Skip page header and navigation

Yma i'ch helpu chi i wireddu gyrfa

Ydych chi’n barod i fynd amdani er mwyn ceisio cyrraedd eich nod? P’un ai a ydych wedi gosod eich bryd ar astudiaeth bellach, gyrfa lwyddiannus neu sefydlu eich busnes eich hun hyd yn oed, byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddilyn eich breuddwydion.​ 

Ac os nad ydych chi’n siŵr beth rydych am ei wneud eto, bydd ein Cynghorwyr Gyrfa profiadol a chyfeillgar yn rhoi’r cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch i ddod o hyd i lwybr sy’n addas i chi. 

Trwy apwyntiadau un-i-un, neu sesiynau galw heibio, cewch gyfle i nodi eich cryfderau naturiol a’ch sgiliau, dysgu mwy am chwilio am swydd yn effeithiol, dysgu sut i ysgrifennu CVs effeithiol, gwella eich sgiliau cyfweliad a gwneud cais am swyddi i raddedigion.​ Byddwn hefyd yn eich helpu gyda datganiadau personol a cheisiadau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig. 

Yn ogystal â’n Cynghorwyr Gyrfa, bydd gennych fynediad i MyCareer, platfform gyrfaoedd ar-lein y Brifysgol, sydd ar gael i chi mewn partneriaeth ag Abintegro. Gydag offer arbenigol fel bwrdd swyddi, cynllunydd gyrfa, gwiriwr CV360 awtomataidd, Cyfweliad 360 a mwy, gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich dyfodol ar eich telerau eich hun. 

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Byddwn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i brofiad gwaith, lleoliadau gwaith â thâl neu swydd ran-amser - felly byddwch chi’n graddio gyda’r sgiliau a’r hyder i greu’r dyfodol rydych chi wedi breuddwydio amdano erioed. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn trefnu gweminarau i gyflogwyr a ffeiriau gyrfaoedd ar bob campws trwy gydol y flwyddyn academaidd.

Magu Profiad

Yn dibynnu ar eich cwrs, byddwch hefyd yn cael y cyfle i ennill cymwysterau yn y diwydiant, ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau yn ystod eich cwrs gradd.

Os ydych chi’n astudio gradd mewn peirianneg neu radd fodurol, er enghraifft, fe allech chi fod yn treulio blwyddyn ar leoliad yn y diwydiant modurol gyda chwmnïau fel Aston Martin, Jaguar neu Rolls Royce. 

Ydych chi’n astudio’r gyfraith, plismona neu droseddeg? Mae ein cyrsiau yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn disgyblaeth academaidd plentyndod, ieuenctid ac addysg? Byddwn yn cynnig lleoliadau gwaith i chi mewn amrywiaeth o leoliadau yn ystod eich cwrs gradd.

Ydych chi’n chwilio am radd mewn lletygarwch, twristiaeth neu reoli gwestai rhyngwladol? Cewch y profiad sydd ei angen arnoch gyda lleoliadau yng ngwestai’r Marriott.

Efallai eich bod chi eisiau gwella eich sgiliau coginio? Wrth astudio Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol, fe allech chi gael lleoliad gwaith gyda bwytai Marco Pierre White. Ac os ydych chi’n ystyried dyfodol yn y diwydiannau creadigol, mae gennym gysylltiadau â Tinopolis, H&M, M&S a Hallmark.

Prosiectau sy’n seiliedig ar waith

Lle bo’n berthnasol, byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau byw, seiliedig ar waith gyda chwmnïau lleol a sefydliadau cenedlaethol yn ystod eich cwrs gradd.  Mireiniwch eich sgiliau byd go iawn, dechreuwch greu rhwydwaith proffesiynol a graddio yn barod i wneud argraff ar gyflogwyr. 

Adnoddau Gyrfa sydd ar gael

Cogydd a staff cegin mewn trafodaeth

Y Prosiect Profiad Gwaith – prosiect cyflogadwyedd

Dyma brosiect sy’n cefnogi myfyrwyr i fagu hyder a pharodrwydd gyrfaol gyda’r opsiwn o ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae cyllid ar gael i gefnogi myfyrwyr gyda chostau teithio a gofal plant.

Cysylltwch â’r gwasanaeth gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth gan nodi ‘Y Prosiect Profiad Gwaith’ yn llinell destun yr e-bost. 

Ap cymorth myfyrwyr ar ffôn

MyCareer

Mae gan fyfyrwyr PCYDDS fynediad llawn 24/7 i blatfform Gyrfaoedd blaenllaw’r brifysgol. Trwy’r platfform hwn mae gennych fynediad i wybodaeth am yrfaoedd, hunanasesu, cynlluniwr gyrfa, gwiriwr CV360 a LLAWER mwy. 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Grŵp o fyfyrwyr yn cofleidio wrth raddio

Cefnogaeth i raddedigion

Rydym yn cefnogi graddedigion am hyd at 3 blynedd ar ôl graddio. Fel myfyriwr graddedig o’r Prifysgol y Drindod Drindod Dewi Sant mae gennych hefyd fynediad i’r platfform gyrfaoedd am 3 blynedd. Anfonwch e-bost i wneud ymholiad.