Skip page header and navigation

Cyn-fyfyriwr ffasiwn yn mentro i faes newydd ac yn cychwyn sgyrsiau am gynaliadwyedd.

Agi Olah.

Treuliodd Agnes (Agi) Olah flynyddoedd yn gweithio yn y diwydiant ffasiwn ar ôl cwblhau ei gradd Baglor gyntaf, mewn rolau a oedd yn amrywio o ddylunio ffasiwn a thorri patrymau i weithio ar haute couture ar gyfer gynau a gwisgoedd priodas a’r diwydiant ffilm.

Ond pan gafodd y diwydiant ei ysgwyd gan bandemig y covid, ac oherwydd ei bod yn teimlo’n gynyddol anniddig ynglŷn â materion cynaliadwyedd yn gysylltiedig â ffasiwn cyflym, penderfynodd Agi ei bod hi’n bryd newid.

“Rydw i wedi bod yn berson creadigol erioed ac roeddwn i eisiau aros mewn diwydiant creadigol,” meddai Agi. “Ond cefais fy hun mewn rhigol ar ôl i Covid-19 amharu ar y diwydiant ffasiwn, ac roeddwn i’n teimlo bod rhannau ohono’n mynd i gyfeiriad gwael.

“Doeddwn i ddim eisiau bod yn rhan ohono mwyach, ac roedd hynny’n cael effaith ar fy nghreadigrwydd a’m cymhelliant. Felly dechreuais gwrs newydd ffres i gael i mi feddwl a theimlo’n greadigol eto, ac weithiau dyna’r cyfan sydd ei angen. Rhywbeth i roi hwb i chi eto.”

Y cwrs a ddewisodd oedd BA Dylunio Graffig yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant – cwrs a ddaeth yn 1af yng Nghymru ac yn y 10 uchaf yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y y Guardian 2023.

“O’r holl gyrsiau y gallwn i fod wedi’u hastudio yn y brifysgol hon, roeddwn i’n teimlo mai Dylunio Graffig oedd y mwyaf hollgynhwysol, a allai agor y drysau i lawer o ddiwydiannau i adeiladu gyrfa newydd i mi fy hun,” meddai.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, gwelwyd Agi yn ffynnu yn amgylchedd addysgol y Drindod Dewi Sant. Er gwaethaf pryderon cychwynnol y byddai’n ei chael hi’n anodd dychwelyd i’r brifysgol fel myfyriwr aeddfed, enillodd ei gwaith a’i phrosiectau nifer o wobrau mawreddog, gan gynnwys Gwobr Creative Conscience yn 2022 sy’n cydnabod gwaith sy’n cael effaith gadarnhaol ar y gymdeithas a’r amgylchedd.

Yng ngwaith Agi, mae’n hawdd gweld y pwyslais y mae’n ei roi ar gynaliadwyedd, ac arweiniodd yr angerdd hwn, ynghyd â’i gwybodaeth am ffasiwn, at roi cynnig ar – ac ennill – cystadleuaeth fyd-eang World of WearableArt yn 2022.

Lluniwyd dyluniad celf gwisgadwy Agi o ddeunyddiau a oedd ar eu ffordd i safle tirlenwi, ac mewn sioe fawreddog yn Wellington, Seland Newydd cipiodd y Wobr Arloesedd Myfyrwyr am ei gwaith, gan rannu llwyfan â Phrif Weinidog Seland Newydd ar y pryd, a oedd yn fodel gwadd yn y digwyddiad.

Ond nid dyna ddiwedd ar lwyddiant Agi.

Agi Olah wrth ymyl model sy’n gwisgo’i dyluniad buddugol – Beneath - ar gyfer cystadleuaeth Wearable Art.

“Uchafbwynt mwyaf fy mlwyddyn olaf oedd gweithio ar ymgyrch ‘Prosiect Sero Abertawe‘,  sy’n cefnogi busnesau, trigolion a sefydliadau wrth iddynt helpu’r ddinas i gyflawni allyriadau carbon Sero Net erbyn 2050.

“Gwnaeth fy nghysyniad dylunio ennill cystadleuaeth i gael ei ddefnyddio fel hunaniaeth brand swyddogol yr ymgyrch bwysig hon, ac rwy’n falch iawn o weithio gyda Chyngor Abertawe ar hyn i’r dyfodol.

“Gan ddefnyddio sgiliau a ddysgais yn y Drindod Dewi Sant, creais ddyluniad a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli ac yn ysgogi pobl yn Abertawe i adeiladu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.

“Fel dylunydd, mae gwybod y bydd fy nghysyniadau yn rhan o ymgyrch a fydd yn rhedeg am ddegawdau i ddod yn rhoi boddhad mawr.”

Graddiodd Agi heddiw, Gorffennaf 12fed, ar ôl arddangos ei phortffolio yn yr arddangosfa flynyddol i raddedigion yn Llundain, New Designers yr wythnos diwethaf, sy’n cyflwyno egin dalent dylunio mwyaf arloesol y DU i weithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chwilotwyr am dalent.

Mae’n priodoli rhan o’i llwyddiant i’r adran Dylunio Graffig yn y Drindod Dewi Sant, lle bu’n archwilio cymaint ag y gallai o’r hyn oedd gan y Brifysgol i’w gynnig: “Roedd yna gyfleuster gweithdy anhygoel lle cefais gyfle i roi cynnig ar bob dull argraffu traddodiadol, fel argraffwaith, printio bloc, sgrin-brintio a phrintio Riso, i enwi ond ychydig!

“Ar ben hynny, nid yn unig y gwnaeth fy narlithwyr fy annog, ond rhoddon nhw’r holl help i mi yr oeddwn i ei angen, a chyfleoedd i archwilio gweithdai adrannau eraill i ehangu fy sgiliau ac arbrofi, gan gynnwys Patrymau Arwyneb a Cherameg.

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i eraill sydd am archwilio ac arbrofi gyda dulliau dylunio traddodiadol ac anhraddodiadol, ond hefyd oherwydd bod ei strwythur, sy’n canolbwyntio’n drwm ar ddiwydiant, wedi fy helpu i ennill sgiliau gwerthfawr y gallaf eu defnyddio i adeiladu fy ngyrfa ddylunio yn y dyfodol .”

Bydd Agi yn dychwelyd i’r Drindod Dewi Sant ym mis Medi i ddechrau ar radd Meistr mewn Dylunio Graffig. 

Agi Olah yn gwenu wrth iddi ddal gliniadur i fyny gyda Phrosiect Sero Abertawe ar y sgrin; mae hi’n sefyll rhwng cynrychiolwyr Cyngor Abertawe a’r Drindod Dewi Sant.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau