Skip page header and navigation

Gwnaeth tîm o raglen Chwaraeon Moduro Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gwblhau 94ydd Treial Exeter ar Ionawr 6ed gan ddefnyddio tanwydd gwbl gynaliadwy, Coryton Sustain 100, yng nghar Morgan Plus Four  Brifysgol.

Mae Tim Tudor yn sefyll gan bwyso ychydig ar ddrws Morgan Plus Four gwyrdd golau.

Dechreuodd y digwyddiad am 3.45am yn Amgueddfa Haynes yn Sparkford, gyda llwybr o 165 milltir, a gorffennodd yn Kingsteignton, Dyfnaint, 12 awr a nifer o brofion arbennig ac adrannau’n ddiweddarach.

Mae PCYDDS yn cynnal nifer o brosiectau israddedig mewn cydweithrediad â Chwmni Modur Morgan a gyfrannodd y car i’r brifysgol i gefnogi prosiectau myfyrwyr. Hwn yw’r Morgan cyntaf gyda phlatfform alwminiwm CX-Generation i gystadlu mewn treial pellter hir MCC, lle mae gan geir chwaraeon Morgan hanes maith, gan gystadlu am y tro cyntaf gyda thîm gwaith yn 1910.

Rhedodd y car y treial llawn ar danwydd 100% cynaliadwy a ddarparwyd gan Coryton na fu’n rhaid addasu pwerwaith B48 BMW y cerbyd ar ei gyfer, ac fe redodd yn ddiwall.

Meddai Tim Tudor, Uwch Ddarlithydd a chyfarwyddwr y rhaglen chwaraeon moduro, a gystadlodd yn y car: “Roedd yn wych cael y cyfle i arddangos Morgan Plus Four a defnyddio tanwydd cynaliadwy yn ystod y digwyddiad chwaraeon moduro hanesyddol hwn, un lle mae gan Morgan hanes maith.

“Roedd y car yn gyfforddus, a gwnaethom orffen heb unrhyw broblemau, er ni chawsom wobr am i ni fethu adran.”

Y flwyddyn academaidd hon mae rhaglen Radd BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu 25 mlynedd. Roedd hi’n arloesol ar y pryd, a’r gyntaf o’i bath yn y byd.

Drwy weledigaeth Roger Dowden, ac arweiniad gan Gymdeithas y Diwydiant Chwaraeon Moduro, mae’r cwrs wedi gwneud graddedigion yn asedau gwerthfawr ym myd cystadleuol peirianneg chwaraeon moduro a pheirianneg fodurol, gyda llawer yn gweithio’n beirianwyr rasys, aerodynamegyddion, dadansoddwyr data neu mewn swyddi rheoli ar gyfer timau rasio.

Mae eraill wedi dod o hyd i gyfleoedd mewn cwmnïau modurol, gan arbenigo mewn datblygu cerbydau perfformiad uchel.

Mae cyn-fyfyrwyr yn gweithio mewn cwmnïau modurol o’r radd flaenaf fel Morgan Motor Company, McLaren, Gordon Murray Automotive, Arc, Bentley, Ford a Toyota Gazoo Racing.

Tim Tudor wrth olwyn y Morgan ar lôn wledig.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon