Skip page header and navigation

Mae Canolfan Peniarth, un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol Cymraeg a dwyieithiog yng Nghymru sy’n rhan o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi creu adnoddau arloesol i ddysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ysgolion cynradd. 

Dewch i Deithio logo

Dyma’r pecyn cyntaf o’i fath i gynorthwyo ysgolion cynradd i gyflwyno iaith dramor trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r pecyn yn seiliedig ar lyfr ‘Patagonia’ o’r gyfres boblogaidd ‘Dewch i Deithio’. Crëwyd y gyfres ‘Dewch i Deithio’ yn wreiddiol er mwyn cyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd ac ardaloedd i blant mewn modd deniadol, hudol a diddorol. 

Mae’r adnodd yn ymateb i ofynion Cwricwlwm i Gymru i gyflwyno ieithoedd tramor mewn ysgolion cynradd. Yn fuan iawn sylweddolwyd bod yna ddigon o ddarpariaeth ar gael drwy gyfrwng y Saesneg, ond prin iawn oedd ar gael i gynorthwyo’r sector cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn. 

Mae’r pecyn sy’n cynnwys hyfforddiant ac adnoddau digidol, wedi ei greu’n benodol i alluogi ymarferwyr sydd ddim yn arbenigo mewn dysgu iaith dramor i gyflwyno Sbaeneg Patagonia yn hyderus i ddysgwyr y sector cynradd cyfrwng Cymraeg.

Mae’r pecyn yn cynnwys sesiwn hyfforddiant cychwynnol, deunyddiau cyflawn ar gyfer 7 uned o waith, a sgript ar gyfer perfformiad Sbaeneg y gallai’r plant ei berfformio ar ddiwedd yr unedau. Yn yr unedau, bydd y plant yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o batrymau Sbaeneg syml gan Min a Mei - cymeriadau’r gyfres boblogaidd ‘Dewch i Deithio’. A thrwy gyfrwng deunydd aml-gyfrwng amrywiol a deniadol, bydd hefyd yn cyflwyno’r disgyblion i gyfoedion ym mhen draw’r byd yn Ysgol y Cwm, yr Andes a’u diwylliant cyfoethog. 

a picture of Dewch i deithio's resource

Yn ddiweddar, mae ysgolion Llanddarog, Caer Elen, Pontyberem a Gellionnen wedi bod yn treialu’r pecynnau, ac yn cydnabod gwerth yr adnodd.

Meddai Katie Strick, athrawes o Ysgol Llanddarog:

“Mae’n adnodd hwylus ac ymarferol sy’n helpu addysgu Sbaeneg Patagonia i blant oed cynradd o bob gallu. Bu’r plant wrth eu bodd yn gweld y cymeriadau adnabyddus, Min a Mei, ac yn llawn bwrlwm wrth glywed a dysgu’r caneuon. Adnodd gwych sy’n rhoi cyfle i blant ddysgu iaith ryngwladol a deall gwerth gallu defnyddio gwahanol ieithoedd.”

Ychwanegodd Ceris Sauro, athrawes o Ysgol Pontyberem: 

“Mae’n adnodd plentyn-ganolog, sy’n ennyn diddordeb plant tuag at ddysgu iaith newydd mewn ffordd hwylus a rhyngweithiol. 

“Gyda’r cwricwlwm newydd yng Nghymru, mae’r adnodd yn dda wrth ddatblygu cydnabyddiaeth y plant o’r cysylltiad rhwng gwahanol ieithoedd.  Mae’n estyn dealltwriaeth y plant o ddefnydd y Gymraeg mewn gwahanol wledydd. Gall dysgu Sbaeneg Patagonaidd fod o fudd i’r plant yn enwedig wrth glywed a gweld y gwahanol ffyrdd o ynganu geiriau, sydd hefyd yn debyg yn yr iaith Gymraeg.  Mae hyn yn annog trafodaethau pwysig o fewn y dosbarth a datblygu’r dealltwriaeth o’r hyn sy’n debyg / wahanol rhwng gwahanol ieithoedd.”

Meddai Carys Davies o Ysgol Caer Elen:

“Fe wnes i dreialu’r pecyn gyda fy nosbarth blwyddyn 6 ac aeth e lawr yn dda iawn gyda’r disgyblion!  Roedden nhw o hyd yn edrych ymlaen at ein sesiynau, yn cyfarwyddo gyda’r ymadroddion a’r geirfa’n gyflym ac yn medru eu defnyddio’n hyderus. Roedd yn brofiad da i fedru hyrwyddo’r cysylltiad rhwng ieithoedd ac yn agor trafodaethau gwerthfawr gyda’r dosbarth.”

Eluned Grandis, UWTSD lecturer reading a story to Llanddarog School Pupils

Dywedodd Eluned Grandis, Darlithydd y Gymraeg o Ganolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol, ac awdures y pecyn adnoddau:

“Rydw i am i blant fwynhau dysgu iaith arall. Bydd gwneud hyn yn gwella eu dealltwriaeth o ramadeg a’u gallu i greu cysylltiadau rhwng geirfa a strwythur ieithoedd gwahanol.  Bydd hefyd, gobeithio, yn tanio’u brwdfrydedd mewn ieithoedd ac yn agor y drws i ddiwylliannau pobl eraill.” 

“Mae plant yn dysgu drwy glywed a gweld a dydyn nhw ddim yn mynd allan o’u ffordd i wneud hyn, mae’n ffordd naturiol o ddysgu. Dyw plentyn bach ddim yn mynd i allu rhedeg berf ‘bod’ i chi a does dim disgwyl nac eisiau, mae hyn yn cael ei adeiladu ychydig ar y tro mewn cyd-destun a chydag amser.  Gyda’r ailadrodd a’r ailgylchu a welir yn y cwrs hwn, bydd y patrymau yn cael eu deall a’u defnyddio, ac yn bwysicach fyth, byddant yn aros yn y cof tymor hir.” 

Am fwy o fanylion am y pecyn cysylltwch â post@peniarth.cymru.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau