Skip page header and navigation

Mae heddiw’n nodi dechrau Wythnos Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

""

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar gampysau Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe i hyrwyddo cynaliadwyedd yn ei ystyr ehangaf. Bydd Ffeiriau Cynaliadwyedd ar bob campws yn cynnwys cyfle i flasu amrywiaeth o fwydydd gan gynhyrchwyr lleol, cymryd rhan mewn gweithdai gan gynnwys gwneud bomiau hadau blodau gwyllt, ymuno â thîm Bioamrywiaeth y Brifysgol ar deithiau tywys o amgylch y campysau yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau iechyd a ffitrwydd.

Meddai Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd y Brifysgol:

“Mae Wythnos Gynaliadwyedd yn gyfle gwych i godi proffil yr holl rydym yn ei wneud yn y Brifysgol i hyrwyddo arfer cynaliadwy ac i gael ein myfyrwyr a’n staff i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ymarferol a hwyliog. Mae’r Mae heddiw’n nodi dechrau Wythnos Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae’r igwyddiadau wedi’u cynllunio i amlygu sut y gall pawb gyfrannu a chymryd rhan yn ein mentrau – o fod yn ystyriol o’r adnoddau yr ydym i gyd yn eu defnyddio i gefnogi busnesau lleol a dysgu am fioamrywiaeth ein campysau.

“Rydyn ni wedi ymuno â chyflenwyr lleol i hyrwyddo eu cynnyrch a’u gwasanaethau ac rydw i wrth fy modd gyda’r ymateb rydyn ni wedi’i gael. Mae timau ar draws y Brifysgol wedi cydweithio i helpu i wneud hon yn wythnos wych ac rwyf am ddiolch yn arbennig i Undeb y Myfyrwyr, y Gwasanaeth Llesiant a staff yr adran Weithrediadau yn ogystal â’n timau academaidd. Rwy’n falch iawn bod y Brifysgol eisoes yn gyntaf yng Nghymru am Wastraff ac Ailgylchu ac am ddefnyddio ffynonellau ynni adnewyddadwy yng Nghynghrair Werdd People and Planet (2022). Er mwyn i’r Brifysgol arwain y sector, mae angen i bob adran, sefydliad, tenant, cyflenwr a chwsmer, yn ogystal â’r corff myfyrwyr, gymryd cyfrifoldeb am gynaliadwyedd, gan y bydd hyn yn galluogi newid ystyrlon. Wythnos cynaliadwyedd yw dechrau’r sgyrsiau a byddai’r tîm wrth eu bodd yn clywed gan unrhyw un a hoffai gymryd rhan”.

Mae’r Ffeiriau Cynaliadwyedd fel a ganlyn:

  • Caerfyrddin: 16 Hydref, 10yb – 4yp, Undeb y Myfyrwyr
  • Llanbedr Pont Steffan, 18 Hydref, 12 canol dydd – 5yp, Neuadd y Celfyddydau
  • Abertawe, 19 Hydref, 11yb – 5yp, adeilad IQ

Yng Nghaerfyrddin a Llambed mae digon o gyfleoedd i ymuno â dosbarthiadau ffitrwydd yng nghanolfan chwaraeon y Brifysgol. Tra bydd myfyrwyr Iechyd, Maeth a Ffordd o Fyw Caerfyrddin yn siarad am fwyd cynaliadwy ac iach.

Yn Llambed bydd amrywiaeth o weithdai gan gynnwys sut i wneud eich kimchi a sauerkraut eich hun yn ogystal â sut i egino hadau. Bydd yr arbenigwr gwenyn, Selwyn Runnett, yn cyflwyno byd rhyfeddol y wenynen fêl Gymreig.

Yn ystod yr wythnos, bydd cyn-fyfyriwr PCYDDS ac Intern INSPIRE, Debby Mercher, yn cynnal arddangosfa ryngweithiol wythnos o hyd yn Y Fforwm, Abertawe, i archwilio gwaith gwlân ac am 4pm ddydd Iau bydd yn cynnal gweithdy Gwlân, Cynaliadwyedd a Ffeltio.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: sustainability@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau