Skip page header and navigation

Mae Dan Ley, un o raddedigion BA Rheolaeth Chwaraeon a Hamdden, yn enghraifft wych o sut y gall addysg a chwaraeon newid bywyd trwy helpu unigolion i oresgyn heriau personol a sicrhau llwyddiant proffesiynol.

Dau ddyn a menyw yn sefyll i'r camera
Dan gyda'i wraig a Sylfaenydd Dallaglio Rugby Works, Lawrence Dallaglio

Gan raddio o gampws Abertawe y Drindod Dewi Sant yn 2012, mae taith Dan wedi bod yn drawsnewidiol.

O oresgyn rhwystrau drwy gydol ei fagwraeth i ennill gradd, mae gwytnwch a natur benderfynol Dan wedi ei arwain i faes hyfforddi a mentora ieuenctid sy’n wynebu eu brwydrau personol eu hunain. Mae’r gwaith hwnnw wedi ennill cydnabyddiaeth iddo yn ddiweddar yng Ngwobrau Sport Gives Back 2024. 

Ac yntau wedi cael diagnosis o ADHD a syndrom Tourette yn ifanc, wynebodd Dan gyfres o rwystrau drwy gydol ei blentyndod a’i ieuenctid, gan gynnwys cael ei ddiarddel o’r ysgol, mynd i drwbl gyda’r gyfraith, cael ei wneud yn ddigartref a’i ddiswyddo o’i waith yn 20 oed.

Er gwaethaf yr anawsterau hyn, daeth tro ar fyd er gwell pan gwnaeth ei fodryb, Katherine Thomas, a fu’n darlithio ar gampws y Brifysgol yn Abertawe, ei annog i astudio am radd, gan gredu mai dyma fyddai llwybr Dan at lwyddiant.

Dyn yn dal pel rygbi

Meddai Dan:

“Heb unrhyw syniad am yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud, roedd fy modryb Kath yn gefnogaeth wych i mi, ac wedi bod drwy gydol fy mywyd. Awgrymodd y syniad o wneud cais i’r brifysgol ac eisteddodd i lawr gyda mi i fynd trwy brosbectws.

Cyn hynny, doeddwn i ddim yn meddwl bod prifysgol yn opsiwn realistig i mi ond gyda’i chymorth hi, fe wnes i setlo ar gwrs a gwneud cais drwy Glirio. Roedd y cwrs yn ffordd o ailddyfeisio fy hun a gadael y gorffennol ar ôl.”

Wrth gofrestru drwy Glirio, dewisodd Dan gwrs Rheolaeth Hamdden i ddechrau nes iddo ailddarganfod ei angerdd am chwaraeon trwy astudio modylau oedd yn gorgyffwrdd â’r rhaglen Rheolaeth Chwaraeon. Arweiniodd hyn iddo newid ei radd, gan ragweld dyfodol lle gallai ddefnyddio chwaraeon ar gyfer newid cadarnhaol.

Cafodd amser Dan yn y Brifysgol ei nodweddu gan heriau ac uchafbwyntiau. Yn drasig, wynebodd golli ei fodryb, ffynhonnell allweddol o gefnogaeth, ond eto cafodd ei ysbrydoli gan ddarlithwyr ymroddedig y gwnaeth eu hangerdd dros chwaraeon sbarduno ei ddiddordeb i ddefnyddio’r maes hwnnw fel modd o gyfoethogi bywydau, gan osod y sylfaen ar gyfer ei yrfa yn y dyfodol.

Gan fyfyrio ar ei brofiad yn y brifysgol, mae Dan yn cydnabod yr effaith ddwys a gafodd ar ei fywyd.

Dau ddyn gyda gwobr

Dywedodd Dan:

“Fe wnaeth mynd i’r brifysgol godi fy ngobeithion a’m dyheadau. Agorodd fy llygaid i wahanol lwybrau gyrfa ac yn y pen draw fe arweiniodd fi at fy rôl bresennol lle rwyf wedi ennill nifer o ddyrchafiadau a chyfrifoldebau ers i mi ddechrau. Ni fyddai yr un ohonynt wedi bod yn bosibl pe na bai’r Brifysgol wedi rhoi cyfle i mi.

“Fe wnaeth y cwrs ailgynnau fy nghariad at chwaraeon, gan fy annog i ddechrau rygbi cyffwrdd sydd wedi bod yn allweddol i’m helpu i sianelu fy egni a’m hemosiynau yn gadarnhaol, ac fe wnaeth fy helpu hefyd gyda fy sgiliau cymdeithasol a oedd wedi gwanhau’n aruthrol cyn mynd.”

Yn 2018, cafodd Dan rôl yn Dallaglio Rugby Works, elusen a sefydlwyd gan yr arwr rygbi Lawrence Dallaglio, sy’n mentora ac yn hyfforddi plant a phobl ifanc sydd wedi’u heithrio o addysg.

Trwy ei rôl fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer canghennau’r elusen ledled Cymru, mae Dan wedi dod o hyd i lwyfan i ddefnyddio ei wybodaeth bersonol, broffesiynol ac academaidd i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ifanc ar yr ymylon. Mae ei brofiadau personol yn ysgogi ei ymroddiad ac yn ei alluogi i gydymdeimlo’n ddwfn â’r rhai y mae’n eu mentora, gan gynnig gobaith ac arweiniad iddynt ar gyfer dyfodol mwy disglair.

I gydnabod ei ymroddiad a’i effaith drawsnewidiol, cyflwynwyd  iddo Wobr Trawsnewid Bywydau: Grymuso Pobl Ifanc wedi’u Heithrio gan Lawrence Dallaglio yng Ngwobrau Sport Gives Back 2024 a ddarlledwyd yn ddiweddar ar ITV. 

Mae ei stori yn ysbrydoliaeth sy’n tynnu sylw at bŵer dyfalbarhad, mentoriaeth, a photensial addysg sy’n newid bywydau.

Wrth iddo barhau i ysbrydoli eraill, mae stori Dan yn profi, gyda natur benderfynol a chefnogaeth, bod unrhyw beth yn bosibl.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon