Skip page header and navigation

Mae myfyrwraig o’r cwrs BA Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael ei dewis i gystadlu yn Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel eleni.

Fflur Davies

Bydd Fflur Davies yn ymuno â phum cystadleuydd arall i berfformio mewn cyngerdd unigryw mewn ymgais i ennill Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel a gynhelir yn Neuadd y Celfyddydau Aberystwyth nos Sul, Mawrth 5ed, a fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C.

Mae’r chwe cystadleuydd fydd yn perfformio nos Sul yn brif enillwyr cystadlaethau dan 25 oed Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dinbych 2022. Pwrpas yr ysgoloriaeth, a sefydlwyd yn ôl yn 1999, yw datblygu a meithrin talent rhai o berfformwyr gorau Cymru. Yn ogystal â derbyn dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr y byd perfformio, a chael eu henw yn gysylltiedig â’r canwr byd-enwog Syr Bryn Terfel, mi fydd yr enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £4000 er mwyn datblygu eu talent i’r dyfodol.

Meddai Fflur:

“Mae hi’n brofiad gwerthfawr i mi gan fod ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel yn ysgoloriaeth adnabyddus iawn i ni fel Cymry, a dwi’n teimlo’n hynod o ffodus o gael y cyfle i cystadlu. Mae cael cyd-gystadlu gyda’r cystadlewyr talentog erill wedi bod yn fraint, a dwi’n teimlo’n ffodus iawn o fod yn rhan o’r chwech.”

Dywedodd byddai cystadlu yn y gystadleuaeth hon o gymorth mawr iddi wrth iddi barhau i dyfu ym myd y theatr, gan obeithio y bydd y profiad yn datblygu ei hyder ar lwyfan wrth berfformio.

Fel cyn-ddisgybl o Ysgol Glanaethwy, mae Cefin a Rhian Roberts wedi dylanwadu’n fawr ar Fflur, a drwyddyn nhw mae wedi llwyddo i dderbyn profiadau bythgofiadwy yn ystod ei chyfnod yno. Ychwanegodd:

“Rwy’n hynod werthfawrogol o’r holl gefnogaeth rwyf wedi derbyn ganddynt, ac maen nhw wedi fy siapio fel person a pherfformiwr dros y blynyddoedd.”

Erbyn hyn mae Fflur hefyd yn cydnabod fod y cwrs BA Perfformio wedi ei chynorthwyo’n fawr i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth hon.

“Mae cael y profiad o berfformio yn gyson wastad yn help i ni fel perfformwyr. Mae’r gwersi ‘rep’ rwyf wedi derbyn gan David Laugharne yn sicr wedi helpu fi fynd ati i ddewis caneuon fwyaf addas i mi ar gyfer fy mherfformiad. Yn ogystal â dosbarthiadau perfformio yn ystod fy mlwyddyn gyntaf.

“Fel perfformiwr sy’n fwy cyfforddus gyda chanu, rwyf wir wedi mwynhau’r elfen ganu o’r cwrs. Mae gweithio gydag Elen Bowman yn y dosbarthiadau actio hefyd wedi bod yn fuddiol i mi, ac rwy’n dechrau darganfod mwy o gariad tuag at actio ar lwyfan erbyn hyn.”

Mae Fflur newydd ddychwelyd o Ohio yn America, lle bu ar daith gyda’i chyd fyfyrwyr i berfformio ym Mhrifysgol Rio Grande.

Fel myfyrwraig, mae Fflur wrth ei bodd yn astudio’r cwrs BA Perfformio. Dywedodd:

“Fel myfyrwyr ‘da ni’n cael cefnogaeth dda iawn, ac mae’r Brifysgol wastad yn gefn gydag unrhyw beth. Rydym ni gyda pherthynas dda gyda’n tiwtoriaid ac mae hyn yn help mawr i ni fel myfyrwyr.”

Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd Eilir Owen Griffiths:

“Rydym mor falch o lwyddiant Fflur yn Eisteddfod yr Urdd llynedd ac yn edrych ymlaen yn arw i weld hi’n perfformio yn yr Ysgoloriaeth. Mae Fflur yn fyfyrwraig gydwybodol a thu hwnt o weithgar ac wrth gwrs yn dalentog dros ben. Rydym i gyd yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y gystadleuaeth.”

Wrth i Fflur baratoi ar gyfer ddydd Sul, ychwanegodd:

“Rwy’n ddiolchgar o’r holl borfiadau rwyf wedi dderbyn fel perfformiwr ar gefnogaeth rwyf wedi gael gan bawb yn ystod y cyfnod paratoi ar gyfer yr ysgoloriaeth.”

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau:

“Mae’r Urdd yn hynod o gyffrous i groesawu nôl Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel a chael cynnig y profiad gwerthfawr yma i chwe cystadleuydd ifanc ar ddechrau eu gyfra.  Mae’r cystadleuwyr i gyd wedi gweithio’n galed wrth baratoi, ac eisoes wedi elwa o’r profiad drwy gymryd rhan mewn gweithdai meistr gydag arbenigwyr profiadol o fewn eu maes.

“Ar ran yr Urdd dymunaf y gorau i bawb sy’n cystadlu – yn bwysicach na dim, mwyhewch y profiad!”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau