Skip page header and navigation

Mae Amina Meah yn brentis ar y radd-brentisiaeth ddigidol yn y Drindod Dewi Sant ac yn astudio am radd ran-amser mewn Cyfrifiadura (Systemau Data a Gwybodaeth) ac yn gweithio ar yr un pryd, gan gael profiad amhrisiadwy yn y diwydiant, ac ennill cyflog.

Amina Meah yn sefyll ar oriel yn Adeilad IQ.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn ddarparwr blaenllaw ar gyfer Gradd-brentisiaethau, ac ar hyn o bryd mae’n darparu gradd-brentisiaethau ar gyfer mwy na 100 o gyflogwyr. Rydym wedi sefydlu perthnasoedd cryf â sefydliadau’r sector preifat a chyhoeddus, yn cynnwys BBaChau, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG.

Rydym yn deall yr heriau o ddydd i ddydd i fusnesau ac o ganlyniad, mewn partneriaeth â chyflogwyr creom Raglen o Brentisiaethau dan arweiniad diwydiant, sydd, pan gaiff ei chyfuno â phrofiad ymarferol mewn swydd o ddydd i ddydd, yn cefnogi myfyrwyr i gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd yn uniongyrchol i’r gweithle.

Meddai Amina: “Rwyf bob amser wedi bod â brwdfrydedd am TG ond ar ôl gorffen yr ysgol wnes i byth ddilyn y brwdfrydedd hwnnw. Gweithiais am ychydig o flynyddoedd mewn canolfan hamdden lle cefais lawer o sgiliau gwerthfawr rwyf mor ddiolchgar amdanyn nhw, am fy mod i’n credu heb y sgiliau hyn a’r rheini a ges i yn y brifysgol, fyddwn i ddim ble rydw i heddiw.

“Roeddwn i’n dal i feddwl am y byd digidol, a chefais awydd sydyn i chwilio am radd mewn cyfrifiadura. Des i ar draws y Drindod Dewi Sant a’i gradd-brentisiaethau. Yn awyddus i wybod rhagor, llenwais gerdyn cyswllt, am fy mod yn ansicr ynghylch y broses ac a oeddwn yn gymwys. Mewn ymateb, ces i wybod nad oeddwn yn gymwys ar y pryd, yn bennaf am nad oedd fy rôl yn gysylltiedig â’r diwydiant TG. Fodd bynnag, gwnaethon nhw fy sicrhau y bydden nhw’n fy nghadw i yn y cof ac yn cysylltu â mi petai unrhyw gyfleoedd perthnasol yn codi.

“Er syndod i mi, ychydig o fisoedd wedyn, cysylltodd yr un person o’r Drindod Dewi Sant â mi eto. Y tro hwn, dywedon nhw wrthyf am swydd yn y Brifysgol a fyddai’n caniatáu i mi ymgymryd â gradd-brentisiaeth mewn cyfrifiadura’n rhan-amser, tra byddwn yn gweithio’n amser llawn. Heb oedi dim, achubais ar y cyfle, a bellach, chwe mis yn ddiweddarach, rwy’n gweld fy mod i’n mwynhau’r cwrs a’m gwaith yn fawr iawn.”

Dywedodd Amina ei bod wedi cael ei denu at y cwrs oherwydd byddai’n ei galluogi i astudio gan weithio’n amser llawn ar yr un pryd.

Meddai: “Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio felly pan oeddwn yn chwilio am gwrs roeddwn bob amser yn edrych ar gyrsiau rhan-amser oherwydd roeddwn i’n gwybod y byddai hyn yn fwy addas i mi na chwrs amser llawn. Pan ddes i ar draws y radd-brentisiaeth mewn cyfrifiadura, honno oedd yr union beth roeddwn i’n chwilio amdano. Rydych yn dechrau gyda modwl ar bob llwybr a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych chi ar y llwybr iawn i chi, ond hefyd rhoddodd ddealltwriaeth i mi am lwybrau eraill megis peirianneg meddalwedd a seiberddiogelwch. 

“Ar hyn o bryd rwyf ar y llwybr systemau data a gwybodaeth, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn. Rwy’n gobeithio y byddaf yn datblygu fy ngwybodaeth am wyddor data ac yn cael gwybodaeth werthfawr ym maes gwyddor data.”

Dywedodd Amina fod y cwrs wedi’i helpu’n broffesiynol ac yn bersonol.

“Mae hyn wedi rhoi cymaint o wybodaeth a hyder i mi o fewn f’astudiaethau gan fy mod i wedi dysgu cymaint yn barod mewn cyfnod byr o amser. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio o fewn y Brifysgol mewn dwy adran, gyda’r tîm prentisiaethau a’r tîm adrodd mewn gwasanaethau digidol. Rwy’n mwynhau bod yn y ddwy adran gan fy mod i’n dysgu drwy’r amser yn y swydd.”

Dywedodd Amina ei bod wedi bod yn heriol dychwelyd i addysg ond canmolodd y gefnogaeth a gafodd gan y Brifysgol.

Meddai: “Roedd tipyn o amser wedi bod ers i mi wneud unrhyw fath o waith cwrs. Mae’r Brifysgol wedi bod yn wych. Daeth Emily Hywel o adran y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu i roi sesiwn i ni ar gyfeirnodi a ble i ddod o hyd i adnoddau myfyrwyr megis ffynonellau ar-lein ar gyfer gwybodaeth sydd ei hangen arnom i’n haseiniadau. Ar ôl f’aseiniadau cyntaf gwelais fy mod i’n eu cwblhau nhw fel petai hynny’n ail natur i mi. 

“Mae’r Brifysgol yn gefnogol dros ben ac mae ganddi lawer o adnoddau i fyfyrwyr eu defnyddio. Mae maint y dosbarthiadau’n wych, ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau ar fy nghwrs sydd wedi bod yn fath ychwanegol o gymorth am ein bod ni i gyd yn mynd drwy’r un heriau ac yn gallu helpu ein gilydd.

“Mae’r cwrs wedi rhoi cymaint o wybodaeth werthfawr i mi rwy’n ei defnyddio o ddydd i ddydd yn fy ngwaith. Rwyf wedi ennill hyd yn oed fwy o hyder o’r cwrs hwn am fy mod i’n cael fy nghefnogi gan fy Swyddog Cyswllt Prentisiaeth, Dan, gydol y daith. Fe’m cefnogodd gydol yr wythnosau cyntaf pan oeddwn i’n teimlo’n bryderus ynghylch dechrau rhywbeth newydd gan roi’r anogaeth i mi barhau.

“Unwaith doeddwn i ddim yn hyderus a doedd gen i ddim sgiliau pobl, ond nawr rwy’n rhoi anerchiadau ac yn cwrdd â phobl newydd bob dydd a does dim rhaid i mi feddwl na phoeni am hynny.”

Mae ein gradd-brentisiaethau’n cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, a phrofiadau. Gallwch gymryd gradd-brentisiaeth i uwchsgilio neu ailsgilio os ydych eisoes yn cael eich cyflogi.

Gallwch gael mwy o wybodaeth, a chysylltu â’n tîm prentisiaethau.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau