Skip page header and navigation

Mae Nye Evans, sydd wedi graddio mewn Peirianneg Ynni ac Amgylcheddol, yn gobeithio y gall ei wybodaeth a’i sgiliau helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau’n ymwneud â datblygu technolegau glanach, seilwaith cynaliadwy, ac ymdrechion cadwraeth amgylcheddol.

Nye Evans yn ei ŵn a’i het academaidd ar ddiwrnod graddio.

Meddai: “Gwelwn dargedau sero net ac addunedau cynaliadwyedd yn aml iawn, ac er mwyn cyrraedd y targedau hynny mae angen peirianwyr amgylcheddol arnom sy’n arloesi ac yn optimeiddio prosesau er mwyn lleihau allyriadau a’u gwneud nhw’n fwy effeithlon.

“Fy nodau a’m huchelgeisiau wrth ddilyn y cwrs hwn oedd dysgu llawer o sgiliau a gwybodaeth ddefnyddiol, berthnasol a defnyddiadwy i wella fy hun a gwneud gwahaniaeth yn y diwydiant. Roeddwn i hefyd am wneud fy nheulu’n falch a phrofi i fi fy hun y gallwn ei wneud.”

Dywedodd Nye mai un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd cydweithio mewn grwpiau ar dasgau anodd ac ymddiried yn eu sgiliau cydweithredol i gynhyrchu canlyniad da.

“Un arall oedd taith cwrs i Fachynlleth lle gwnaethom ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen a dysgu llawer iawn am ddulliau a thechnolegau cynnar a datblygol y gallwn weld mwy ohonynt, o bosibl, yn y sector ynni.”

Roedd traethawd hir Nye yn archwilio effeithlonrwydd a phrosesau rheoli ynni o fewn prifysgol ac roedd yn golygu gweithio’n agos ag adrannau mewnol y brifysgol.

“Roedd hyn yn bleserus iawn a rhoddodd flas i mi o waith y byd go iawn a’r hyn y gallwn fod yn ei wneud yn y dyfodol,” meddai.

“Rwy’n sicr wedi datblygu ac ennill sgiliau gan y cwrs a’r brifysgol yr wyf yn ddiolchgar amdanynt yn bersonol. Rydw i wedi gwella fy ngwybodaeth beirianyddol ddigon i gael fy ystyried am swyddi yn y diwydiant.

“Roedd cyfleoedd allanol da hefyd i ennill ardystiad a dyfarniadau i helpu gyda chyflogadwyedd a dilyniant personol megis llywio Rotor Drôn Realiti Rhithwir ac MOS.

“Fy nghynllun nawr yw chwilio am swydd, ac rwy’n gobeithio cael swydd foddhaus gyda dilyniant ac un y gallaf fwynhau mynd i mewn iddi bob dydd.”

Meddai Kelvin Lake, Uwch Ddarlithydd yn y Drindod Dewi Sant: “Amharwyd yn fawr ar amser Nye yn y Drindod Dewi Sant gan COVID (yn yr un modd ag amser yr holl fyfyrwyr sy’n graddio eleni), ond er gwaethaf hyn, mae wedi arddangos ei angerdd at y sectorau Ynni ac Amgylcheddol ac mae’n graddio’n llwyddiannus eleni a fydd yn sicrhau ei ddyfodol yn y meysydd hyn. Penllanw hyn oedd iddo edrych ar “Strategaethau Ynni, Lleihau Carbon a Rheoli yn y Drindod Dewi Sant Caerfyrddin” ar gyfer traethawd hir ei flwyddyn olaf a fydd o fudd iddo ef a’r Brifysgol.” 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau