cynnar a gwaith ieuenctid, sy’n galluogi ein myfyrwyr i gael profiad go iawn wrth iddynt wneud cynnydd tuag at eu dewis yrfa.
04
Mae ein profiad hir mewn hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o athrawon ac addysgwyr yn golygu ein bod yn 1af yng Nghymru am Addysg (Tabl Cynghrair y Guardian 2022)
05
Dewisiadau Cyfrwng Cymraeg ar gael, sy’n eich galluogi i ddysgu a hyfforddi yn eich dewis iaith.
06
Rhaglen Addysg Gynradd SAC (Statws Athro Cymwysedig) achrededig ar gael

Clearing

Students in Dynevor Cafe.

Mae Clirio ar Agor

Spotlights

Athrawes gynradd yn helpu disgybl ifanc

Cyfleusterau

Yn fyfyriwr Addysgu, Addysg, a Gwaith Ieuenctid, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein rhaglenni Addysg Awyr Agored ac Addysg Gorfforol fynediad i Cynefin hefyd, Canolfan y Brifysgol ar gyfer gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys trac pwmpio ar gyfer Beiciau Mynydd, mynediad i Afon Tywi a llwybr Arfordir Cymru, Ysgol Goedwig a lleoliad a gwersyll crefftau coedwriaeth. Mae’r man penodedig hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu’r rhaglen ymhellach gyda mwy o fynediad i adnoddau, mannau addysgu gwell a chyfleusterau ar y safle. 

Straeon Myfyrwyr Gwaith Ieuenctid ac Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar