Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, dathlodd Jonathan Smart, Prif Swyddog Gweithredu Banc Data SAIL a Phennaeth Rhaglenni Adran Gwyddor Data Prifysgol Abertawe, gwblhau ei MA mewn Ymarfer Proffesiynol yn llwyddiannus trwy ddysgu o bell ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Jonathan yn clodfori’r cwrs am wella ei sgiliau myfyrio a chyfrannu’n sylweddol at ei ddatblygiad proffesiynol.

Pobl mewn ystafell gynadledda lawn yn codi ei dwylo fel pe baent yn ymateb i gwestiwn.

Trwy gydol ei yrfa, mae Jonathan wedi casglu sgiliau drwy brofiad gan fentoriaid a chyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Wrth geisio cymhwyster ôl-raddedig, cafodd ei ddenu at gwrs Ymarfer Proffesiynol Y Drindod Dewi Sant, a oedd yn caniatáu iddo drosoli ei arbenigedd presennol a myfyrio ar y dull o’i ddefnyddio trwy gydol ei yrfa.

Meddai Jonathan, “Mae’r cwrs wedi bod yn ardderchog o ran caniatáu i mi ddeall sut mae modelau damcaniaethol a chysyniadol o reoli yn trosglwyddo i sefyllfaoedd cymwys yn y gweithle. Mae ffocws y cwrs ar ymarfer adfyfyriol wedi gwella fy ymagwedd arwain a rheoli, gan roi cipolwg gwerthfawr ar fy mhrosesau gwneud penderfyniadau a dulliau amgen posibl ar gyfer y dyfodol.”

Wedi’i strwythuro yn gymhwyster yn y gwaith, mae dyluniad y cwrs Ymarfer Proffesiynol yn blaenoriaethu hyblygrwydd ac yn cydnabod yr angen i gydbwyso dysgu â gofynion gwaith. Amlygodd Jonathan yr hyblygrwydd eithriadol a ddangoswyd gan arweinwyr y cwrs, yn enwedig yn ystod cyfnod heriol y pandemig.

Pwysleisiodd, “Cwblhawyd cyfran sylweddol o’r modylau yn ystod y pandemig, cyfnod o bwysau gwaith dwys i mi, ond roedd yr hyblygrwydd a ddangosir gan arweinwyr y cwrs yn ardderchog.” 

Wedi’i deilwra’n ddi-dor i weithle arbenigol Jonathan, mae’r cwrs wedi effeithio’n ddwfn ar ei arferion adfyfyriol. Mewn amgylchedd gwaith sy’n symud yn gyflym ac sy’n gofyn am wneud penderfyniadau adweithiol, mae’r dull adfyfyriol a ddysgwyd o’r cwrs yn caniatáu iddo asesu’n feirniadol y gwersi a ddysgwyd a’u defnyddio wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Mynegodd Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen Ymarfer Proffesiynol Y Drindod Dewi Sant, falchder yn y pethau y mae Jonathan wedi’u cyflawni, gan ddweud, “Mae llwyddiant Jonathan yn dyst i effeithiolrwydd ein cwrs Ymarfer Proffesiynol wrth gefnogi gweithwyr proffesiynol i wella eu sgiliau a’u galluoedd arwain. Rydym yn falch iawn o weld yr effaith gadarnhaol ar ei yrfa a’i dwf yn gyffredinol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon