Skip page header and navigation

Mae Alice Lovell-Young a raddiodd o’r cwrs MA Gwareiddiad Clasurol o gampws Llambed ym Mrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2017 bellach yn gweithio ar gampws y Brifysgol yn Llundain ac yn cael cyfle i weithio ochr yn ochr â chyn-ddarlithwyr y mae’n eu canmol.

Alice Lovell-Young yn sefyll gan wenu wrth ochr Dr Jeremy Smith
Yn y llun: Alice gyda Dr Jeremey Smith, un o’i chyn-ddarlithwyr a chwrddod ar hap ar gampws Llundain y Drindod Dewi Sant.

Daeth Alice, sy’n wreiddiol o Lundain, i gampws y Drindod Dewi Sant yn Llambed i ddilyn ei hangerdd am hanes a mytholeg glasurol.

Meddai Alice:

“Yn wreiddiol roeddwn i eisiau astudio Seicoleg ar ôl fy Lefel A, ond yna penderfynais ddilyn fy nghalon, a thrwy’r broses Glirio, fe ddarganfyddais Llambed a oedd yn canolbwyntio ar y dyniaethau a’r clasuron.

“Ar ôl sgwrs gydag academydd dros y ffôn, roeddwn i’n gwybod fy mod i wedi dod o hyd i’r radd a’r lle i mi, felly symudais fy mywyd dinesig i gefn gwlad Llambed, heb hyd yn oed ymweld â’r lle.

“Ar y dechrau, roedd y newid o Lundain i Lambed yn sioc enfawr. Roedd yn od syrthio i gysgu i sŵn defaid yn hytrach na seirenau, ond buan iawn y deuthum i arfer ag ef. Roeddwn i wrth fy modd yno - roedd yn gyfnod arbennig iawn.”

Ar ôl graddio yn 2017, dychwelodd Alice i Lundain a dechrau chwilio am waith.

Cafodd sioc pan ddaeth ar draws swydd wag ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llundain, ac fe’i denwyd i ymgeisio.    

Ers ymuno â theulu’r Drindod Dewi Sant fel aelod o staff, mae Alice wedi ennill sawl dyrchafiad ac mae bellach yn gweithio fel Uwch Swyddog Amserlenni a Thaflenni Amser, rôl y mae’n dweud sy’n heriol ond yn werth chweil.

Dywedodd:

“I mi, mae fy ngwaith i yn union fel datrys pos - rhoi rhannau at ei gilydd a dod allan gyda chanlyniad effeithiol. Rwy’n ei fwynhau’n fawr.

“Mae’n wych gallu gweithio’n ôl yn fy nhref enedigol, i’r un sefydliad a wnes i astudio ynddo yng Nghymru. Un o’r pethau gwych am weithio yma yw fy mod yn dal i ddod ar draws cyn-ddarlithwyr yn ystod ein ymweliadau ar draws y campws.

“Fe wnaeth y staff addysgu a chymorth yn Llambed fy helpu drwy lawer o adegau anodd pan oeddwn i’n fyfyriwr yr wyf dal mor ddiolchgar amdano, felly mae’n wych medru diolch iddynt pan rwy’n eu gweld nhw eto, dal i fyny, a hel atgofion am y gorffennol.

“O’m profiad o astudio a gweithio yn y Drindod Dewi Sant, mae perthynas dda yn tueddu i ffurfio rhwng staff a myfyrwyr yma. Mae hyn oherwydd eu bod yn gwneud yr ymdrech i ddod i’ch adnabod chi fel unigolion sy’n gwneud profiad y myfyriwr yn fwy arbennig fyth.

“Er bod campysau Llambed a Llundain yn wahanol iawn, maen nhw’n rhannu’r un teimlad cyfarwydd - llawn pobl gyfeillgar, a dyna pam mwynheais astudio yma, ac wrth fy modd yn gweithio yma.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau