Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cynnal Ffair Yrfaoedd ar gampws Caerfyrddin ddydd Mawrth, 24 Ionawr, lle bydd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr yn cael cyfle i gwrdd â chyflogwyr posibl a chlywed mwy am y cyfleoedd cyflogaeth sydd ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.

Campws Caerfyrddin.

Wedi’i drefnu gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, bydd ystod eang o gyflogwyr, sefydliadau a darparwyr cyfleoedd gwirfoddoli yn bresennol gan gynnwys cynghorau lleol, asiantaethau addysgu, y GIG, Admiral a llawer mwy.

Bydd Ymgynghorwyr Gyrfa o’r Brifysgol hefyd wrth law i gynnig cymorth. Mae’r tîm gyrfaoedd yn darparu cyngor ac arweiniad gyrfa un i un i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, cymorth gyda CV, ffurflenni cais, paratoi ar gyfer cyfweliad a chyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith.

Dywedodd Jane Bellis, Cynghorydd Gyrfaoedd Gweithredol: “Rydym yn hapus iawn i gynnal digwyddiad Gyrfaoedd mewn person ar gampws Caerfyrddin gyda chymaint o gyflogwyr a sefydliadau gwirfoddol ar ôl seibiant hir oherwydd y pandemig. Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o drefnu, yn enwedig y staff Gyrfaoedd a’r cysylltiadau academaidd sydd wedi cefnogi’r digwyddiad. Rydym yn annog pob myfyriwr a chyn-fyfyrwyr i wneud y gorau o’r cyfle i gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb a chael gwybod am yr hyn y gallwn ei gynnig fel gwasanaeth.”

Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd yn Y Drindod Dewi Sant yn falch o dynnu sylw at y ffaith eu bod yn cynnig gwasanaeth i gyn-fyfyrwyr waeth beth fo’u blwyddyn raddio a’u bod ar gael i raddedigion diweddar, ac i’r rhai hynny a raddiodd flynyddoedd lawer yn ôl ac sy’n edrych am newid gyrfa.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin (SA31 3EP).

Os hoffai unrhyw un gael unrhyw gefnogaeth i baratoi ar gyfer y ffair, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd drwy gyrfaoedd@pcydds.ac.uk

Bydd cludiant o gampysau eraill hefyd ar gael. Eto, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@pcydds.ac.uk i archebu eich lle.

Dysgwch fwy am sut y gall Gwasanaeth Gyrfaoedd yn y brifysgol helpu cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr gyda phob agwedd o ddatblygu eich gyrfa: Gwasanaeth Gyrfaoedd | University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk)


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  arwel.lloyd@pcydds.ac.uk 
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau