Skip page header and navigation

Mewn seremoni arbennig, daeth grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd at ei gilydd yn Neuadd Vivian, Canolfan Dylan Thomas i dderbyn tystysgrifau a ddyfarnwyd i gydnabod eu hymroddiad rhyfeddol i wirfoddoli yn Athrofa Confucius y Brifysgol.

Group of international students from China at a special ceremony holding their volunteering certificates

Mae’r myfyrwyr yn rhan o garfan llawer mwy o ryw 40 o wirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser yn rheolaidd ar benwythnosau i weithredu fel cynorthwywyr addysgu yn Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius, ynghyd ag eraill a gefnogodd weithgareddau diwylliannol Gŵyl y Gwanwyn Tsieineaidd yn ddiweddar ar draws campysau PCYDDS.

Pan ofynnwyd i’r myfyrwyr pam eu bod mor barod i wirfoddoli, eu hateb oedd bod y cyfle i ymwneud â’r gymuned Gymreig leol yn brofiad buddiol iddynt yn bersonol, gan roi profiadau newydd iddynt y tu allan i’w hastudiaethau, tra hefyd yn rhoi boddhad mawr iddynt o wybod eu bod yn gallu rhannu eu diwylliant Tsieineaidd. 

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan Shang Wenxuan, un o’r myfyrwyr fu’n gwirfoddoli.  Dywedodd “Mae fy amser yn gwirfoddoli yn Athrofa Confucius wedi bod yn bleserus a hapus iawn!Trwy fod yn gynorthwyydd addysgu cefais lawer o brofiadau defnyddiol, ac roedd yr hyfforddiant a roddwyd gan Athrofa Confucius yn ddefnyddiol iawn. Roedd digwyddiad y Flwyddyn Newydd Leuadol ym Mlwyddyn y Ddraig yn ystyrlon iawn, a gwnes i lawer o ffrindiau.  Rwy’n ddiolchgar i Athrofa Confucius am roi’r cyfle hwn i mi i brofi cynifer o weithgareddau diddorol.”

Meddai Lisa Liu, y Cyd-Gyfarwyddwr Tsieineaidd: “Rwy’n falch o weld bod y tîm gwirfoddoli, sy’n cynnwys myfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd yn bennaf, nid yn unig yn cyfrannu’n anhunanol at ymdrechion addysgu Tsieinëeg Ysgol Tsieineaidd Athrofa Confucius, ond hefyd yn datblygu i fod yn asgwrn cefn digwyddiadau diwylliannol mawr yr Athrofa a gweithgareddau diwylliannol dyddiol.

Yn ogystal ychwanegol Cindy Chen, tiwtor Tsieinëeg Athrofa Confucius: “Fel pennaeth yr Ysgol Tsieineaidd, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr frwdfrydedd ac ymroddiad y myfyrwyr sy’n gwirfoddoli. Yn y digwyddiad hwn, cyflwynwyd tystysgrifau i wirfoddolwyr sydd wedi darparu dros 60 a 100 o oriau o gymorth addysgu yn yr Ysgol Tsieineaidd. Clywsom hefyd am eu profiadau a’u teimladau fel gwirfoddolwyr yn Athrofa Confucius, a oedd yn deimladwy iawn ac yn ysbrydoliaeth.”

Yn dilyn y seremoni wobrwyo, bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn hyfforddiant diogelu, ac yna cawsant gyfle i ymlacio, mwynhau rhai byrbrydau gyda’i gilydd a chael hwyl yn chwarae gemau fel gwyddbwyll Tsieineaidd.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli yn Athrofa Confucius cysylltwch â Lisa Liu drwy e-bostio yu.liu@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon