Skip page header and navigation

Mae Coleg Celf Abertawe PCYDDS ar flaen y gad ym maes addysg celf a dylunio trwy gofleidio potensial trawsnewidiol deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau trochol. Mae’r rhaglenni MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn dechrau taith gyffrous i baratoi myfyrwyr ar gyfer tirlun creadigol a yrrir gan AI.

Llun du a gwyn ar lefel y ddaear o boulevard ym Mharis gyda’r cyfansoddiad yn pwysleisio cysgodion y coed a golau haul llachar y gaeaf.

Gyda’r teitl “Maniffesto Meta-amhariad: Cofleidio Effaith Drawsnewidiol AI  a thechnoleg drochol mewn ymarferion Celf a Dylunio” mae’r maniffesto hwn yn amlinellu 8 egwyddor graidd sy’n tanategu ymrwymiad y rhaglenni i integreiddio AI yn eu cwricwla:

  1. Cofleidio Creadigrwydd Hybrid: Adnabod potensial AI i ailddiffinio creadigrwydd, gan feithrin synthesis o fynegiant artistig dynol ac a gynhyrchir gan AI.
     
  2. Meithrin Llythrennedd AI Moesol: Meithrin trafodaethau ar oblygiadau moesegol AI mewn addysg celf a dylunio, gan bwysleisio defnydd cyfrifol o dechnoleg a’i heffaith gymdeithasol.
     
  3. Herio Addysgeg Draddodiadol: Eirioli ar gyfer newid sylfaenol mewn dulliau addysgu, ffocysu ar gydweithredu rhyngddisgyblaethol, meddwl cyfrifiadurol, a llythrennedd AI.
     
  4. Ailddiffinio Hunaniaethau Proffesiynol: Grymuso myfyrwyr i lywio rôl drawsnewidiol AI wrth ail siapio hunaniaethau proffesiynol o fewn y diwydiannau creadigol.
     
  5. Ymgorffori Esblygiad Diwylliannol: Cofleidio potensial AI i yrru newidiadau diwylliannol ac esthetig, meithrin dulliau artistig a mynegiannau diwylliannol newydd.
     
  6. Cofleidio Esblygiad Technolegol**: Adnabod AI fel catalydd ar gyfer meta-amhariad, ail siapio paradeimau traddodiadol ac arferion mewn addysg greadigol.
     
  7. Grymuso Setiau Sgiliau Hybrid: Rhoi i fyfyrwyr y setiau sgiliau hybrid sy’n cyfuno synwyrusrwydd artistig gyda rhuglder technolegol.
     
  8. Ymgorffori Arweinyddiaeth Meta-amhariad: Hyrwyddo arweinyddiaeth flaengar sy’n dathlu arloesi, ymholi moesegol, ac ailddiffinio paradeimau creadigol yn ddeinamig.

Mae Timi Isaac O’Neill, y rheolwr rhaglen, yn rhagweld dyfodol lle bydd graddedigion y rhaglenni MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn barod i fod yn arweinwyr yn y diwydiannau creadigol, yn fedrus wrth harneisio potensial AI gan gynnal cyfrifoldeb moesegol.

Wrth siarad am y fenter hon, meddai Timi O’Neill: “Mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i rymuso myfyrwyr gyda’r sgiliau, gwybodaeth, a sylfaen moesegol nid yn unig i gofleidio AI a thechnolegau trochol, ond hefyd i siapio ei rôl yn nyfodol celf a dylunio.”

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Interim WISA: “Mae’n hanfodol i ni gwestiynu sut gall AI a thechnoleg drochol herio’n bositif ein syniadau sefydledig o gelf, dylunio a chyfryngau i feithrin ymateb academaidd integredig. Felly, mae’n bleser gen i fod Timi O’Neill, a’r myfyrwyr MA Celf a Dylunio a’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio yn cofleidio potensial trawsnewidiol a chyfleoedd trochol y technolegau hyn i ddatblygu cwricwla ar gyfer y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon