Buddsoddwch mewn datblygu eich gweithwyr trwy Uwch Brentisiaethau a Gradd-brentisiaethau a arweinir gan y diwydiant, a thrawsnewid eich busnes.
Rydym yn deall yr heriau dyddiol i’ch busnes, ac yn sgil hynny aethom ati i greu Rhaglen Brentisiaeth a arweinir gan y Diwydiant, mewn partneriaeth â chyflogwyr. Bydd y rhaglen hon, o’i chyfuno â phrofiad ymarferol dyddiol yn y gwaith, yn cynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’r wybodaeth a enillir yn uniongyrchol yn y gweithle.
Gallwch ddefnyddio’r prentisiaethau os ydych yn awyddus i wneud y canlynol:
- Llenwi bylchau sgiliau yn eich busnes trwy uwchsgilio neu ailhyfforddi gweithwyr
- Recriwtio gweithwyr talentog sydd â photensial i’ch busnes
- Eu defnyddio i gynllunio olyniaeth sy’n canolbwyntio ar adnabod a meithrin talent i lenwi swyddi arwain a swyddi sy’n hanfodol i’r busnes yn y dyfodol. Yn wyneb prinder sgiliau mae cynllunio olyniaeth wedi dod yn fwy poblogaidd. Yn ystod cyfnodau eithriadol megis pandemig COVID-19 neu drychinebau, mae’n ddoeth ehangu’r cronfeydd hynny o olynwyr a chanolbwyntio ar gynllunio olyniaeth.
- Darparu ysgol ddeniadol o gyfleoedd a dilyniant gyrfa i weithwyr presennol.
I wneud cais am Uwch Brentisiaethau neu Radd-brentisiaethau
- Rhaid i chi fod gweithiwr yn y sector mewn rôl berthnasol i ymuno rhaglen prentisiaeth.
- Cliciwch ar y botwm Cofrestru eich Diddordeb ac yna Darpar Brentis
- Llenwch eich manylion, gan nodi pa raglen y mae gennych ddiddordeb ynddi
- Bydd yr uned prentisiaethau’n gwirio a ydych yn gymwys ac yn rhoi cyngor ynglŷn â’r pwynt mynediad gorau, yn seiliedig ar eich cymwysterau a’ch profiad cyfredol, ac yna’n anfon dolen atoch i’r ffurflen gais.
Ein Gradd-brentisiaethau
Newyddion a Digwyddiadau
Rhai o’r Cyflogwyr Rydym Ni’n Gweithio gyda Nhw












Dilysu ac Achredu






